Pa fwydydd sy’n cynnwys halen?
Mae’r rhan fwyaf o fwydydd yn cynnwys rhywfaint o halen. Ond y bwydydd sy’n uchel mewn halen y mae angen i ni fod yn ofalus ohonynt gan fod bwyta’r rhain yn ei gwneud yn hawdd iawn i ni fwyta gormod o halen. Dyna pam mae’n bwysig dewis bwydydd sy’n is mewn halen pan fo modd.Mae rhai yn uchel mewn halen bron yn ddi-ffael oherwydd y ffordd y cânt eu cynhyrchu - mae’n iawn i ti fwynhau’r rhain o bryd i’w gilydd, neu gael dognau llai ohonynt. Yn achos rhai bwydydd, megis bara, grawnfwydydd brecwast, sawsiau pasta a sos coch, gall fod yna wahaniaeth mawr rhwng gwahanol fathau a brandiau. Y tro nesaf y byddi di’n siopa bwyd, cer ati gymharu lefelau halen ar ychydig o gynhyrchion tebyg. A cheisia ddewis y rhai sy’n is mewn halen. Mae newidiadau bach fel hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i faint o halen y byddi di’n ei fwyta, yn enwedig os yw’n fwyd yr wyt ti’n bwyta llawer ohono.
URL: http://www.eatwell.gov.uk/healthydiet/fss/salt/whichfoodscontainsalt/lang=cy&?lang=cy
|
||||||
|
|