Siart taldra/pwysau
Defnyddia'r siart hon i weld a yw dy bwysau di'n iach o gymharu â dy daldra.

Allwedd:
Are you the right weight...? - A wyt ti'r pwysau cywir o'i gymharu â dy daldra?
Your weight in kilos - Dy bwysau mewn cilogramau
Underweight - Rhy ysgafn
OK - Iawn
Overweight - Dros dy bwysau
Obese - Gordew
Very obese - Gordew iawn
Your height in feet and inches - Dy daldra mewn troedfeddi a modfeddi
Your weight in stones - Dy bwysau mewn stôn
Your height in metres - Dy daldra mewn metrau
Os wyt ti'n rhy ysgafn, gallai hyn fod yn bryder. Efallai y bydd angen i ti fagu pwysau. Os felly, dylet wneud hyn fel rhan o ddeiet cytbwys sy'n llawn maeth. Os yw dy bwysau'n isel iawn, cer i weld dy feddyg teulu.
Os yw dy bwysau yn 'iawn', nid oes angen i ti golli pwysau. Rwyt ti'n bwyta'r swm cywir o fwyd i gynnal dy bwysau yn yr ystod dymunol i fod yn iach, ond mae hi dal yn bwysig dy fod di'n bwyta deiet cytbwys ac iachus. Os yw dy bwysau ym mhen isaf yr ystod, ceisia ei gynnal a phaid â cheisio cyrraedd y categori 'rhy ysgafn'.
Os wyt ti dros dy bwysau, cofia sicrhau nad wyt ti'n magu mwy o bwysau. Ceisia fwyta llai, yn enwedig bwyd a diod sy'n cynnwys llawer o fraster neu siwgr, a cheisia wneud mwy o ymarfer corff. Dylet geisio colli rhwng hanner ac un cilogram (neu un neu ddau bwys) yr wythnos, tan i ti gyrraedd y categori pwysau 'iawn'. Cer i holi dy feddyg teulu os oes angen i ti golli pwysau a dy fod wedi cael trafferth colli pwysau yn y gorffennol. Darllena'r adran Sut i gynnal pwysau iach am gyngor ymarferol.
Os wyt ti'n ordew yn ôl y siart, gall hyn gynyddu'r perygl o ddatblygu clefyd y galon, diabetes math II, pwysedd gwaed uchel ac osteoarthritis. Os wyt ti yn y grŵp hwn, mae'n bwysig dy fod yn colli pwysau. Os wyt ti wedi cael trafferth colli pwysau yn y gorffennol, cer i holi dy feddyg teulu cyn dechrau arni.
Ond cofia, canllaw yn unig yw'r wybodaeth hon ac mae wedi’i anelu at oedolion iach. Nid yw'n addas i blant, pobl ifanc na phobl hŷn.
Hefyd, os oes gen ti gyhyrau sydd wedi'u datblygu'n dda, efallai y byddi di'n disgyn o fewn y categori 'dros dy bwysau' yn y gyfrifiannell Mynegai Mas y Corff ac ar y Siart Taldra/Pwysau, er ei bod yn bosibl bod gen ti siâp corff iach ac ychydig iawn o fraster. Os wyt ti'n credu mai dyma'r achos, darllena'r adran Siâp dy gorff i weld a yw hyn yn wir.





