Pysgod a physgod cregyn
Dylem fod yn bwyta o leiaf dau ddogn o bysgod yr wythnos gan gynnwys un dogn o bysgod olewog. Mae pysgod a physgod cregyn yn ffynonellau da o amrywiol fitaminau a mwynau, ac mae pysgod olewog yn arbennig yn llawn asidau brasterog omega 3. Ond os ydym ni am wneud yn siŵr bod digon o bysgod i’w bwyta nawr, ac yn y dyfodol, mae angen i ni ddechrau meddwl am y dewisiadau yr ydym ni’n eu gwneud wrth ddewis pa bysgod i’w bwyta.


Pam fo pysgod yn ddewis iach?
Mae pysgod a physgod cregyn yn ffynonellau da o fitaminau hanfodol, megis niacin, a mwynau hanfodol megis seleniwm ac ïodin.
Mae gwahanol fathau o fwyd môr hefyd yn cynnig gwahanol fanteision i’n hiechyd.
Pysgod olewog
- yn cynnwys pysgod megis eog, mecryll, sardinau, brithyll a phenwaig
- llawn asidau brasterog omega 3, sy’n helpu i atal clefyd y galon
- ffynhonnell dda o fitaminau A a D.
Pysgod gwyn
- yn cynnwys pysgod megis corbenfras, lleden, morlas, celog a phenfras
- isel iawn mewn braster. Mae hyn yn golygu eu bod, fel ffa a chodlysiau neu gyw iâr heb y croen, yn ddewis iachach na chig coch neu gig wedi’i brosesu er enghraifft, sydd fel arfer yn uchel mewn braster, yn arbennig braster dirlawn
- cynnwys peth asidau brasterog omega 3, ond llawer llai na sydd mewn pysgod olewog. Gweler Pysgod olewog, pysgod cregyn ac omega 3 am ragor o wybodaeth am asidau brasterog omega 3.
- yn cynnwys corgimychiaid, cregyn gleision a langwstîn
- isel mewn braster
- ffynhonnell dda o seleniwm, sinc, iodin a chopr
- mae rhai mathau megis cregyn gleision, wystrys, sgwid a chranc hefyd yn ffynonellau da o asidau brasterog omega 3. (Gweler Pysgod olewog ac omega 3).
- yn cynnwys silod mân, sardinau tun, penwaig Mair ac eog
- helpu i wneud ein hesgyrn yn gryfach gan eu bod yn ffynonellau gwych o galsiwm a ffosfforws
Ond nid yw hyn yn golygu na chei di fwynhau ambell i bryd o ‘sgod a sglod’ o bryd i’w gilydd. Beth am ddarllen ein cyngor yn ‘Paratoi a choginio’ er mwyn dysgu sut i baratoi pysgod a sglodion iachach?
Ond paid â bwyta gormod o bysgod…
Er y dylai’r rhan fwyaf o bobl fwyta mwy o bysgod i roi hwb i’w hiechyd, caiff uchafswm ei argymell ar gyfer pysgod olewog a chranc (a rhai mathau o bysgod gwyn), gweler ‘Faint o bysgod olewog?’ yn 'Pysgod olewog, pysgod cregyn ac omega 3'. Hefyd, eto o ganlyniad i resymau iechyd, ni ddylai oedolion gael mwy nag un dogn o gleddbysgodyn, siarc neu farlyn yr wythnos, gan y gallai’r pysgod hyn gynnwys lefelau uchel o fercwri.Dylai pobl sy’n bwyta llawer o bysgod bob wythnos geisio bwyta amrywiaeth mor eang â phosibl, nid yn unig i fod yn iach ond hefyd o ran pryderon ynghylch niferoedd y pysgod.
Mae’r adran 'Beichiogrwydd, plant a babanod’ isod yn cynnwys cyngor am bysgod ar gyfer menywod sy’n feichiog, yn bwydo ar y fron neu sy’n ceisio beichiogi, ac ar gyfer plant a babanod.
Wyt ti’n cymryd atchwanegiadau?
Os wyt ti’n cymryd atchwanegiadau olew iau/afu pysgod, cofia eu bod yn uchel mewn fitamin A, gan fod pysgod yn storio fitamin A yn eu hiau/afu. Gall cael gormod o fitamin A dros lawer o flynyddoedd fod yn niweidiol.Os wyt ti’n cymryd atchwanegiadau sy’n cynnwys fitamin A, cofia sicrhau nad wyt ti’n cael mwy na 1.5mg y dydd o dy fwyd a dy atchwanegiadau.
Pysgod olewog, pysgod cregyn ac omega 3
Mae’r math o asidau brasterog omega 3 a geir mewn pysgod (sef ‘asidau brasterog omega 3 aml-annirlawn cadwyn hir’) yn helpu i atal clefyd y galon. Mae’r asidau brasterog hyn hefyd yn bwysig i fenywod sy’n feichiog neu’n bwydo ar y fron gan eu bod yn helpu system nerfol babi i ddatblygu (gweler ‘Beichiogrwydd, plant a babanod).
Pysgod olewog megis mecryll, sardinau, brithyll, penwaig ac eog yw’r ffynhonnell orau o asidau brasterog omega 3. Mae pysgod cregyn sy’n ffynonellau da yn cynnwys cregyn gleision, wystrys, sgwid a chranc. Mae rhai mathau o bysgod gwyn a physgod cregyn eraill hefyd yn cynnwys asidau brasterog omega 3, ond ddim gymaint ag sydd mewn pysgod olewog.
Beth am gymryd cip ar y tabl isod i weld pa bysgod sy’n olewog a pha rai sydd ddim? A thra dy fod yn edrych ar y rhestrau, meddylia faint o’r pysgod hyn yr wyt ti’n eu bwyta fel arfer? Beth am roi cynnig ar fwyta rhywbeth gwahanol?
| Pysgod olewog | Pysgod gwyn |
|---|---|
| Brwyniaid Carp Llysywod Penwaig Hilsa March fecryll Penwaig cochion Mecryll Draenogyn môr garw Penwaig Mair Eog Sardinau Corbenwaig Cleddbysgodyn Brithyll Tiwna (ffres) Silod mân | Lleden fannog Morflaidd Penfras Celog Lleden dywod Lleden chwithig Lleden fwd Pysgodyn hedegog Chwyrnwr Corbenfras Cegddu Lleden Ffrengig Hoki Pysgodyn darn arian Lleden lefn Honos Marlyn Maelgi Crydd yr afon Pysgodyn parot Lleden goch Morlas Llyfrothen Mingrwn coch a mingrwn llwyd Pysgodyn coch Snapper Morgi / picwd Rohu (hefyd yn cael ei alw’n Ruhi) Draenogyn môr Merfog Siarc Morgath Tilapia Tiwna (tun) Torbwt Gwyniad môr |
Faint o bysgod olewog?
Dylai’r rhan fwyaf o bobl fod yn bwyta mwy o bysgod olewog gan fod asidau brasterog omega 3 yn dda iawn i iechyd ein calonnau.Fodd bynnag, caiff uchafswm ei argymell ar gyfer faint o ddognau o bysgod olewog y dylem ni eu bwyta bob wythnos (mae dogn tua 140g):
| 2 ddogn o bysgod olewog | 4 dogn o bysgod olewog |
|---|---|
| Merched a menywod sy’n bwriadu cael babi yn y dyfodol | Menywod na fydd yn cael babi yn y dyfodol |
| Menywod sy’n feichiog neu’n bwydo ar y fron | Dynion a bechgyn |
Pam bod yr argymhellion hyn yn bodoli?
Gall pysgod olewog gynnwys lefelau isel o lygryddion a all gasglu yn y corff. Mae’r llygryddion a geir mewn pysgod olewog yn cynnwys diocsinau a PCBs (polychlorinated biphenyls). Tueddir i ganfod diocsinau a PCBs mewn pob bwyd sy’n cynnwys brasterau. Ni ydynt yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar iechyd, ond gallant fod yn niweidiol gan eu bod yn casglu yn ein cyrff dros amser.Mae’r uchafswm o bysgod olewog a argymhellir yn is ar gyfer y rhan fwyaf o ferched a menywod gan y gallai lefelau uchel o ddiocsinau a PCBs yn y deiet effeithio ar ddatblygiad babi yn y dyfodol.
Os yw menyw yn newid ei deiet ar ôl iddi feichiogi, neu wrth geisio beichiogi, ni fydd hyn yn effeithio ar lefelau’r diocsinau a’r PCBs sydd eisoes yn ei chorff. Felly mae’n syniad da i ferched gyfyngu ar faint o bysgod olewog maent yn eu bwyta o oedran ifanc.
Mae asidau brasterog omega 3 yn dda ar gyfer datblygiad plentyn, felly ni ddylai menywod beichiog roi’r gorau i fwyta pysgod olewog (gweler ‘Beichiogrwydd, plant a babanod’).
Felly cofia, paid â rhoi’r gorau i fwyta pysgod olewog gan fod y manteision i iechyd yn fwy na’r peryglon cyn belled â nad wyt ti’n bwyta mwy na’r swm a argymhellir.
Mae adolygiadau diweddar wedi dangos y gallai rhai pysgod eraill, yn ogystal â chig cranc brown, gynnwys lefelau tebyg o ddiocsinau a PCBs ag sydd mewn pysgod olewog.
Mae’r rhain yn cynnwys: Merfog, draenogyn môr, torbwt, lleden Ffrengig a morgi / picwd.
Dylai unrhyw un sy’n bwyta llawer o bysgod yn aml ystyried bwyta amrywiaeth ehangach – gan osgoi bwyta cranc a’r pum pysgodyn hwn yn rhy aml. Bydd bwyta amrywiaeth ehangach o bysgod a physgod cregyn hefyd yn helpu i leihau’r effaith amgylcheddol.
Hefyd, ni ddylai oedolion gael mwy nag un dogn o gleddbysgodyn yr wythnos, gan ei fod yn cynnwys lefelau uchel o fercwri.
A oes digon o bysgod yn y môr?
Mae rhai mathau o bysgod, yn arbennig mewn rhai rhannau o’r byd, o dan fygythiad gor-bysgota. Ar yr un pryd, rydym ni’n bwyta mwy o bysgod a physgod cregyn yn y wlad hon a ledled Ewrop. Mae ffermio pysgod a physgod cregyn (a mathau eraill o’r hyn a elwir yn ‘dyframaeth cynaliadwy’) yn chwarae rhan hollbwysig wrth fodloni ein galw am bysgod a physgod cregyn, ynghyd â physgota môr.
Dyma ychydig o bethau ymarferol y gallwn ni eu gwneud wrth ddewis bwyd môr:
- ceisia ddewis pysgod a physgod cregyn sy’n hannu o ffynonellau sydd wedi’u rheoli’n gyfrifol. Mae hyn yn golygu y bydd y pysgodyn yn cael ei ddal mewn modd sy’n galluogi poblogaeth y pysgod i oroesi yn y dyfodol. Neu dewisa bysgod a physgod cregyn sydd wedi’u cynhyrchu’n gynaliadwy, sy’n golygu eu bod wedi’u ffermio mewn ffordd sy’n galluogi poblogaeth y pysgod i barhau yn y dyfodol. Mae’r wybodaeth isod yn nodi lle mae modd cael cyngor ar ddewis bwyd môr cynaliadwy
- darllena’r labeli ar bysgod. Mae’r rhain yn aml yn dweud wrthyt o ble y daw’r pysgodyn yn ogystal â’i rywogaeth. Gall hyn fod yn bwysig gan ei bod yn bosibl bod stociau o rai mathau yn dirywio mewn rhai ardaloedd ond nid rhai eraill
- cofia gadw llygad am logos cynlluniau sicrwydd (‘labeli-eco’), er enghraifft ‘tic glas’ y Cyngor Stiwardiaeth Forol
- bydda’n wahanol – rho gynnig ar rywbeth newydd. Os wyt ti’n bwyta pysgod yn rheolaidd, ceisia fwyta amrywiaeth ehangach er mwyn helpu i leihau’r effaith ar yr amgylchedd
Elusen yn y DU yw’r Gymdeithas Cadwraeth Forol (MCS) sy’n cynnig safbwynt ar y cyflenwad cynaliadwy o fwyd môr wedi’i ffermio a bwyd môr gwyllt. Maent yn darparu gwefan am bysgod sy’n cynnwys gwybodaeth ar ddewis pysgod sydd wedi’u dal yn gynaliadwy: www.fishonline.org
Sefydliad byd-eang yw’r Cyngor Stiwardiaeth Forol (MSC) gyda safonau ar gyfer asesu cynaliadwyedd pysgota. Mae’r MSC yn cynnal rhaglen ardystio a labelu ar gyfer bwyd môr gwyllt cynaliadwy. Caiff yr asesiadau eu cynnal gan swyddogion ardystio trydydd parti wedi’u hachredu, a hynny’n annibynnol. Mwy am y MSC: www.msc.org
Mae Seafish yn sefydliad sy’n ceisio hyrwyddo bwyd môr cynaliadwy o ansawdd, a chaiff ei gyllido gan Adrannau Pysgodfeydd Llywodraethol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Gweler: www.seafish.org
Mae’r rhan fwyaf o’r pysgod sy’n cael eu dal yn y DU yn cael eu bachu yn yr Alban, ac yn ddiweddar, lansiodd Llywodraeth yr Alban ei menter ‘Eat more fish’, sydd â’r nod o annog pobl i fwyta mwy o fwyd môr o’r Alban. Mae ei wefan hefyd yn cynnwys dolenni defnyddiol at wybodaeth am gynaliadwyedd pysgod. Gweler: www.scotland.gov.uk/topics/fisheries/fish
Mae Seafood Scotland yn gorff rhanbarthol a sefydlwyd i farchnata, hyrwyddo a datblygu bwyd môr sy’n cael ei ddal mewn modd cyfrifol. Gweler: www.seafoodscotland.org
Mae mwy o wybodaeth am yr hyn y mae’r Llywodraeth a sefydliadau eraill yn ei wneud am gynaliadwyedd pysgod ar gael drwy’r ddolen isod.
Paratoi a choginio
Os wyt ti awydd bod yn anturus, beth am ddewis gwahanol fathau o bysgod a physgod cregyn nad wyt ti wedi’u coginio o’r blaen?
Dilyna’r dolenni isod i gael syniadau am sut i wneud hyn:
Os wyt ti am wneud dewis iachach, cofia ddewis pysgod neu bysgod cregyn sydd wedi’u stemio, eu pobi neu eu grilio, yn hytrach na rhai wedi’u ffrïo, gan fod ffrïo yn achosi i bysgod a physgod cregyn fod yn uchel iawn mewn braster, yn arbennig os ydynt yn cael eu coginio mewn cytew.
Ond nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i ti roi’r gorau i gael pryd bach o ‘sgod a sglod’ o bryd i’w gilydd. Os wyt ti’n paratoi dy ‘sgod a sglod’ dy hun gartref, neu os wyt ti wrth dy fodd yn ymweld â’r siop ‘sgod a sglod’ o dro i dro, darllena’r cyngor hwn i dy helpu i’w wneud yn ddewis iach:
- beth am gael ffa pob, pys neu salad gyda dy ‘sgod a sglod’?
- pan fyddi di’n archebu dy fwyd, gofynna amdano heb halen, ac yna’i ychwanegu dy hun i roi blas. Ceisia ddefnyddio llai – cofia, gelli di fwynhau digonedd o finegr!
- cymer ofal gyda’r sos coch a’r mayonnaise, gan fod y pethau hyn yn gallu bod yn uchel mewn halen. Ac os wyt ti’n bwyta allan, gofynna am ddresin salad neu saws ar yr ochr, fel nad wyt ti’n cael gormod ar dy blât
- beth am gael rhôl fara gyda dy sglodion, a rhoi cynnig ar ddogn llai? Neu beth am eu rhannu gyda ffrind?
- po fwyaf trwchus yw’r sglodion y gorau, gan eu bod yn amsugno llai o fraster
- os yw’r olew ar y tymheredd iawn, nid yn unig fydd dy bryd ‘sgod a sglod’ yn blasu’n well, ond bydd hefyd yn amsugno llai o fraster
- ceisia osgoi bwyta pob darn o’r cytew ar bysgodyn, gan fod hwn yn cynnwys llawer o fraster
Prynu pysgod a physgod cregyn
Ar ôl i ti benderfynu pa fathau o bysgod yr wyt ti am eu prynu, ceisia gofio’r pwyntiau canlynol wrth ddewis:- pryna bysgod a physgod cregyn o siopau cyfrifol. Bydda’n wyliadwrus o bobl yn gwerthu bwyd môr o gist eu car
- dewisa bysgod neu bysgod cregyn ffres sydd wedi’i hoeri neu eu storio ar rew
- paid â phrynu pysgod neu bysgod cregyn sydd wedi’u coginio neu sy’n barod i’w bwyta sy’n cyffwrdd â physgod neu bysgod cregyn amrwd. Dylid eu cadw ar wahân bob amser
- pan fyddi di’n siopa, y pysgod a’r pysgod cregyn yw’r pethau olaf i fynd yn y fasged, a chofia eu cludo yn syth adref. Maent yn mynd yn ddrwg yn gyflym iawn
Storio a pharatoi pysgod a physgod cregyn
Ar ôl i ti gyrraedd adref, cofia:- roi pysgod a physgod cregyn yn yr oergell neu'r rhewgell cyn gynted ag y byddi di'n cyrraedd adref
- gwna'n siŵr bod pysgod a physgod cregyn mewn cynwysyddion wedi’u gorchuddio ond paid â rhoi cregyn gleision, wystrys na chregyn Berffro mewn cynwysyddion heb aer gan eu bod angen anadlu
- paid â storio pysgod na physgod cregyn mewn dŵr
- tafla unrhyw gregyn gleision, wystrys, cregyn Berffro neu unrhyw bysgod cregyn byw os yw’r cregyn wedi cracio neu dorri, neu os yw’r cregyn ar agor neu’n gwrthod cau pan fyddi di’n eu curo. Bydd pysgod cregyn byw yn 'cau yn dynn' wrth i ti guro ar eu cregyn
- golcha dy ddwylo cyn ac ar ôl trin pysgod neu bysgod cregyn
- paid â gadael i bysgod neu bysgod cregyn amrwd ddod i gysylltiad â bwydydd parod neu fwydydd wedi'u coginio
- defnyddia wahanol fyrddau torri, cyllyll, platiau ac ati ar gyfer paratoi pysgod neu bysgod cregyn amrwd a rhai sydd wedi’u coginio
- mae’n well dadmer pysgod neu bysgod cregyn yn yr oergell dros nos, neu os oes angen i ti eu dadmer yn gynt, mae'n bosibl defnyddio micro-don. Defnyddia'r opsiwn 'dadmer' a'i ddiffodd pan fo'r pysgodyn yn rhewllyd ond yn hyblyg
- Os wyt ti’n marinadu bwyd môr, cofia ei roi yn yr oergell a thaflu'r marinâd ymaith ar ôl tynnu'r pysgod neu'r pysgod cregyn amrwd ohono. Os wyt ti am ddefnyddio'r marinâd fel dip neu saws, rho beth o'r neilltu cyn iddo gyffwrdd â'r pysgodyn amrwd
Osgoi gwenwyn bwyd gan bysgod cregyn
Mae rheolau a phrosesau monitro llym ar waith sy’n golygu y dylai’r holl bysgod cregyn yn y DU fod yn ddiogel i’w bwyta, a hynny os ydynt wedi’u coginio neu os ydynt yn amrwd.Fodd bynnag, mae pysgod cregyn megis cregyn gleision, cregyn Berffro ac wystrys yn gallu cynnwys bacteria a firysau niweidiol pan fyddant yn cael eu bwyta’n amrwd neu wedi’u coginio’n rhannol. Mae’r pysgod cregyn hyn yn ‘bwydo drwy hidlo’. Mae hyn yn golygu bod y dŵr y maent yn byw ynddo yn pasio drwyddynt ac maent yn hidlo eu bwyd o’r dŵr hwn. Felly mae unrhyw lygredd neu germau sydd yn y dŵr yn casglu yn y pysgod môr.
Mae hefyd yn bwysig bod yn ofalus sut wyt ti’n storio, paratoi a choginio pysgod cregyn. Felly gwna’n siŵr dy fod yn dilyn y cyngor yn yr adrannau ‘Prynu pysgod a physgod cregyn’ a ‘Storio a pharatoi pysgod a physgod cregyn’ uchod.
Fodd bynnag, dylai fod yn iawn bwyta pob math o bysgod cregyn sydd wedi’u coginio’n drylwyr, gan fod hyn fel arfer yn lladd unrhyw facteria neu feirysau sydd ynddynt.
Mae’r rhan fwyaf o’r pysgod cregyn yr ydym ni’n eu bwyta wedi’u coginio’n gyntaf, ond mae wystrys fel arfer yn cael eu gweini’n amrwd, felly bydda’n arbennig o ofalus wrth brynu a storio wystrys.
Efallai y dylai pobl hŷn, merched beichiog, plant ifanc iawn a phobl sydd eisoes yn sâl osgoi bwyta pysgod cregyn amrwd er mwyn lleihau’r perygl o gael gwenwyn bwyd.
Alergedd i bysgod a physgod cregyn
Nid yw coginio pysgod neu bysgod cregyn yn gwneud i rywun sydd ag alergedd iddynt yn llai tebygol o gael adwaith.Mae alergeddau i bysgod neu bysgod cregyn yn eithaf cyffredin ac weithiau, gallant achosi adweithiau difrifol. Mae pobl sydd ag alergedd i un math o bysgodyn yn aml yn adweithio i fathau eraill hefyd. Yn ogystal, mae pobl sydd ag alergedd i un math o bysgod cregyn, megis corgimychiaid, crancod, cregyn gleision neu gregyn bylchog, yn aml yn adweithio i fathau eraill hefyd.
Beichiogrwydd, plant a babanod
Yn ceisio beichiogi, yn feichiog neu'n bwydo ar y fron
Mae'n bosibl bwyta'r rhan fwyaf o bysgod os wyt ti’n ceisio beichiogi, yn feichiog neu'n bwydo ar y fron. Mae bwyta pysgod yn dda i dy iechyd ac i ddatblygiad dy fabi. Ond mae angen i ti osgoi rhai mathau o bysgod a chyfyngu ar faint yr wyt ti'n bwyta o rai eraill.Mae'r tabl hwn yn dangos yr uchafswm y dylet ei gael bob wythnos o'r pysgod hynny y mae angen i ti gyfyngu arnynt.
| Ceisio beichiogi | Beichiog | Bwydo ar y fron | |
|---|---|---|---|
| pysgod olewog | 2 ddogn | 2 ddogn | 2 ddogn |
| tiwna | 2 stecen diwna neu 4 tun | 2 stecen diwna neu 4 tun | 2 stecen diwna neu ddim cyfyngiad ar duniau |
| siarc, cleddbysgodyn a marlyn | paid â'u bwyta | paid â'u bwyta | 1 (yr un fath i bob oedolyn) |
Mae'r ffigurau ar gyfer tiwna yn seiliedig ar stecen diwna sy'n pwyso 140g pan fydd wedi'i choginio neu 170g yn amrwd, a thuniau o faint canolig gyda phwysau (ar ôl draenio) o tua 140g y tun.
Nid yw tiwna tun yn cyfrif fel dogn o bysgod olewog, felly mae'n bosibl bwyta hwn yn ogystal â dy uchafswm o ddau ddogn o bysgod olewog. Ond, os wyt ti'n bwyta tiwna tun, paid â dewis tiwna ffres fel dy bysgod olewog. A chofia, os wyt ti'n bwyta dwy stecen o diwna ffres mewn wythnos, ni ddylet fwyta unrhyw bysgod olewog eraill yn ystod yr wythnos honno.
Pan fyddi di’n cadw cofnod o’r pysgod ti’n eu cael mewn wythnos, bydd angen i ti gynnwys ambell i fath arall o bysgod (yn ogystal â chranc) gan eu bod yn cynnwys lefelau tebyg o docsinau a PCBs (deuffenyl policlorynedig) ag sydd mewn pysgod olewog, sef Merfog, draenogyn môr, torbwt, lleden Ffrengig a morgi / picwd.
Dylet gyfyngu ar fwyta siarc, cleddbysgodyn, marlyn a thiwna gan fod y pysgod hyn yn cynnwys mwy o fercwri na mathau eraill o bysgod. Nid yw’r mercwri sydd mewn bwyd yn ddigon i achosi niwed i'r rhan fwyaf o bobl, ond os wyt ti'n cael llawer o fercwri tra’r wyt ti'n feichiog, gallai effeithio ar ddatblygiad system nerfol dy fabi.
Mae pysgod olewog yn dda i'n hiechyd, ond mae angen i ni gyfyngu ar faint yr ydym yn ei fwyta, gan eu bod yn cynnwys llygryddion. Nid yw’r llygryddion hyn yn cael unrhyw effeithiau uniongyrchol ar ein hiechyd, ond gallant gronni yn y corff dros amser.
Mae olewau brasterog Omega 3 yn dda i ddatblygiad babi, felly paid â rhoi’r gorau i fwyta pysgod olewog. Os wyt ti’n newid dy ddeiet ar ôl i ti feichiogi, ni fydd hyn yn newid lefel y llygryddion sydd eisoes yn dy gorff. Y cyfan sydd angen i ti ei wneud yw cadw at yr argymhellion yn y tabl uchod.
Oni bai bod dy feddyg teulu wedi dy gynghori yn wahanol, dylet hefyd osgoi cymryd atchwanegiadau olew iau/afu pysgod pan wyt ti'n feichiog neu'n bwriadu dechrau teulu gan eu bod yn cynnwys llawer o fitamin A, a all niweidio dy fabi yn y groth.
Pan wyt ti'n feichiog, efallai y dylet osgoi bwyta pysgod cregyn amrwd hefyd, er mwyn lleihau'r posibilrwydd o gael gwenwyn bwyd, a all fod yn arbennig o annymunol i ferched beichiog.
Gweler y dolenni isod i gael mwy o gyngor ynglŷn â’r bwydydd i’w hosgoi.
Plant a babanod
Paid â rhoi unrhyw bysgod neu bysgod cregyn i fabanod sy'n iau na chwe mis oed gan fod yna bosibilrwydd y gallant gael adwaith alergaidd.Dylai plant osgoi bwyta siarc, cleddbysgodyn neu farlyn gan fod lefel y mercwri yn y pysgod hyn yn gallu effeithio ar ddatblygiad systemau nerfol plant sy'n tyfu.
Efallai y dylet hefyd osgoi rhoi pysgod cregyn amrwd i blant a babanod er mwyn lleihau'r risg o gael gwenwyn bwyd.






Mwy o wybodaeth...