Biotin
Mae Biotin i’w ganfod mewn llawer o fwydydd. Ffynonellau da yw cig fel aren, wyau a rhai ffrwythau a llysiau, yn arbennig ffrwythau cymysg sych.


Faint sydd ei angen arnaf?
Un o’r grŵp-B o fitaminau yw Biotin ac mae’n toddi mewn dŵr, sy’n golygu eich bod angen biotin yn eich deiet bob dydd oherwydd na ellir ei storio yn y corff. Ond ychydig bach o biotin rydym ei angen.Dylech allu cael yr holl biotin rydych ei angen drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys. Mae oedolion angen rhwng 0.01 mg a 0.2 mg y dydd.
Beth mae’n ei wneud?
Mae gan biotin sawl swyddogaeth bwysig. Er enghraifft mae’n helpu’r corff i drawsnewid y bwyd rydym yn ei fwyta yn egni.Beth sy’n digwydd os wna i gymryd gormod?
Nid oes digon o dystiolaeth i wybod beth yw’r effeithiau posibl o gymryd dosiau uchel o atchwanegiadau biotin bob dydd.Beth yw cyngor yr ASB?
Dylai’r rhan fwyaf o bobl allu cael yr hyn sydd ei angen drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys. Ond os penderfynwch gymryd atchwanegiadau mae’n syniad da peidio â chymryd gormod oherwydd gall fod yn niweidiol.Ni fydd cymryd 0.9 mg neu lai o atchwanegiadau biotin y dydd yn debygol o achosi unrhyw niwed.





