Text only

Darllen y label


Man checking label on food tin Mae darllen y label a dewis bwydydd sy’n cynnwys llai o halen yn un o’r ffyrdd gorau o fwyta llai o halen. Pan fo’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl am halen, maent yn meddwl am ei roi ar eu bwyd, neu ychwanegu rhywfaint wrth goginio, ond mae 75% o’r halen yr ydym yn ei fwyta eisoes yn y bwyd a brynwn. Felly er ei fod yn bwysig i ni geisio torri’r arfer o ychwanegu halen, rhaid i ni hefyd fod yn ofalus am yr halen sydd yn ein bwyd bob dydd.

Drwy edrych ar yr wybodaeth am halen ar y label, gallwn:

  • gymharu cynhyrchion tebyg a chael gwybod p’un sydd â’r lleiaf o halen

  • cael gwybod a yw’r bwyd yn uchel, yn ganolig neu’n isel mewn halen

  • cyfrif faint o halen fydd yn y dogn y byddi di’n ei fwyta



Sut allaf gymharu faint o halen sydd mewn gwahanol fwydydd?

Wrth i ti gymharu lefel yr halen mewn gwahanol gynhyrchion bwyd, cymer gip ar yr wybodaeth am faeth ar y label gan wneud yn siŵr dy fod yn cymharu tebyg at ei debyg. Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw edrych ar y ffigur ar gyfer halen fesul 100g ar y ddau label. Cer am yr un sy’n is mewn halen - hyd yn oed os yw’r gwahaniaeth yn fach, gall dewis yr opsiwn isaf mewn halen dy helpu i fwyta llai, yn enwedig os yw’n fwyd yr wyt ti’n bwyta llawer ohono.

Os yw’r label hefyd yn dweud wrthot faint o halen sydd mewn un dogn neu un dafell, cofia fod maint y dogn hwnnw yn amrywio o un brand i’r llall - ac mae’n bosibl y byddet ti’n bwyta mwy neu lai na hyn.

Sut fyddaf i’n gwybod os yw bwyd yn uchel mewn halen?

Dyma ffordd gyflym o ddweud a yw bwyd yn uchel mewn halen drwy edrych ar yr wybodaeth am faeth sydd ar y label.

Cymer gip ar y ffigur ar gyfer halen fesul 100g.

Uchel yw mwy nag 1.5g o halen fesul 100g (neu 0.6g o sodiwm)
Isel yw 0.3g o halen neu lai fesul 100g (neu 0.1g o sodiwm)

Os yw’r swm o halen fesul 100g rhwng y ffigurau hyn, yna ceir lefel ganolog o halen.

Mae gan fwyd a gynhyrchir gan rai archfarchnadoedd a gweithgynhyrchwyr liwiau ‘goleuadau traffig’ ar flaen y pecyn, sy’n dangos i chi a oes gan y bwyd lefelau uchel (coch), canolig (ambr) neu isel (gwyrdd) o fraster, braster dirlawn, siwgr a halen. Er mwyn gwneud dewis iachach, ceisia ddewis gynhyrchion gyda mwy o lywiau gwyrdd ac ambr a llai o goch.

Sut ydw i’n gwybod faint o halen sydd mewn dogn o fwyd?

Edrycha ar yr wybodaeth am faeth ar y label. Os yw’r label yn nodi ffigur ar gyfer halen fesul 100g, y cwbl sydd angen i ti ei wneud yw gweithio allan faint o halen sydd yn y dogn a fyddi di’n ei fwyta. Felly, os wyt ti’n bwyta 500g, byddi di’n lluosi’r ffigur o 100g gyda 5. Neu defnyddia’r gyfrifiannell isod i wneud y sym i ti!

Efallai y bydd y label hefyd yn nodi faint o halen (neu sodiwm) sydd yn y pecyn cyfan neu yn rhan o’r pecyn. Cofia ei bod yn bosibl nad yw maint y dogn a restrir ar y label yr un faint ar hyn y byddi di’n ei fwyta ac fe allai amrywio o un brand i’r llall.

Os mai ffigur ar gyfer sodiwm yn unig sydd gen ti, mae angen i ti weithio allan faint o sodiwm sydd yn y dogn y byddi di’n ei fwyta, a lluosi’r rhif hwn â 2.5 i weld beth yw lefel yr halen. (Gweler Beth yw’r gwahaniaeth rhwng sodiwm a halen? isod.)

Cyfrifiannell halen

Cyfrifo

Sut alla’i weithio allan faint o halen yr ydw i’n ei fwyta?

Byddai’n anodd iawn cyfrifo faint yn union o halen yr wyt ti’n ei fwyta mewn diwrnod, oherwydd byddai angen i ti wybod faint o halen sydd yn yr holl fwyd ti’n ei fwyta, ac yna mesur faint yn union o’r bwydydd hynny ti’n eu bwyta.

Ond os wyt ti’n dysgu faint o halen sydd yn rhai o’r bwydydd yr wyt ti’n eu bwyta fel arfer, byddi di’n gweld pa mor hawdd yw hi i fwyta mwy na 6g bob dydd. Felly, os wyt ti’n bwyta brechdan ham 200g sy’n cynnwys 1.6g o halen fesul 100g, byddai hynny yn 3.2g o halen, sy’n fwy na hanner yr uchafswm y dylai oedolyn ei gael bob dydd.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng sodiwm a halen?

Caiff halen hefyd ei alw’n sodiwm clorid. Felly mae sodiwm yn rhan o halen. Gall bwyta gormod o sodiwm gynyddu dy bwysedd gwaed.

Mae llawer o labeli bwyd yn dweud wrthyt ti faint o halen sydd mewn 100g o’r bwyd. Weithiau, dim ond y ffigur ar gyfer sodiwm sy’n cael ei nodi ac weithiau, maent yn defnyddio’r ddau.

Sodiwm x 2.5 = halen

Os wyt ti’n gwybod faint o sodiwm sydd mewn bwyd, gelli ddarganfod yn fras faint o halen sydd ynddo drwy luosi’r sodiwm â 2.5. Felly os yw dogn o fwyd yn cynnwys 1.2g o sodiwm, yna mae’n cynnwys tua 3g o halen. Neu gelli ddefnyddio’r gyfrifiannell isod.

How much salt?

Amount of sodium (g) per 100g

Weight of pack / serving(g)

Age

Sometimes sodium is listed in milligrams(mg). There are 1,000mg
in 1g. So 600mg = 0.6g and 1200mg = 1.2g

Results

Approx g of salt per pack/serving