Sut i gynnal pwysau iach
Os wyt ti'n poeni am dy bwysau, cysyllta â dy feddyg teulu neu ddeietegydd. Os mai am golli mymryn o bwysau yn unig wyt ti, beth am ddarllen ein cyngor ymarferol i dy helpu?
Os ydym ni'n bwyta mwy na sydd ei angen ar ein cyrff, rydym ni'n magu pwysau. Mae hyn yn digwydd gan fod yr egni nad ydym yn ei ddefnyddio yn cael ei storio yn ein cyrff, a hynny fel braster gan amlaf. Mae perygl o fagu pwysau dim ond wrth fwyta ychydig o egni yn ormod bob dydd.
Felly, os wyt ti am golli ychydig o bwysau, beth am ystyried y pethau hyn:
- sicrhau nad wyt ti'n bwyta mwy na’r hyn sydd ei angen ar dy gorff
- gwella cydbwysedd dy ddeiet
- gwneud ychydig mwy o ymarfer corff


Cael y cydbwysedd cywir
Wrth geisio bwyta’n iach, y peth gorau i’w wneud fel arfer yw:
- bwyta llai o fraster – yn arbennig brasterau dirlawn
- bwyta mwy o ffrwythau a llysiau
- bwyta mwy o fwydydd â starts fel bara, pasta a reis
- bwyta llai o halen a siwgr
Dylai o leiaf un rhan o dair o’th ddeiet fod yn ffrwythau a llysiau. Ceisia fwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau y dydd. Gallant fod yn ffrwythau ffres, wedi’u rhewi, allan o dun, wedi’u sychu neu wedi’u coginio, ac mae gwydraid o sudd ffrwythau yn cyfrif fel un dogn y dydd hefyd.
I’th helpu, mae un dogn yn golygu:
- un afal neu fanana
- dau ffrwyth bach fel eirin
- 2 i 3 llwy fwrdd o lysiau
Dylai tua un rhan o dair o'r bwyd yr ydym yn ei fwyta hefyd fod yn fwydydd â starts. Mae’r rhain yn cynnwys:
- bara
- grawnfwydydd brecwast
- pasta
- reis
- tatws
- ffa a chorbys
Ceisia fwyta amrywiaeth o’r bwydydd hyn a dewis mathau grawn cyflawn, gwenith cyflawn neu sy’n ‘uchel mewn ffeibr’ lle bo’n bosibl.
Mae rhai pobl yn credu bod bwydydd â starts yn gwneud i ti fagu pwysau. Nid yw hyn yn wir, er y gallant fod llawn braster os wyt ti'n ychwanegu braster atynt neu yn eu coginio ynddo. Y marjarîn neu’r menyn yr ydym yn ei roi ar fara, yr hufen neu’r saws caws yr ydym yn ei ychwanegu at y pasta, neu’r olew yr ydym yn ei ddefnyddio i ffrio sy’n gwneud y bwydydd hyn yn frasterog.
Mae deiet iach yn golygu bwyta ac yfed llai o fraster a siwgr. Mae’n fwy na thebyg dy fod yn bwyta bwyd sy’n cynnwys braster bob dydd, megis marjarîn neu fenyn, olewau coginio, dresin salad wedi’i wneud o olew a mayonnaise, ond ceisia fwyta llai o’r rhain a dewis opsiynau braster isel lle bo’n bosibl.
Ac nid oes dianc rhag y ffaith na ddylet fwyta llawer o gacennau, bisgedi, creision a hufen iâ. A chofia ddewis opsiynau braster isel lle bo’n bosibl.
Os wyt ti'n newid y mathau o fwydydd yr wyt ti'n eu bwyta a’r ffordd yr wyt ti'n eu coginio, gall hyn dy helpu i fabwysiadu patrymau bwyta iach ar gyfer y dyfodol. Er enghraifft, beth am:
- lenwi dy hun drwy fwyta bara, grawnfwydydd, tatws a ffrwythau a llysiau
- dewis cigoedd heb lawr o fraster, gan dynnu unrhyw fraster oddi arnynt bob tro
- dewis cynnyrch llaeth braster isel megis llaeth hanner sgim neu sgim neu laeth 1%, caws a iogwrt is mewn braster
- berwi, stemio, grilio neu botsio bwyd, neu ei roi yn y meicrodon yn hytrach na’i ffrio neu ei rostio
Ymarfer corff a chadw'n heini
Dyma rai pethau y mae'n bosibl eu gwneud a fydd yn dy helpu i losgi unrhyw egni sydd dros ben. Beth am:
- fynd am dro ar ôl cinio
- cerdded i fyny’r grisiau yn hytrach na defnyddio'r lifft
- cerdded (neu hyd yn oed loncian) os nad wyt ti'n mynd yn bell
- dod oddi ar y bws stop neu ddau ynghynt





