Dŵr a diodydd ysgafn
Mae dŵr yn ddewis iach ar unrhyw adeg ac mae sudd ffrwythau yn ddewis da gyda phryd bwyd. A chofiwch am laeth, sy'n ddewis maethlon yn enwedig i blant. Cofiwch edrych ar labeli diodydd oherwydd yn aml iawn, mae siwgr ychwanegol ynddyn nhw.


Dŵr
Os nad ydych yn hoffi blas dŵr plaen, dylech roi cynnig ar ddŵr pefriog, neu ychwanegu sleisen o lemwn neu leim ato. Gallech hefyd roi cynnig ar ychwanegu rhywfaint o ddiod ffrwythau neu sudd ffrwythau i gael blas.
Llaeth
Mae llaeth yn arbennig o bwysig i blant bach. Dylen nhw yfed llaeth llawn hyd nes eu bod yn ddwy flwydd oed o leiaf oherwydd efallai na fyddan nhw’n cael cymaint o galorïau ag sydd eu hangen arnynt o laeth hanner sgim.
Ar ôl dwy oed, gall plant symud yn raddol i yfed llaeth hanner sgim fel prif ddiod, cyhyd â'u bod yn bwyta'n dda ac yn cael digon o galorïau a maetholion o ddeiet amrywiol.
Peidiwch â rhoi llaeth sgim i blant hyd nes y byddan nhw’n bump oed o leiaf.
Sudd ffrwythau a smwddis
Ond mae sudd ffrwythau hefyd yn cynnwys math o siwgr a all niweidio dannedd, felly mae'n well ei yfed gyda phryd o fwyd.
Mae’r siwgr a geir yn naturiol mewn ffrwythau’n llai tebygol o achosi pydredd dannedd oherwydd ei fod yn rhan annatod o’r ffrwyth. Ond, pan fo’r ffrwyth wedi’i ddefnyddio i wneud sudd neu wedi’i gymysgu, caiff y siwgr ei ryddhau. Gall y siwgr hwn, wedi’u rhyddhau, niweidio dannedd, yn arbennig os yfir sudd ffrwythau’n gyson.
Pan rydych yn dewis sudd ffrwythau, cofiwch edrych ar y labeli yn ofalus i wneud yn siŵr eich bod yn prynu sudd ffrwythau 100% ac nad oes siwgr ychwanegol ynddo. Hefyd, cadwch lygad allan am 'ddiodydd sudd', sy'n cynnwys cyn lleied â 5% o sudd ffrwythau ac sy'n cynnwys llawer o siwgr.
Diodydd swigod, diod ffrwythau a diodydd chwaraeon
Mae yfed llai o ddiodydd gyda llawer o siwgr yn ffordd dda o leihau eich cymeriant egni oherwydd ni fyddwch yn colli allan ar unrhyw faetholion drwy yfed llai ohonyn nhw. Bydd hyn yn newyddion da i'ch dannedd hefyd.
Os rydych chi neu'ch plant yn hoffi diodydd swigod rhowch gynnig ar wanhau sudd ffrwythau gyda dŵr pefriog. Cofiwch wanhau diod ffrwythau yn dda i blant ac mae hyn hefyd yn syniad da i oedolion os ydych am leihau faint o siwgr rydych yn ei gael. Er lles eich dannedd, cofiwch os ydych yn cael diodydd llawn siwgr neu ddiodydd swigod, mae'n well eu cael gyda phrydau bwyd.
Mae ymchwil yn dangos bod plant a phobl ifanc yn y DU yn bwyta gormod o siwgr, ac mae mwy ohono yn dod o ddiodydd swigod nag unrhyw fath arall o fwyd neu ddiod.
Mae plant sy'n cael llawer o ddiodydd llawn siwgr, fel diodydd swigod a diodydd ffrwythau, yn fwy tebygol o fod dros bwysau ac yn fwy tebygol o fagu pwysau.
Felly mae cael plant i yfed llai o ddiodydd llawn siwgr yn ffordd dda o leihau faint o siwgr y maen nhw’n ei fwyta. Y diodydd gorau i'w rhoi i blant yw dŵr, llaeth ac ysgytlaethau heb siwgr ychwanegol.
Nid yw fersiynau 'deiet' o ddiodydd swigod yn cynnwys llawer o faetholion, felly mae llaeth neu ddŵr yn ddewisiadau llawer mwy iach, yn enwedig ar gyfer plant.
Diodydd chwaraeon
Gall y mathau hyn o ddiodydd fod yn ddefnyddiol iawn pan rydych yn gwneud chwaraeon dygnwch ac angen hwb i'r egni.
Ond dydyn nhw ddim yn wahanol i unrhyw ddiodydd ysgafn llawn siwgr arall sy'n golygu eu bod yn cyfrannu at bydredd dannedd a'u bod yn uchel iawn mewn calorïau. Felly oni bai eich bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon dygnwch, mae'n debygol mai dŵr yw'r ffordd orau i chi ail-hydradu.
Te a choffi
Ond mae te a choffi hefyd yn cynnwys cyfansoddion, o'r enw polyffenolau, sy'n rhwymo gyda haearn gan ei gwneud hi’n anoddach i'n cyrff i'w amsugno. Felly gall yfed llai o de a choffi helpu i wella lefel yr haearn yn y corff. Mae hyn yn arbennig o bwysig i ferched ifanc neu ferched beichiog a phlant bach, gan eu bod nhw mewn mwy o berygl o ddatblygu anaemia o ganlyniad i ddiffyg haearn.
Mae angen i fenywod beichiog fod yn ofalus faint o goffi maen nhw’n ei yfed. Ac nid yw te na choffi yn ddiodydd addas i blant.
Gall diodydd sy'n cynnwys caffein, fel te cryf, coffi a diodydd egni sy'n cynnwys caffein weithio fel diodydd diwretig ysgafn, sy'n golygu eu bod yn gallu achosi i'r corff gynhyrchu mwy o wrin.
Mae rhai pobl yn fwy tueddol o ddioddef o hyn nag eraill, ond mae hefyd yn dibynnu ar faint o gaffein rwyt ti'n ei gael, a pha mor aml.
Mae'n bwysig nad diodydd caffein yw'r unig hylifau yr wyt ti'n eu hyfed.
Os wyt ti'n feichiog
Mae'n bwysig nad wyt ti'n cael gormod o gaffein, gan fod lefelau uchel o gaffein yn gallu achosi i fabi bwyso llai nag y dylai pan gaiff ei eni, a gall hyn gynyddu'r perygl ohono'n datblygu rhai cyflyrau iechyd yn y dyfodol. Gall lefelau uchel o gaffein achosi i rai menywod golli eu babi hefyd. Mae'n syniad i beidio â chael mwy na 200mg o gaffein y dydd os wyt ti'n feichiog.
Mae lefel y caffein mewn bwydydd a diodydd yn amrywio, ond fel canllaw, mae pob un o'r rhain yn cynnwys tua 200mg o gaffein:
- 2 fwg o goffi parod (100mg yr un)
- 1 mwg o goffi hidledig (140mg yr un)
- 2 fwg o de (75mg yr un)
- 5 can o cola (hyd at 40mg yr un)
- 2 can o ddiod ‘egni’ (hyd at 80mg yr un)
- 4 bar (50g) o siocled plaen (hyd at 50mg yr un). Mae siocled llaeth yn cynnwys tua hanner y caffein sydd mewn siocled plaen
Felly, os wyt ti'n bwyta bar o siocled plaen ac yn yfed un mwg o goffi hidledig mewn diwrnod, neu yn yfed dau fwg o de a chan o gola, byddi di wedi cael bron i 200mg o gaffein. Ond paid â phoeni os wyt ti'n cael mwy na hyn o dro i dro, gan fod y peryglon yn debygol o fod yn fach iawn.
Cofia hefyd bod rhai meddyginiaethau at annwyd a ffliw yn cynnwys caffein, felly cofia holi dy feddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall cyn cymryd meddyginiaethau o'r fath.





