Halen
Oes gen ti ormod o halen ar dy blât? Efallai nad wyt ti’n credu hynny, ond bob dydd mae 26 miliwn o oedolion yn y DU yn bwyta gormod o halen. Fe allet ti fod yn bwyta gormod heb sylweddoli, gan fod tua 75% o’r halen yr ydym yn ei fwyta eisoes yn y bwyd a brynwn. Os wyt ti eisiau bwyta llai, mae digonedd o bethau bach syml y gelli eu gwneud er mwyn cyflawni hyn.

Pam fod angen bwyta llai o halen?
Bydd bwyta llai o halen yn lleihau dy bwysedd gwaed a'r perygl i ti ddatblygu clefyd y galon neu strôc.


Darllen y label
Mae'n rhaid i ti ddarllen y label os wyt ti eisiau gwybod faint o halen sydd yn y bwyd yr wyt ti'n ei brynu.





