Text only

Pa fwydydd sy’n cynnwys halen?


pizza cut Mae’r rhan fwyaf o fwydydd yn cynnwys rhywfaint o halen. Ond y bwydydd sy’n uchel mewn halen y mae angen i ni fod yn ofalus ohonynt gan fod bwyta’r rhain yn ei gwneud yn hawdd iawn i ni fwyta gormod o halen. Dyna pam mae’n bwysig dewis bwydydd sy’n is mewn halen pan fo modd.

Mae rhai yn uchel mewn halen bron yn ddi-ffael oherwydd y ffordd y cânt eu cynhyrchu - mae’n iawn i ti fwynhau’r rhain o bryd i’w gilydd, neu gael dognau llai ohonynt.

Yn achos rhai bwydydd, megis bara, grawnfwydydd brecwast, sawsiau pasta a sos coch, gall fod yna wahaniaeth mawr rhwng gwahanol fathau a brandiau. Y tro nesaf y byddi di’n siopa bwyd, cer ati gymharu lefelau halen ar ychydig o gynhyrchion tebyg. A cheisia ddewis y rhai sy’n is mewn halen. Mae newidiadau bach fel hyn yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i faint o halen y byddi di’n ei fwyta, yn enwedig os yw’n fwyd yr wyt ti’n bwyta llawer ohono.

Bwydydd lle gall rhai brandiau/ryseitiau fod yn uchel mewn halenBwyd sydd yn aml yn uchel mewn halen
Cer ati i gymharu labeli ar fwydydd tebyg a dewis y rhai sy’n is mewn halen.
  • Brwyniaid
  • Cig moch
  • Caws
  • Sglodion (os ychwanegir halen)
  • Powdwr grefi
  • Ham
  • Olifau
  • Picl
  • Corgimychiaid
  • Salami
  • Cnau wedi’u halltu a chnau sych wedi’u rhostio
  • Pysgod hallt
  • Cig a physgod mwg
  • Saws soi
  • Ciwbiau stoc
  • Rhin burum
Ceisia fwyta llai o’r rhain, neu eu cael yn llai aml.
  • Grawnfwydydd brecwast
  • Bara wedi'i sleisio
  • Cynhyrchion bara megis crympet, bagel a ciabatta
  • Sawsiau pasta
  • Creision
  • Pizza
  • Prydau parod
  • Cawl
  • Brechdanau
  • Selsig
  • Sos coch, mayonnaise a sawsiau eraill