Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod bod angen i ni fwyta mwy o ffrwythau a llysiau, ac eto nid yw'r rhan fwyaf ohonom yn gwneud hynny! Oeddet ti’n gwybod y dylen ni fwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd?
Gelli ddewis ffrwythau a llysiau ffres, rhai wedi’u rhewi, rhan mewn tun, rhai wedi'u sychu neu sudd. Ond cofia, er nad yw tatws yn cyfrif tuag at dy 5 y dydd gan eu bod yn fwyd â starts, maent yn dal i fod yn rhan bwysig o'th ddeiet.
Llawer! Dylai llysiau a ffrwythau gyfrif am oddeutu traean o’r bwyd rwyt ti’n ei fwyta bob dydd. Mae hefyd yn bwysig i fwyta amrywiaeth. Mae pump y dydd yn darged da a hawdd ei gyrraedd. Os wyt ti'n cyfrif dy ddognau bob dydd, gallai hyn dy gynorthwyo di i gynyddu faint rwyt ti’n ei fwyta.
Ond beth yw dogn?
UN dogn = 80g = unrhyw un o’r rhain
1 afal, banana, gellygen, oren neu ffrwyth arall o’r un maint
2 eirinen neu ffrwyth arall o’r un maint
½ grawnffrwyth neu afocado
1 sleisen o ffrwyth mawr, fel melon neu afal pîn
3 llond llwy fwrdd o lysiau (amrwd, wedi’u coginio, rhewi neu mewn tun)
3 llond llwy fwrdd o ffa a chodlysiau (faint bynnag y byddi di'n fwyta, mae ffa a chodlysiau yn cyfrif fel un dogn y dydd)
3 llond llwy fwrdd o salad ffrwythau (ffres neu mewn tun gyda sudd ffrwythau) neu ffrwythau wedi’u stiwio
1 llond llwy fwrdd o ffrwythau wedi'u sychu (fel rhesins neu fricyll)
1 llond llaw o rawnwin, ceirios neu aeron
Powlen bwdin o salad
Gwydraid (150ml) o sudd ffrwythau (waeth faint wyt ti'n ei yfed, dim ond fel un dogn y dydd mae sudd ffrwythau yn cyfrif)
Gellir colli rhai fitaminau a mwynau’n hawdd wrth baratoi neu goginio llysiau a ffrwythau, felly cofia:
fwyta ffrwythau a llysiau ffres cyn gynted â phosibl yn hytrach na’u cadw am gyfnod maith – neu defnyddia ffrwythau wedi’u rhewi
peidio â gorgoginio. Dechreua gyda dŵr berwedig a’u gorchuddio’n ofalus i gadw’r stêm, gan fod hyn yn cyflymu’r amser coginio. Gallet ti ddefnyddio sosban stemio neu ficrodon
defnyddio cyn lleied o ddŵr â phosibl wrth goginio llysiau a ffrwythau. Os wyt ti’n defnyddio’r dŵr coginio i wneud saws neu gawl, byddi'n adennill rhai o’r fitaminau a mwynau a gollwyd.
osgoi gadael unrhyw lysiau yn agored i’r aer, golau neu wres os ydyn nhw wedi’u torri. Cofia eu gorchuddio a’u hoeri bob tro. Ond paid â’u socian, gan fod y fitaminau a mwynau yn gallu diflannu
peidio â chadw bwyd yn boeth am rhy hir gan fod lefelau fitamin yn dechrau gostwng o fewn ychydig funudau
Mae ffrwythau a llysiau yn cynnwys llawer o fitaminau a mwynau, ond eto nid yw’r rhan fwyaf ohonom yn bwyta digon ohonyn nhw.
Mae tystiolaeth yn awgrymu bod pobl sy’n bwyta llawer o ffrwythau a llysiau yn llai tebygol o ddatblygu clefydau cronig fel clefyd coronaidd y galon a rhai mathau o ganser.
Cofia hefyd bod llysiau a ffrwythau yn isel iawn mewn braster.