Text only

Alcohol


beer Nid oes dim o'i le mewn cael llymaid o bryd i'w gilydd, ond gall yfed gormod achosi problemau.

Mae llawer o galorïau mewn alcohol felly gall wneud i ti fagu pwysau. Mae hefyd yn ymddwyn fel diwretig, sy'n golygu ei fod yn gwneud i'r corff golli mwy o ddŵr nag arfer. Felly pan fyddi di'n yfed alcohol, mae angen i ti yfed mwy o ddiodydd di-alcohol nad ydynt yn ddiwretig, neu fel arall mae'n hawdd colli gormod o ddŵr.

Gall yfed alcohol yn drwm arwain at amrywiaeth eang o broblemau iechyd, gan gynnwys canser, clefyd yr iau/afu, strôc, pwysedd gwaed uchel a gall effeithio ar iechyd meddwl.


Faint?

wine red Gall merched yfed hyd at 2 neu 3 uned o alcohol y dydd a gall dynion yfed hyd at 3 neu 4 uned y dydd, heb risg sylweddol i'w hiechyd.

Mae uned gyfwerth â hanner peint o gwrw, lager neu seidr o gryfder arferol (3 i 5% ABV), neu fesur tafarn o wirod. Mae gwydraid o win yn cyfateb i tua 2 uned ac mae alcopops yn cyfateb i tua 1.5 uned.

Er mwyn bod yn iach, mae’n syniad da i beidio â goryfed mewn pyliau (binge drink) a chael ambell i wydraid o bryd i'w gilydd.

Os wyt ti wedi yfed gormod, dylet beidio ag yfed alcohol am o leiaf 48 awr er mwyn rhoi cyfle i dy gorff wella.

Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall rhwng un a dwy uned o alcohol y dydd helpu i amddiffyn rhag clefyd coronaidd y galon. Ond credir mai dim ond i ddynion dros 40 oed a merched sydd wedi bod drwy'r menopos y mae hyn yn gweithio.

Cyngor ar yfed llai

water iced in glass Os wyt ti am leihau faint o alcohol yr wyt ti'n ei yfed, dyma ambell i awgrym ymarferol:
  • ceisia fwyta cyn i ti ddechrau yfed bob amser - cofia fwyta cyn i ti fynd allan am y noson neu ceisia fwyta pryd o fwyd pan fyddi di allan
  • paid â dechrau yfed alcohol os wyt ti'n teimlo'n sychedig - cer i dorri dy syched gyda dŵr neu ddiod di-alcohol yn gyntaf
  • paid â bwyta byrbrydau llawn halen fel creision neu gnau gan eu bod yn dy wneud yn fwy sychedig (yn ogystal â bod yn uchel mewn braster a halen)
  • rho gynnig ar yfed ychydig o ddiodydd di-alcohol neu ddiodydd sy'n isel mewn isel drwy gydol y nos
  • cofia gadw gwydraid neu fotel o ddŵr gyda thi bob amser yn ogystal â'th ddiod alcoholic
  • meddylia pa mor gryf yw dy ddiod - dewisa gwrw neu lager sy'n cynnwys llai o alcohol (bydd ganddynt 'ABV', neu 'alcohol fesul cyfaint' is)


Alcohol a beichiogrwydd

Pregnancy 1 Pan yr wyt ti'n feichiog, neu'n ceisio beichiogi, mae'n well rhoi'r gorau i yfed alcohol yn gyfan gwbl. Ond os wyt ti'n yfed, paid â chael mwy nag un neu ddwy uned o alcohol, unwaith neu ddwywaith yr wythnos, a phaid â meddwi.

A'r rheswm am hyn? Gall alcohol leihau'r gallu i genhedlu, gallai niweidio'r babi yn y groth neu gallai arwain at golli babi yn gynnar yn ystod y beichiogrwydd.

Alcohol a bwydo ar y fron

Babies and toddlers Os wyt ti'n bwydo ar y fron, mae hi'n well peidio ag yfed alcohol yn ystod yr oriau cyn i ti ddechrau bwydo. Mae alcohol yn gallu cael ei drosglwyddo'n raddol i'r babi drwy laeth y fron.

Pryd i gymryd gofal ychwanegol

Os yw unrhyw un o'r canlynol yn wir, mae angen i ti gymryd gofal gan fod alcohol yn cynyddu'r perygl o ddatblygu salwch difrifol. Os nad wyt ti'n siŵr, cofia ofyn i dy feddyg teulu.
  • Gwella o anaf neu lawdriniaeth
  • Cymryd meddyginiaeth
  • Dioddef o lid y cylla (gastritis), wlserau neu glefyd yr iau/afu
  • Pwysedd gwaed uchel
  • Diabetes
  • Iselder a phryder
  • Salwch seiciatrig difrifol
Mae hefyd yn bwysig nad wyt ti'n yfed os wyt ti'n bwriadu:
  • gyrru
  • gweithredu peiriannau
  • cymryd rhan mewn ymarfer corff