Cyfrifiannell BMI
Os wyt ti am wybod pa mor iach yw dy bwysau, mae Cyfrifiannell Mynegai Màs y Corff (BMI) yn declyn defnyddiol. Mae modd i ti ei ddefnyddio i ganfod a yw dy bwysau’n iach o’i gymharu â’th daldra. Yr unig beth sy’n rhaid i ti ei wneud yw nodi dy bwysau a’th daldra, clicio ar ‘Imperial’ neu ‘Metrig’, a bydd y gyfrifiannell yn gwneud y gweddill!Ond cofia, dim ond canllaw yw’r wybodaeth hon, ar gyfer oedolion iach yn unig. Nid yw’n addas ar gyfer plant, pobl ifanc na phobl hŷn.
Hefyd, os oes gen ti gyhyrau sydd wedi’u datblygu’n dda, mae’n bosibl y bydd y gyfrifiannell BMI (a’r siart sy’n cymharu dy daldra a’th bwysau) yn dweud dy fod yn ordrwm, er bod gen ti gorff iach mewn gwirionedd, heb lawer o fraster. Os wyt ti o’r farn mai dyma sydd wedi digwydd, cer i adran ‘Siâp eich corff’ i wybod mwy.
Waeth beth y mae’r canlyniadau yn eu dangos, y peth pwysicaf i’w gofio yw bod angen i chi sicrhau eich bod yn bwyta deiet iach a chytbwys a’ch bod yn gwneud digon o ymarfer corff.
Ar ôl i ti gyfrifo dy BMI, edrycha am yr wybodaeth am dy gategori isod.
Os yw’n well gen ti, defnyddia’r siart taldra/pwysau i gymharu dy bwysau yn erbyn dy daldra yn hytrach na defnyddio’r cyfrifiannell BMI.





