Boron
Mae boron yn elfen hybrin sy’n gyffredin iawn yn yr amgylchedd. Fe’i ceir mewn cefnforoedd, creigiau, priddoedd a phlanhigion. Mae boron i’w gael mewn llysiau gwyrdd, ffrwythau a chnau.


Faint sydd ei angen arnaf?
Dylech allu cael y swm sydd ei angen arnoch drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys.Beth mae’n ei wneud?
Credir bod boron yn helpu’r corff i ddefnyddio’r glwcos, brasterau, oestrogen a mwynau eraill fel calsiwm, copr a magnesiwm, yn y bwydydd a fwytawn.Beth sy’n digwydd os wna i gymryd gormod?
Gallai cymryd dosiau uchel o boron dros gyfnodau hir leihau ffrwythlondeb mewn dynion.Beth yw cyngor yr ASB?
Dylech allu cael y boron rydych ei angen drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys. Ond os penderfynwch chi gymryd atchwanegiadau sy’n cynnwys boron mae’n syniad da peidio â chymryd gormod oherwydd gallai hyn fod yn niweidiol.Ni fydd cymryd 6 mg neu lai o atchwanegiadau boron y dydd yn debygol o achosi unrhyw niwed.





