Text only

Fitaminau a mwynau

Vitamins and minerals

Mae’r adran hon yn cynnwys y cyngor a’r wybodaeth am ddiogelwch sydd ei hangen arnat ti i wneud dewisiadau gwybodus am yr holl fitaminau, mwynau ac elfennau hybrin sy’n hanfodol ar gyfer dy iechyd. Mae hefyd yn cynnwys cyngor ar eraill sydd ar gael ar hyn o bryd fel atchwanegiadau deietegol.



Defnyddio’r adran hon

Dylai’r rhan fwyaf o bobl allu cael yr holl faetholion sydd eu hangen arnyn nhw drwy fwyta deiet amrywiol a chytbwys. Ond os ydych chi’n dewis cymryd atchwanegiadau, mae’n bwysig gwybod y gall cymryd gormod neu eu cymryd am gyfnod rhy faith achosi effeithiau niweidiol.

Felly os ydych chi’n dewis cymryd atchwanegiadau, gofalwch bod gennych chi ddigon o wybodaeth amdanyn nhw.

Cyngor ar gyfer oedolion sydd yn yr adran hon. Gallech hefyd fwrw golwg ar y wybodaeth yn yr adran ‘Oedrannau a Chyfnodau’, sydd â chyngor ar faeth i bobl o bob oed ac sy’n cynnwys cyngor ar ba fwydydd i’w hosgoi i fenywod beichiog neu sy’n ceisio am fabi.

Defnyddiwch y ddewislen ar y dde i gael gwybodaeth benodol am fitamin, mwyn neu elfen hybrin.

Beth yw fitaminau?

Maetholion hanfodol sydd eu hangen ar eich corff mewn symiau bach i weithio’n iawn yw fitaminau. Mae dau fath o fitaminau: fitaminau sy’n toddi mewn braster a fitaminau sy’n toddi mewn dŵr.

Fitaminau sy’n toddi mewn braster
Mae fitaminau sy’n toddi mewn braster i’w canfod yn bennaf mewn bwydydd brasterog fel braster anifeiliaid (gan gynnwys menyn a lard), olewau llysiau, cynhyrchion llaeth, iau a physgod olewog.

Mae’ch corff angen y fitaminau hyn bob dydd i weithio’n iawn. Fodd bynnag, nid oes yn rhaid i chi fwyta bwydydd sy’n eu cynnwys bob dydd.

Y rheswm am hyn yw bod eich corff yn storio’r fitaminau hyn yn eich iau a meinweoedd brasterog ar gyfer y dyfodol os nad yw eu hangen ar unwaith. Mae hyn yn golygu bod y fitaminau’n cael eu storio ar gyfer eu defnyddio pan fyddwch chi eu hangen. Ond, os oes gennych chi lawer mwy na sydd ei angen arnoch chi, gall fitaminau sy’n toddi mewn braster fod yn niweidiol.

Mae’r rhain i gyd yn fitaminau sy’n toddi mewn braster:
  • fitamin A
  • fitamin D
  • fitamin E
  • fitamin K
Fitaminau sy’n toddi mewn dŵr
Nid yw fitaminau sy’n toddi mewn dŵr yn cael eu storio yn y corff, felly mae angen i chi eu cael yn amlach.

Os oes gennych chi fwy na’r hyn sydd ei angen arnoch chi, mae’ch corff yn cael gwared ar y fitaminau ychwanegol wrth i chi basio dŵr. Gan nad yw’r corff yn storio fitaminau sy’n toddi mewn dŵr, nid yw’r fitaminau hyn yn niweidiol ar y cyfan.

Mae fitaminau sy’n toddi mewn dŵr i’w canfod mewn ffrwythau, llysiau a grawn. Ond yn wahanol i fitaminau sy’n toddi mewn braster, gall gwres neu aer eu dinistrio. Gellir hefyd eu colli yn y dŵr a ddefnyddir i goginio.

Mae hyn yn golygu ein bod yn colli llawer o’r fitaminau o’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta wrth eu coginio, yn enwedig wrth ferwi. Y ffordd orau o gadw cymaint o’r fitaminau sy’n toddi mewn dŵr â phosibl yw stemio neu grilio bwyd, yn hytrach na berwi.

Mae’r rhain i gyd yn fitaminau sy’n toddi mewn dŵr:
  • fitamin B6
  • fitamin B12
  • fitamin C

  • biotin

  • asid ffolig
  • niacin

  • asid pantothenig
  • ribofflafin
  • thiamin

Beth yw mwynau?

Maetholion hanfodol sydd eu hangen ar eich corff mewn symiau bach i weithio’n iawn yw mwynau. Rydyn ni eu hangen ar y ffurf y maen nhw i’w canfod mewn bwyd.

Mae gwahanol symiau o fwynau i’w canfod mewn amrywiaeth o fwydydd fel cig, grawnfwydydd (gan gynnwys cynhyrchion grawnfwyd fel bara), pysgod, llaeth a chynhyrchion llaeth, llysiau, ffrwythau (yn enwedig ffrwythau sych) a chnau.

Rydym angen mwynau am 3 prif reswm:
  • cryfhau esgyrn a dannedd
  • rheoli hylifau’r corff y tu allan a'r tu mewn i gelloedd
  • troi’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta yn egni
Mae’r rhain i gyd yn fwynau hanfodol:
  • calsiwm
  • haearn
  • magnesiwm
  • ffosfforws
  • potasiwm
  • sodiwm
  • sylffwr

Beth yw elfennau hybrin?

Maetholion hanfodol sydd eu hangen ar eich corff i weithio’n iawn yw elfennau hybrin hefyd, ond mewn symiau llawer llai na fitaminau a mwynau.

Mae symiau bach o elfennau hybrin i’w canfod mewn amrywiaeth o fwydydd fel cig, pysgod, grawnfwydydd, llaeth a chynhyrchion llaeth, llysiau a chnau.

Mae’r rhain i gyd yn elfennau hybrin:
  • boron
  • cobalt
  • copr
  • cromiwm

  • fflworid
  • ïodin
  • manganîs

  • molybdenwm
  • seleniwm

  • silicon
  • sinc