Cig
Mae cig yn ffynhonnell dda o brotein a fitaminau a mwynau, fel haearn, seleniwm, sinc, a fitaminau B. Mae'n un o'r prif ffynonellau o fitamin B12, sydd ond i'w gael mewn cynnyrch anifeiliaid, fel cig a llaeth.


Bwyta llai o fraster
Mae rhai mathau o gig yn uchel mewn braster, yn enwedig braster dirlawn, a all godi lefelau colesterol. Mae cael lefel colesterol uchel yn cynyddu’r posibilrwydd o ddatblygu clefyd y galon.Pan fyddi di'n prynu cig, gall y darn o gig neu gynnyrch cig yr wyt ti'n ei ddewis (a'r ffordd yr wyt ti'n ei goginio) wneud gwahaniaeth mawr.
Er enghraifft, mae coes porc coch, wedi'i rostio'n ganolig, yn cynnwys chwarter y braster sydd mewn darn bol porc gyda braster, wedi'i grilio (5.5g o fraster fesul 100g a 1.9g o fraster dirlawn, o'i gymharu â 23.4g o fraster fesul 100g a 8.2g o fraster dirlawn).
Mae stêc 'rump' heb lawer o fraster, wedi'i grilio, yn cynnwys hanner y braster sydd mewn stêc 'rump' gyda'r braster, wedi'i ffrio (5.9g o fraster fesul 100g a 2.5g o fraster dirlawn o'i gymharu â 12.7g o fraster fesul 100g a 4.9g o fraster dirlawn). Gall lefel y braster sydd mewn briwgig (mince) cig eidion amrywio'n eang hefyd.
Mae brest cyw iâr wedi'i ffrio mewn briwsion bara yn cynnwys bron i 6 gwaith cymaint o fraster â brest cyw iâr wedi'i grilio heb y croen (12.7g o fraster a 2.1g o fraster dirlawn o'i gymharu â 2.2g o fraster fesul 100g a 0.6g o fraster dirlawn).
Ceisia ddewis yr opsiwn sydd â'r lleiaf o fraster lle bynnag y bo'n bosibl. Fel rheol, po fwyaf y darnau gwyn yr wyt ti'n eu gweld ar ddarn o gig, y mwyaf o fraster mae'n ei gynnwys. Felly, er enghraifft, mae gan gig moch cefn lai na hanner y braster sydd mewn cig moch brith (streaky).
Gwneud dewisiadau iachach wrth brynu cig
- Gofynna i'r cigydd am ddarn o gig heb lawer o fraster.
- Os wyt ti'n prynu cig mewn pecyn, darllena'r label i weld faint o fraster sydd ynddo a chofia gymharu cynhyrchion.
- Beth am ddewis twrci a chyw iâr, heb y croen, gan eu bod yn is mewn braster?
- Paid â bwyta gormod o gynhyrchion cig fel selsig, salami, pâté a byrgyrs cig eidion, gan eu bod yn gyffredinol yn uchel mewn braster. Maen nhw’n aml yn cynnwys llawer o halen.
- Cofia fod cynhyrchion cig mewn toes (pastry), fel pastai a rholiau selsig, yn aml yn uchel mewn braster.
Os wyt ti'n ceisio bwyta llai o fraster, mae'n syniad da torri unrhyw fraster a chroen sydd i'w gweld cyn ei goginio gan fod braster, 'crackling' a chroen dofednod yn llawer uwch mewn braster na'r cig ei hun. Dyma rai ffyrdd eraill o leihau braster wrth goginio cig:
- Grilio cig yn hytrach na'i ffrio.
- Ceisia osgoi ychwanegu braster neu olew ychwanegol wrth goginio cig.
- Cer ati i rostio cig ar rac metel uwchben tun rhostio, er mwyn i'r braster allu ddiferu i ffwrdd.
- Ceisia ddefnyddio llai o gig mewn prydau a mwy o lysiau, codlysiau a bwydydd â starts.
Coginio cig yn ofalus
Mae bacteria yn gallu bod yn bresennol ym mhob darn o rai mathau o gigoedd. Felly, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ti goginio'r mathau canlynol o gig nes bod yr hylifau'n rhedeg yn glir ac nad oes unrhyw binc na choch ar ôl ynddynt:
- dofednod a helgig fel cyw iâr, twrci, hwyaden a gŵydd
- byrgyrs a selsig
- cebabs
- darnau o gig wedi'u rholio
Mae hyn yn golygu dy fod yn gallu bwyta darnau cyfan o gig eidion a chig oen pan maent yn binc neu'n waedlyd, gan fod unrhyw facteria sy’n bodoli i’w gael ar du allan y cig fel arfer. Felly os yw'r tu allan wedi'i goginio, dylai hyn ladd unrhyw facteria, hyd yn oed os yw canol y cig dal yn binc. Mae'r cigoedd hyn yn cynnwys:
- stêcs
- cytledi (cutlets)
- darnau o gig (joints)
Storio cig yn ofalus
Mae'n arbennig o bwysig cadw cig yn ddiogel i atal bacteria rhag lledaenu ac osgoi gwenwyn bwyd.- Cofia storio cig/dofednod amrwd mewn cynhwysyddion glân wedi'u selio ar silff waelod yr oergell, fel na all gyffwrdd â bwydydd eraill na diferu arnyn nhw.
- Dilyna unrhyw gyfarwyddiadau storio ar y label a phaid â bwyta cig ar ol ei ddyddiad 'defnyddio erbyn'.
- Os wyt ti wedi coginio cig a ddim yn bwriadu ei fwyta yn syth, dylet ei oeri'n syth ac yna'i roi yn yr oergell neu'r rhewgell. Cofia gadw cig wedi'i goginio ar wahân i gig amrwd.
Mae'n iawn i rewi cig amrwd cyhyd â dy fod yn gwneud y pethau canlynol:
- ei rewi cyn y dyddiad 'defnyddio erbyn'
- dilyn unrhyw gyfarwyddiadau rhewi neu ddadmer ar y label
- ei ddadmer mewn microdon os wyt ti'n bwriadu ei goginio'n syth ar ôl iddo ddadmer, fel arall mae angen i ti ei ddadmer drwy'i roi yn yr oergell fel nad yw'n mynd yn rhy gynnes
- ceisia ddefnyddio'r cig o fewn dau ddiwrnod o'i ddadmer - bydd yn dechrau troi'n ddrwg yn yr un ffordd â chig ffres
- coginia fwyd tan ei fod yn chwilboeth drwyddo
Cofia lanhau platiau, offer, arwynebau a dwylo yn drwyadl bob amser ar ôl iddyn nhw gyffwrdd â chig amrwd neu gig sy'n dadmer, i atal bacteria rhag lledaenu.
Os wyt ti'n dadmer cig ac yna'n ei goginio'n drylwyr, mae'n bosibl ei ail-rewi, ond cofia na ddylet ti ailgynhesu bwyd fwy nag unwaith.
Iau a phâté iau
Mae iau a chynhyrchion iau, fel pâté iau a selsig iau yn ffynhonnell dda o haearn ac yn llawn fitamin A.Ond, gan eu bod yn cynnwys cymaint o fitamin A, os wyt ti'n bwyta iau neu gynhyrchion iau bob wythnos, efallai na ddylet ti eu bwyta mor aml.
Y rheswm am hyn yw bod y corff yn storio unrhyw fitamin A nad yw'n cael ei ddefnyddio, ac mae'n gallu casglu dros nifer o flynyddoedd ac achosi niwed.
Os wyt ti'n bwyta iau neu gynhyrchion iau bob wythnos, dylet osgoi cymryd unrhyw ychwanegion sy'n cynnwys fitamin A neu olewau iau pysgod (sydd hefyd yn uchel mewn fitamin A).
Dylai pobl hŷn osgoi bwyta iau neu gynhyrchion iau fwy nag unwaith yr wythnos, neu gallant fwyta dognau llai. Os wyt ti'n bwyta cynhyrchion iau bob wythnos, dylet hefyd osgoi cymryd unrhyw ychwanegion sy'n cynnwys fitamin A neu olewau iau pysgod. Gall gormod o fitamin A (mwy na 1.5mg o fitamin A y diwrnod o fwyd neu ychwanegion), gynyddu'r perygl o dorri asgwrn.
Mae angen i fenywod sy'n feichiog neu fenywod sy'n ceisio beichiogi osgoi fitamin A hefyd. Gweler isod am gyngor.
Dylai pobl hŷn sydd â system imiwnedd wan (gan gynnwys pobl sydd wedi cael trawsblaniad, pobl sy’n cymryd cyffuriau sy’n gwanhau’r system imiwnedd neu sydd â chanser sy’n effeithio ar y system imiwnedd, megis lewcemia neu lymffoma) a merched beichiog, osgoi pob math o bâté, gan gynnwys pâté llysiau, oherwydd fe allant gynnwys listeria, math o facteria sy’n gallu achosi gwenwyn bwyd difrifol.
Er mwyn atal germau niweidiol rhag tyfu, mae’n bwysig nad wyt ti’n defnyddio bwyd ar ôl ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’, a dilyn y cyfarwyddiadau storio ar labeli bwyd.
Wyt ti'n feichiog?
Gall gwenwyn bwyd fod yn arbennig o annymunol yn ystod beichiogrwydd, felly:- golcha dy ddwylo bob amser ar ôl cyffwrdd â chig amrwd, a chofia gadw bwyd amrwd ar wahân i fwyd sy'n barod i'w fwyta
- gwna'n siŵr dy fod yn coginio'r cig yn gywir. Cymer ofal gyda selsig a briwgig
Dylet hefyd osgoi bwyta iau a chynhyrchion iau, gan gynnwys pâté, gan fod y bwydydd hyn yn cynnwys llawer o fitamin A. Gall gormod o fitamin A niweidio dy fabi yn y groth. Am yr un rheswm, dylet osgoi cymryd ychwanegiadau sy’n cynnwys fitamin A neu olew iau pysgod. Gofynna i dy feddyg teulu neu’r fydwraig am ragor o wybodaeth.





