Braster dirlawn
Mae dau brif fath o fraster mewn bwyd - braster dirlawn a braster annirlawn. Mae deiet sy’n uchel mewn braster dirlawn yn gallu cynyddu lefel y colesterol yn dy waed, dros amser.
Mae hyn yn cynyddu’r perygl o ddatblygu clefyd y galon. Felly mae’n bwysig dy fod yn bwyta llai o fraster dirlawn. Mae’n bosibl gwneud hyn drwy:
- fwyta llai o fwyd sy’n uchel mewn braster dirlawn
- dewis opsiynau sydd â llai o fraster dirlawn
- dewis brasterau annirlawn yn lle braster dirlawn


Bwydydd sy’n uchel mewn braster dirlawn
Mae’r rhain yn cynnwys:- darnau o gig a chynhyrchion cig llawn braster er enghraifft selsig a phasteiod
- menyn, ghee a lard
- hufen, hufen wedi’i sawru, crème fraîche a hufen iâ
- caws, yn arbennig caws caled
- toesenni
- cacennau a bisgedi
- rhai byrbrydau sawrus
- rhai danteithion melys a siocled
- olew cnau coco, hufen cnau coco ac olew palmwydd
Faint yw ‘gormod’ o fraster dirlawn?
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn y DU yn bwyta gormod o fraster dirlawn – tua 20% yn fwy na’r uchafswm sy’n cael ei argymell bob dydd.- Ni ddylai dynion gael mwy na 30g o fraster dirlawn bob dydd.
- Ni ddylai menywod gael mwy na 20g o fraster dirlawn bob dydd.
Ond nid oes gan y rhan fwyaf o bobl amser i gyfrif faint o fraster dirlawn y maent yn ei fwyta bob dydd. Ond mae’n bwysig edrych i weld faint o fraster dirlawn sydd mewn gwahanol fwydydd. Drwy wneud hyn fe fyddi di’n gweld, yn arbennig os wyt ti’n bwyta llawer o’r bwydydd hyn, pa mor hawdd yw bwyta mwy na’r uchafswm o fraster dirlawn sy’n cael argymell bob dydd.
Os wyt ti’n gwybod pa fwydydd sy’n uchel mewn braster dirlawn – a pha rai sy’n isel – yna mae’n bosibl i ti wneud dewisiadau bob dydd a fydd yn dy helpu i fwyta llai o fraster dirlawn.
Darllena’r manylion am fraster dirlawn ar y label
Edrycha ar y ffigur ar gyfer ‘braster dirlawn’ (‘saturates’ neu ‘sat fat’) ar y label er mwyn gweld faint o fraster dirlawn sydd mewn bwyd.Uchel yw mwy na 5g o fraster dirlawn fesul 100g
Isel yw 1.5g o fraster dirlawn neu lai fesul 100g
Os yw lefel y braster dirlawn fesul 100g rhwng y ffigurau hyn, mae’n cynnwys lefel ganolig o fraster dirlawn.
Mae gan rai bwydydd labeli ‘goleuadau traffig’ ar flaen y pecyn. Mae’r rhain yn dangos a yw bwyd yn cynnwys lefel uchel, ganolig neu isel o fraster, braster dirlawn, siwgr a halen.
Coch = Uchel
Ambr = Canolig
Gwyrdd = Isel
Ceisia ddewis bwydydd sy’n isel mewn braster dirlawn mor aml â phosibl, neu cer am rai sy’n cynnwys lefel ganolig. Os yw bwydydd yn uchel mewn braster dirlawn, ceisia fwyta llai ohonynt.
Pan fyddi di’n siopa, cofia gymharu bwydydd tebyg – mae’n bosibl bod gwahaniaeth mawr o ran faint o fraster dirlawn sydd ynddynt. A chofia ddewis yr opsiwn sydd â llai o fraster dirlawn.
Deg o awgrymiadau i dy helpu i fwyta llai o fraster dirlawn
Dewisa gynnyrch llaeth sydd â llai o fraster. Rho gynnig ar laeth 1% ac iogwrt sy’n isel mewn braster. Cofia gadw llygad am gaws sydd â llai o fraster.Beth am gratio caws yn hytrach na’i sleisio? Fel hyn, byddi di’n bwyta llai ohono. A phan fyddi di’n siopa, cofia gymharu labeli’r gwahanol fathau o gaws i weld pa un sy’n cynnwys y lleiaf o fraster.
Paid â bwyta’r croen sydd ar gyw iâr. Pan fyddi di’n coginio cyw iâr, paid â defnyddio gormod o sawsiau hufennog - beth am roi cynnig ar ychydig o lemon a pherlysiau yn lle hynny?
Defnyddia friwgig â llai o fraster. Cymer gip ar labeli briwgig eidion gan ddewis yr un sy’n is mewn braster. Neu beth am roi cynnig ar ddefnyddio briwgig twrci sy’n cynnwys llai fyth o fraster?
Torra’r braster oddi ar gig. Beth am grilio cig yn hytrach na’i ffrïo?
Cer ati i gymharu’r labeli a dewis yr opsiwn sydd â llai o fraster dirlawn.
Bwyta llai o does. Mae toes yn uchel mewn braster dirlawn, felly ceisia beidio bwyta pasteiod, toesenni a rholiau selsig yn rhy aml. A chofia ddewis pasteiod gyda chaead neu waelod yn unig.
Pan fyddi di’n coginio, defnyddia olewau annirlawn megis olew blodyn yr haul, olew olewydd ac olew hadau rêp, yn lle menyn, lard a ghee.
Cofia fwyta byrbrydau iachach pan fyddi di’n brysur. Gall nifer o fyrbrydau fod yn uchel mewn braster dirlawn, felly dewisa afal, ffrwythau wedi’u sychu neu ddewis iach arall. Cymer gip ar y label a dewis y bwyd sydd isaf mewn braster dirlawn.
Cofia fwyta prydau cytbwys. I gael y cydbwysedd cywir, cofia fwyta digonedd o ffrwythau a llysiau a digon o fara, reis, tatws, pasta a bwydydd eraill â starts. Mae’r rhain yn isel mewn braster dirlawn, felly maent yn gwneud dy brydau yn fwy iach.
Beth am...
Gall dewis opsiwn iachach yn lle bwyd sy’n uchel mewn braster dirlawn leihau faint ohono wyt ti’n ei fwyta. Mae’n syml!| Yn lle… | Rho gynnig ar… |
|---|---|
| Cig moch rhesog (streaky bacon) | Cig moch cefn (back bacon) |
| Croissant gyda menyn | Bagel wedi’i dostio gyda chaws meddal sy’n isel mewn braster |
| Selsig | Darn o gig neu gyw iâr heb lawer o fraster |
| Tatws stwnsh gyda menyn a llaeth cyflawn | Tatws stwnsh gyda sbred braster is a llaeth hanner sgim |
| Cacennau neu fisgedi | Bynsen gyrens neu dorth frag (malt loaf) gyda sbred braster is |
| Saws hufennog neu saws caws | Saws tomato neu lysiau |
| Menyn ar fara | Sbred braster is ar fara |
| Hufen | Iogwrt Groegaidd â llai o fraster |
| Hufen iâ | Iogwrt wedi’i rewi |
| Llaeth hanner sgim | Llaeth 1% |
| Iogwrt braster llawn neu bwdin hufennog | Iogwrt neu mousse braster isel |





