Text only

Siâp dy gorff


pears

Gall yr adran hon dy helpu i ganfod a yw dy wasg yn faint iach o'i gymharu â'th daldra.

Os wyt ti'n cario gormod o bwysau o gwmpas dy ganol, siap a gyfeirir ato fel siâp ‘afal’ yn aml, mae hyn yn cynyddu dy risg o ddatblygu clefyd y galon neu ddiabetes.

Os yw’r pwysau o gwmpas dy gluniau, gelwir hyn yn aml yn siâp ‘gellygen’. Bydd rhywun siâp afal yn wynebu mwy o risgiau iechyd na rhywun siâp gellygen, hyd yn oed os yw’r ddau dros bwysau.

I gael darlun cliriach o’r risg iechyd cyffredinol, gallai fod yn ddefnyddiol i ti weld beth yw siâp dy gorff. Mae'n bosibl i ti wneud hyn drwy blotio maint dy wasg yn erbyn dy daldra ar y siart siâp Ashwell®.

Os wyt ti'n gyhyrog iawn, efallai y byddi di'n canfod dy hun yn y categori dros bwysau ar y gyfrifiannell mynegai màs y corff (a’r siart taldra/ pwysau), er bod gen ti siâp corff iach a fawr ddim braster mewn gwirionedd. Bydd y canllaw hwn yn dy helpu i ganfod hyn.



Siart siâp Ashwell

I weld siart siâp Ashwell mwy, cliciwch yma..



Beth yw eich mesuriad taldra/gwasg:

Lliw brown - ‘Cymrwch ofal’

your body shape - brown area Mae hyn yn golygu eich bod yn debygol o fod yn siâp ‘tsili’ tal tenau. Nid yw hyn yn ddymunol ar gyfer bod yn iach, felly mae angen i chi fod yn ofalus. Efallai bod angen i chi gynyddu’ch pwysau.

Lliw gwyrdd – ‘Iawn’

green 'OK' area Mae hyn yn golygu eich bod yn debygol o fod yn siâp ‘gellygen’ iach, sy’n siâp iach. Gyda siâp corff fel hyn, mae unrhyw fraster dros ben yn cael ei gadw dan y croen o gwmpas y pen ôl, cluniau a’r morddwydydd, sy’n llai niweidiol i iechyd na bod yn siâp afal.

Lliw melyngoch - ‘Cymrwch ofal’

amber 'Take care' area Mae hyn yn golygu eich bod yn debygol o fod yn siâp ‘gellygen-afal’, sy’n golygu y dylech gymryd gofal. Gofalwch nad yw’ch pwysau’n cynyddu, yn enwedig os yw’ch mesuriadau ym mhen uchaf y rhan hon.

Lliw coch - ‘Gweithredwch’

red 'Action' area Mae hyn yn golygu eich bod yn debygol o fod yn siâp ‘afal’. Gyda’r siâp corff hwn mae braster dros ben yn cael ei gadw o dan y croen o gwmpas y stumog, a fydd yn cynyddu’ch risg o gyflyrau difrifol fel clefyd y galon, pwysedd gwaed uchel, diabetes Math II a rhai mathau o ganserau. Mae’n debyg bod eich iechyd mewn perygl felly siaradwch â’ch meddyg teulu am golli pwysau.