Diodydd
Mae diodydd yn bwysig iawn i sicrhau bod ein cyrff yn gweithio’n gywir a gwneud yn siŵr nad ydym yn mynd yn ddadhydredig. Ond er mwyn gwneud dewisiadau iach, mae’n bwysig gwybod beth i’w yfed a phryd.

Wyt ti'n yfed digon?
Wyt ti'n yfed digon i alluogi dy gorff i weithio’n iawn? Wyt ti'n adnabod yr arwyddion os wyt ti wedi dadhydradu?
Diodydd ysgafn
Dylem geisio yfed o leiaf 6 i 8 gwydraid y dydd i osgoi dadhydradiad. Ond cofiwch ystyried y calorïau gwag mewn llawer o ddiodydd ysgafn.





