Calsiwm
Mae ffynonellau da o galsiwm yn cynnwys llaeth, caws a chynhyrchion llaeth eraill, llysiau gwyrdd deiliog (fel brocoli, bresych ac ocra, ond nid sbinaets), ffa soya, tofu, diodydd soya gyda chalsiwm ychwanegol, cnau, bara ac unrhyw beth a wneir o flawd cyfnerthedig, a physgod gydag esgyrn bwytadwy, fel sardinau a phenwaig Mair.


Faint sydd ei angen arnaf?
Dylai bod modd i chi gael yr holl galsiwm rydych chi ei angen o’ch deiet bob dydd. Mae oedolion angen 700 mg bob dydd.Beth mae’n ei wneud?
Mae gan Galsiwm sawl swyddogaeth bwysig. Er enghraifft mae’n:- helpu i gryfhau’r esgyrn a’r dannedd
- rheoli cyfyngiad cyhyrau, gan gynnwys curiad y galon
- sicrhau bod gwaed yn ceulo’n iawn
Beth sy’n digwydd os wna i gymryd gormod?
Gallai cymryd dognau uchel o galsiwm arwain at boen yn y stumog a dolur rhydd.Beth yw cyngor yr Asiantaeth Safonau Bwyd?
Dylech allu cael yr holl galsiwm rydych chi ei angen drwy fwyta deiet cytbwys ac amrywiol. Os ydych chi’n penderfynu cymryd atchwanegiadau calsiwm, ni ddylech gymryd gormod.Nid yw cymryd 1500 mg neu lai o atchwanegiadau calsiwm bob dydd yn debygol o achosi unrhyw niwed.





