Text only

Cromiwm


bread loaf

Elfen hybrin sy’n gyffredin iawn yn yr amgylchedd yw Cromiwm. Fe’i ceir yn yr aer, mewn dŵr a phridd ac mewn planhigion ac anifeiliaid.

Mae cig, grawn cyflawn (fel bara gwenith cyflawn a cheirch cyflawn), ffacbys a sbeisys yn ffynonellau da o gromiwm.




Faint sydd ei angen arnaf?

Dylech allu cael yr holl gromiwm sydd ei angen arnoch chi trwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys.

Mae angen o leiaf 0.025mg o gromiwm y dydd ar oedolion.

Beth mae’n ei wneud?

Credir ei fod yn dylanwadu ar sut mae inswlin yn ymddwyn yn y corff, felly gall cromiwm effeithio ar faint o egni rydyn ni’n ei gael o’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta.

Beth sy’n digwydd os wna i gymryd gormod?

Nid oes digon o dystiolaeth i ddangos effeithiau cymryd gormod o gromiwm bob dydd.

Beth yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd?

Dylech allu cael yr holl gromiwm sydd ei angen arnoch chi trwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys.

Os byddwch chi’n penderfynu cymryd atchwanegiadau cromiwm, peidiwch â chymryd gormod oherwydd gallai fod yn niweidiol.

Ni fydd cael 10mg neu lai o gromiwm y dydd o fwyd ac atchwanegiadau yn debygol o achosi unrhyw niwed.

Roedd yr Asiantaeth yn arfer cynghori pobl i beidio â chymryd atchwanegiadau cromiwm picolinat yn dilyn adroddiad y Grŵp Arbenigol ar Fitaminau a Mwynau (EVM) yn 2003. Fodd bynnag, yn dilyn adolygiad o ymchwil newydd gan y Pwyllgor ar Fwtagenedd (COM), mae’r Asiantaeth wedi penderfynu nad oes angen cynghori pobl i osgoi cromiwm picolinat mwyach.