Text only

Wyau


eggs

Mae wyau yn ffynhonnell dda o brotein, ac maen nhw’n cynnwys fitaminau a mwynau. Maen nhw hefyd yn hawdd i'w paratoi. Ond mae'n bwysig eu trin, eu coginio a'u storio'n gywir i osgoi gwenwyn bwyd yn enwedig i blant ifanc iawn, merched beichiog a phobl hŷn.




Faint o wyau?

egg Nid oes uchafswm pendant o ran faint o wyau y dylai pobl eu bwyta. Mae wyau yn ddewis da fel rhan o ddeiet cytbwys iach. Ond cofia ei bod yn syniad da amrywio dy ddeiet cymaint â phosibl. Mae hyn yn golygu y dylem geisio bwyta pob math o wahanol fwydydd bob wythnos er mwyn cael yr amrywiaeth eang o faethynnau sydd eu hangen arnom.

Mae wyau yn ffynhonnell dda o:
  • brotein
  • fitamin D
  • fitamin A
  • fitamin B2
  • ïodin
Gall wyau wneud pryd iachus iawn. Beth am roi cynnig ar un o'r rhain i frecwast, i ginio neu i swper?
  • Omled Sbaenaidd gyda darnau o datws wedi'u coginio (gelli ddefnyddio'r tatws sydd dros ben ers swper y noson gynt) a nionod/winwns gyda llysiau wedi'u stemio neu salad. Mae pob math o lysiau yn flasus mewn omled - mae tatws melys, puprynnau, shibwns a madarch i gyd yn ddewisiadau da.
  • Mae wy wedi'i botsio a ffa pob (dewisa fersiynau gyda llai o halen a siwgr os oes modd) wedi'u gweini ar dost trwchus yn gwneud cinio cynnar gwych - gelli ei weini gyda thomatos neu fadarch wedi'u grilio.

  • Wyau wedi'u sgramblo ar dafelli trwchus o fara brown, ychwanega shibwns neu fadarch a'u gweini gyda thomatos wedi'u grilio.

  • Wyau wedi'u berwi a'u torri'n fân mewn salad haf. Drwy ychwanegu dail salad, tatws newydd, ffa gwyrdd, nionod/winwns coch, olifau, wy wedi'i ferwi a thiwna, mae'n bosibl creu salad niçoise blasus.
Ond cofia y gallai quiche neu fflan gynnwys llawer o fraster a halen, felly ceisia osgoi bwyta'r rhain yn rhy aml. Mae'r crwst yn cynnwys llawer o fraster, ac maent yn aml yn cynnwys hufen a chaws, a chig moch weithiau hefyd. Mae'r cyfan yn ychwanegu at lefel y braster dirlawn a halen.

Os wyt ti'n paratoi dy quiche neu dy fflan dy hun, paid ag ychwanegu gormod o hufen a chaws - os wyt ti'n defnyddio caws sydd â blas cryf, dim ond ychydig ohono fydd ei angen arnat. Ac ychwanega rhywfaint o lysiau fel brocoli, puprynnau a thomatos.

Mae wyau wedi'u ffrïo yn cynnwys mwy o fraster na wyau wedi'u berwi, eu potsio neu'u sgramblo, ond does dim byd o'i le ar eu cael o bryd i'w gilydd. Os wyt ti awydd wy wedi'i ffrïo, defnyddia olew sy'n uchel mewn braster annirlawn fel olew blodyn yr haul. Mae'n syniad da draenio cymaint o'r olew ag sy'n bosibl, a byddai hefyd yn helpu i roi'r wy ar ychydig o bapur cegin cyn ei roi ar dy blât.

Wyau a cholesterol

Mae wyau yn cynnwys colesterol ac mae lefelau uchel o golesterol yn ein gwaed yn cynyddu'r perygl o ddatblygu clefyd y galon.

Fodd bynnag, mae’r braster dirlawn yr ydym yn ei fwyta yn cael mwy o effaith ar lefel y colesterol yn ein gwaed na'r colesterol yr ydym yn ei gael o fwyd - ac mae hyn yn cynnwys wyau. Felly os wyt ti'n bwyta deiet cytbwys, nid oes rhaid i ti boeni am fwyta llai o wyau oni bai bod dy feddyg teulu neu dy ddeietegydd wedi dy gynghori i wneud hynny. Os yw dy feddyg teulu wedi dy rybuddio i gadw golwg ar lefelau dy golesterol, y peth pwysicaf i'w wneud yw bwyta llai o fraster dirlawn.

Cadw wyau yn ddiogel

egg shell broken Gall bwyta wyau amrwd, neu wyau sydd â melynwy meddal, neu unrhyw fwyd sy'n cynnwys y rhain, achosi gwenwyn bwyd, yn arbennig i unrhyw un sy'n:
  • ifanc iawn (babanod a phlant bach)
  • hen
  • beichiog
  • eisoes yn sâl
Y rheswm am hyn yw bod rhai wyau yn cynnwys bacteria salmonela, a allai achosi salwch difrifol, yn arbennig i unrhyw un yn y grwpiau uchod. Felly os wyt ti'n paratoi bwyd i unrhyw un yn y grwpiau hyn, cofia ofalu bob amser bod yr wyau wedi'u coginio nes bod y gwyn a'r melynwy yn galed.

Os wyt ti am ddewis yr opsiwn mwyaf diogel, gelli ddefnyddio wy wedi'i basteureiddio mewn bwydydd nad ydynt yn cael eu coginio neu sydd ond yn cael eu coginio'n ysgafn. A'r dewis mwyaf diogel, er enghraifft ar gyfer arlwywyr sy'n paratoi bwyd ar gyfer y grwpiau sy'n agored i niwed, yw defnyddio wy wedi'i basteureiddio bob tro.

Mae tri phrif beth y dylai pawb fod yn ymwybodol ohonynt:
  • osgoi lledaenu bacteria
  • coginio wyau yn gywir
  • storio wyau yn ddiogel
Osgoi lledaenu bacteria
Gall bacteria ledaenu'n hawdd o wyau i fwydydd eraill, dwylo, arwynebau gwaith ac ati. Gall bacteria fod ar y plisgyn, yn ogystal ag ar du mewn yr wy, felly mae angen i ti fod yn ofalus sut wyt ti'n trin wyau, pan maen nhw’n gyfan ac ar ôl eu tynnu o'r plisgyn.

Os wyt ti'n cyffwrdd ag wyau, neu'n cael rhywfaint o wynwy neu felynwy ar dy ddwylo, gallet ledaenu bacteria i unrhyw beth arall yr wyt ti'n cyffwrdd ag ef, boed yn fwyd neu'n handlen yr oergell, felly gofala dy fod yn golchi ac yn sychu dy ddwylo yn drwyadl.

Os oes wy cyfan, plisgyn wy, neu ddiferion o wynwy neu felynwy yn cyffwrdd â bwyd arall, yna gall bacteria ledaenu i'r bwydydd hynny.

Gall bacteria hefyd ledaenu ar arwynebau gwaith, llestri ac offer y mae'r wyau yn cyffwrdd â nhw ac yna gall y bacteria ledaenu i fwydydd eraill sy'n cyffwrdd â'r arwynebau gwaith, y llestri neu'r offer hynny.

Felly cofia:
  • Gadw wyau ar wahân i fwydydd eraill, pan maen nhw yn eu plisgyn neu ar ôl i ti eu cracio.
  • Bydda'n ofalus i beidio â thasgu wy ar fwydydd eraill, arwynebau gwaith neu lestri.

  • Golcha a sycha dy ddwylo yn drwyadl ar ôl cyffwrdd ag wyau neu weithio gyda nhw.

  • Cofia lanhau arwynebau, llestri ac offer yn drwyadl, gan ddefnyddio dŵr sebon cynnes, ar ôl gweithio gydag wyau.
Coginia wyau yn gywir
Trwy goginio wyau nes bod y gwyn a’r melyn yn galed, byddi di'n lladd unrhyw facteria. Os wyt ti'n coginio pryd sy'n cynnwys wyau, gofala dy fod yn ei goginio nes y bydd y bwyd yn chwilboeth drwyddo.

Gall bwydydd sy’n cynnwys wyau amrwd ac sydd ond yn cael eu coginio'n ysgafn neu ddim o gwbl, achosi gwenwyn bwyd. Y rheswm am hyn yw na fydd unrhyw facteria yn yr wyau yn cael ei ladd.

Gallai pob un o'r canlynol gynnwys wyau amrwd:
  • mayonnaise cartref

  • sawsiau Béarnaise a hollandaise
  • rhai dresinau salad
  • hufen iâ
  • eisin
  • mousse
  • tiramisu a phwdinau eraill
Er mwyn gwneud y dewis mwyaf diogel, gallet ddefnyddio wy wedi'i basteureiddio yn lle hynny (ar gael o rai archfarchnadoedd), oherwydd bod y broses o basteureiddio yn lladd bacteria.

Os wyt ti'n poeni, pan fyddi di'n bwyta allan neu'n prynu bwyd nad yw wedi'i labelu ac nad wyt yn siwr a yw'r bwyd yn cynnwys wy amrwd, gofynna i'r sawl sy'n gweini.

Os wyt ti'n prynu mayonnaise, dresinau salad, sawsiau, hufen iâ, pwdinau, neu eisin parod wedi'u cynhyrchu'n fasnachol, wy wedi'i basteureiddio fydd yn y rhain bron bob amser. Ond cofia edrych ar y label, a gofynna os nad wyt ti'n sicr.

Storio wyau yn ddiogel
Dyma rai awgrymiadau i dy helpu i storio dy wyau yn ddiogel:
  • Storia wyau mewn lle oer, sych, yn ddelfrydol yn yr oergell.
  • Storia wyau ar wahân i fwydydd eraill. Mae'n syniad da i ddefnyddio'r lle cadw wyau yn dy oergell, os oes gen ti un, gan fod hyn yn helpu i gadw'r wyau ar wahân.
  • Cofia fwyta prydau sy'n cynnwys wyau cyn gynted â phosibl ar ôl i ti eu paratoi, ond os nad wyt ti'n bwriadu eu bwyta'n syth, dylet eu hoeri nhw'n gyflym ac yna eu cadw yn yr oergell.

  • Paid â defnyddio wyau ar ôl eu dyddiad 'ar ei orau cyn' er mwyn gwneud y dewis mwyaf diogel.
  • Paid â defnyddio wyau sydd â chrac yn y plisgyn oherwydd y gallai baw neu facteria fod wedi mynd i mewn iddyn nhw.