Text only

Beta-caroten


mangos

Beta-caroten sy’n rhoi’r lliw mewn ffrwythau a llysiau melyn ac oren. Y prif ffynonellau bwyd sy’n cynnwys beta-caroten yw llysiau deiliog melyn a gwyrdd fel sbinaets, moron a phupur coch, a ffrwythau melyn fel mango, melon a bricyll.




Faint sydd ei angen arnaf?

Dylech allu cael yr hyn rydych ei angen o’ch deiet bob dydd.

Beth mae’n ei wneud?

Mae Beta-caroten yn cael ei drawsnewid i fitamin A yn y corff, ac felly, mae’n gallu cyflawni’r un swyddogaethau yn y corff â fitamin A.

Beth fydd yn digwydd os wna i gymryd gormod?

Mae atchwanegiadau Beta-caroten yn cynyddu’r risg o ganser yr ysgyfaint ymysg ysmygwyr a phobl a fu mewn cysylltiad ag asbestos yn y gwaith.

Mae’n bosibl y byddai cymryd llawer iawn o atchwanegiadau beta-caroten yn cynyddu’r risg o ganser mewn pobl eraill.

Mae peth gwaith ymchwil yn awgrymu bod cymryd llawer iawn o fitamin A (retinol) dros gyfnod hir yn gallu effeithio ar esgyrn pobl a’u gwneud yn fwy tebygol o dorri pan fyddan nhw’n hŷn. Ond nid yw beta-caroten yn cael yr effaith hwn. Mae hyn oherwydd nad yw’r corff yn gallu trawsnewid beta-caroten i fitamin A yn effeithiol iawn, felly mae’n annhebygol y byddai’n arwain at lefelau uwch o retinol yn y corff.

Beth yw cyngor yr ASB?

Dylech allu cael yr hyn sydd ei angen arnoch drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys. Ond os ydych yn penderfynu cymryd atchwanegiadau beta-caroten mae’n bwysig peidio â chymryd gormod oherwydd gall hyn fod yn niweidiol.

Cyngor yr Asiantaeth yw peidio â bwyta mwy na 7 mg o atchwanegiadau beta-caroten y dydd. Ond dylech barhau i gymryd dos uwch os mai dyna gyngor y meddyg.

Mae pobl sy’n ysmygu neu a fu mewn cysylltiad ag asbestos yn cael eu cynghori i beidio â chymryd atchwanegiadau beta-caroten.

Nid oes tystiolaeth i awgrymu bod y beta-caroten a gawn o fwyd yn niweidiol.