Wyt ti'n yfed digon?
Mae'n bwysig iawn gwneud yn siŵr dy fod yn yfed digon. Mae angen dŵr neu hylifau eraill ar ein cyrff i weithio'n iawn.


Pam ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n yfed digon
Mae dŵr yn ffurfio tua dwy ran o dair o bwysau ein corff. Ac mae'n bwysig cynnal y lefel hon gan fod angen dŵr ar y rhan fwyaf o’r adweithiau cemegol sy'n digwydd yn ein celloedd. Rydym angen dŵr hefyd er mwyn i'n gwaed allu cludo maethynnau o amgylch y corff.Colli dŵr
Rydym hefyd yn colli dŵr drwy'r broses anweddu pan fyddwn yn anadlu ac yn chwysu. Wrth i'r tymheredd godi ac wrth i ni fod yn fwy gweithgar, mae'r corff yn colli mwy o ddŵr.
Er mwyn bod yn iach, mae angen i ti yfed digon i gydbwyso'r hylifau yr wyt ti'n eu colli. A chofia, os yw'r tywydd yn boeth neu os wyt ti'n gwneud ymarfer corff, byddi di'n colli hyd yn oed mwy o ddŵr.
Faint o ddŵr sydd ei angen arnom?
Mewn hinsawdd tebyg i'r DU, dylem ni yfed tua 1.2 litr (6 i 8 gwydraid) bob dydd i'n harbed rhag dadhydradu. Mewn hinsoddau poethach, mae angen mwy na hyn ar y corff. Rydym ni hefyd yn cael rhywfaint o hylif o'r bwyd yr ydym ni'n ei fwyta.Caffein mewn diodydd
Mae hyn yn effeithio ar rai pobl yn fwy na'i gilydd, ond mae hefyd yn dibynnu ar faint o gaffein yr wyt ti'n ei yfed a pha mor aml.
Mae'n iawn yfed y math hyn o ddiodydd, ond dylem ni hefyd yfed diodydd nad ydynt yn cynnwys caffein bob dydd.
Arwyddion dy fod wedi dadhydradu
Un o'r arwyddion cyntaf dy fod wedi dadhydradu yw dy fod yn teimlo'n sychedig.Os wyt ti'n meddwl nad wyt ti'n cael digon o hylif, meddylia a wyt ti'n dangos unrhyw un o'r symptomau cyffredin hyn o golli gormod o ddŵr:
- wrin tywyll a ddim yn pasio llawer o wrin wrth fynd i'r toiled
- cur pen
- teimlo'n ddryslyd ac yn bigog
- methu â chanolbwyntio





