Ffrwythau a llysiau
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwybod bod angen i ni fwyta mwy o ffrwythau a llysiau. Ond nid yw’r rhan fwyaf ohonom yn bwyta digon. Oeddet ti’n gwybod y dylen ni fwyta o leiaf pum dogn o ffwythau a llysiau bob dydd?
Gelli ddewis ffrwythau a llysiau ffres, wedi’u rhewi, mewn tun, wedi'u sychu neu fel sudd. Ond cofia nad yw tatws yn cyfrif gan eu bod yn fwyd â starts.


Faint o lysiau a ffrwythau ddylwn i eu bwyta?
Ond beth yw dogn?
| UN dogn = 80g = unrhyw un o’r rhain |
|---|
| 1 afal, banana, gellygen, oren neu ffrwyth arall o’r un maint |
| 2 eirinen neu ffrwyth arall o’r un maint |
| ½ grawnffrwyth neu afocado |
| 1 sleisen o ffrwyth mawr, fel melon neu afal pîn |
| 3 llond llwy fwrdd o lysiau (amrwd, wedi’u coginio, rhewi neu mewn tun) |
| 3 llond llwy fwrdd o ffa a chodlysiau (faint bynnag y byddi di'n fwyta, mae ffa a chodlysiau yn cyfrif fel un dogn y dydd) |
| 3 llond llwy fwrdd o salad ffrwythau (ffres neu mewn tun gyda sudd ffrwythau) neu ffrwythau wedi’u stiwio |
| 1 llond llwy fwrdd o ffrwythau wedi'u sychu (fel rhesins neu fricyll) |
| 1 llond llaw o rawnwin, ceirios neu aeron |
| Powlen bwdin o salad |
| Gwydraid (150ml) o sudd ffrwythau (waeth faint wyt ti'n ei yfed, dim ond fel un dogn y dydd mae sudd ffrwythau yn cyfrif) |
Cael dy bum dogn y dydd
Amser brecwast fe allet ti:
- ychwanegu llond llaw o ffrwythau wedi'u sychu at dy rawnfwyd
- bwyta hanner grawnffrwyth neu afal
- yfed gwydraid o sudd ffrwythau
- powlen o salad
- brechdan fanana
- salad ffrwythau
- ychwanegu llysiau neu godlysiau at dy gyri, caserol neu bryd wedi’i dro-ffrïo
- gweini o leiaf dau fath o lysiau gyda dy bysgodyn, cyw iâr neu gig
Cael y gorau allan o lysiau a ffrwythau
- fwyta ffrwythau a llysiau ffres cyn gynted â phosibl yn hytrach na’u cadw am gyfnod maith – neu defnyddia ffrwythau wedi’u rhewi
- peidio â gorgoginio. Dechreua gyda dŵr berwedig a’u gorchuddio’n ofalus i gadw’r stêm, gan fod hyn yn cyflymu’r amser coginio. Gallet ti ddefnyddio sosban stemio neu ficrodon
- defnyddio cyn lleied o ddŵr â phosibl wrth goginio llysiau a ffrwythau. Os wyt ti’n defnyddio’r dŵr coginio i wneud saws neu gawl, byddi'n adennill rhai o’r fitaminau a mwynau a gollwyd.
- osgoi gadael unrhyw lysiau yn agored i’r aer, golau neu wres os ydyn nhw wedi’u torri. Cofia eu gorchuddio a’u hoeri bob tro. Ond paid â’u socian, gan fod y fitaminau a mwynau yn gallu diflannu
- peidio â chadw bwyd yn boeth am rhy hir gan fod lefelau fitamin yn dechrau gostwng o fewn ychydig funudau
Pam fod hyn yn bwysig
Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos bod pobl sy’n bwyta llawer o ffrwythau a llysiau yn llai tebygol o ddatblygu clefydau cronig fel clefyd coronaidd y galon a rhai mathau o ganser.
Cofia hefyd bod llysiau a ffrwythau yn isel iawn mewn braster.
Argymhellion
- ychwanegu braster neu sawsiau llawn braster at lysiau (fel moron gyda menyn)
- ychwanegu siwgr neu ddresins surop at ffrwythau (fel afal wedi’i stiwio)






Mwy o wybodaeth...