Text only

Bwyd – y gwir a’r gau


smarties A yw ‘braster isel’ bob amser yn beth da? A oes modd coginio brecwast iach? Mae llawer o fythau ac ofergoelion yn bodoli am fwyd. Cymer gip ar y syniadau poblogaidd isod, a herio dy ragdybiaethau.

Wyt ti'n gwybod y gwahaniaeth rhwng y gwir a'r gau?


Mae’r arbenigwyr o hyd yn newid eu meddyliau am wir ystyr 'bwyta’n iach'

Gau - Efallai bod hi'n ymddangos fod arbenigwyr maeth o hyd yn newid eu meddyliau ac yn anghytuno â’i gilydd. Ond, mewn gwirionedd, mae’r prif negeseuon am fwyta’n iach wedi aros yr un fath ers cryn amser.

Er enghraifft, mae’r neges i fwyta llai o fraster wedi aros yr un fath ers dros 15 mlynedd, ac rydym wedi gwybod am bwysigrwydd ffrwythau a llysiau mor bell yn ôl a chyfnod yr Ail Ryfel Byd. Y cyngor bryd hynny oedd i dyfu ein bwyd ein hunain.

Pan fyddwn ni'n clywed negeseuon am fwyta’n iach sy’n gwrthddweud ei gilydd, yn aml mae hyn o ganlyniad i ganfyddiadau gwyddonol newydd yn ymddangos yn y wasg cyn i’r gwaith ymchwil gael ei gwblhau, ac nid yw’r canfyddiadau’n cael eu rhoi yn eu cyd-destun.

Mae dewis bwyd iach yn ddiflas ac yn undonog!

Gau - Mae’n wir na ddylem ni fwyta gormod o rai mathau o fwydydd, na’u bwyta’n rhy aml, fel y bwydydd hynny sy’n llawn braster neu siwgr. Ond mae yna amryw o fwydydd diddorol iawn y dylem fwyta mwy ohonynt, fel pysgod olewog a ffrwythau a llysiau.

Ac nid yw bwyta’n iach yn golygu bod yn rhaid i ti roi'r gorau i fwyta dy hoff fwydydd. Y cwbl sydd angen i ti ei wneud yw cael y cydbwysedd cywir.

Drwy amrywio fymryn ar yr hyn wyt ti'n ei fwyta fel arfer, byddi di hefyd yn cael digon o gyfle i arbrofi gyda bwyd. Cofia, gall bwyta’n iach fod yn flasus, yn gyffrous ac yn egsotig!

Mae bwydydd iach bob amser yn costio mwy na bwydydd eraill

Gau - Er ei bod hi'n wir fod rhai cynhwysion iach yn gallu costio mwy, yn aml iawn, dim ond mymryn ohonyn nhw sydd eu hangen arnat. Ac o bryd i’w gilydd gall y dewis iachach arbed arian i ti.

Gelli fwydo mwy o bobl gyda’r un faint o gig drwy ei goginio mewn caserol neu ei dro-ffrïo gyda chynhwysion rhatach fel ffa, codlysiau (pulses) neu lysiau tymhorol. Mae seilio dy brydau ar fwydydd â starts fel reis, pasta neu fara nid yn unig yn syniad o ran cael deiet iach a chytbwys, ond mae'r bwydydd hyn yn eithaf rhad ac yn gwneud i bryd fynd ymhellach.

Un ffordd dda o arbed arian yw coginio llond sosban o brydau fel tsili, cyri neu stiw, a rhewi'r bwyd yn ddognau cyfleus. Pan fyddi di'n gwneud hyn neu’n cadw bwyd sydd dros ben, mae’n bwysig ei oeri’n gyflym (o fewn awr neu ddwy), yna'i rewi mewn cynhwysyddion wedi’u selio. A chofia, wrth ailgynhesu bwyd, gwna'n siŵr ei fod yn chwilboeth drwyddo bob amser.

Gall bwyta brecwast traddodiadol wedi’i goginio yn y bore fod yn ddewis iach

Gwir - Os wyt ti'n grilio cig moch heb lawer o fraster (lean bacon), yn potsio’r wyau ac yn cynnwys ffa pob, tomatos wedi'u grilio a madarch wedi’u coginio heb fraster, a’u gweini gyda bara crystiog, mae hwn yn frecwast iach a chytbwys!

Os yw'n dweud 'braster isel' neu ‘llai o fraster’ ar y label, mae'n golygu bod y cynnyrch yn ddewis iach bob tro

Gau – Er mwyn gallu honni bod cynnyrch yn cynnwys ‘llai o fraster’ (reduced fat) rhaid i lefel y braster fod o leiaf 30% yn is na chynhyrchion safonol. Ond mae’r mathau hyn o fwydydd yn dueddol o fod yn llawn braster ac egni yn y lle cyntaf, felly mae'n bosibl bod y fersiwn â ‘llai o fraster’ yn dal i gynnwys llawer iawn o’r ddau.

Nid yw bwydydd sydd wedi’u labelu fel rhai ‘braster isel’ (low fat) neu ‘llai o fraster’ (reduced fat) o angenrheidrwydd yn isel mewn egni. Defnyddir cynhwysion eraill yn lle’r braster, felly gall y bwyd gynnwys yr un faint neu hyd yn oed fwy o egni (calorïau).

Hefyd, os byddi di'n bwyta mwy o gynnyrch sy’n cynnwys 'llai o fraster' nag y byddet ti wedi'i wneud o’r fersiwn sy’n llawn braster, mae'n bosibl y byddi di’n bwyta'r un faint os nad mwy o fraster ac egni. Gofal piau hi!

Os wyt ti am ddewis opsiwn iach, mae’n well dewis pryd llysieuol

Gau - Mae rhai prydau llysieuol yn gallu bod llawn braster, yn enwedig os ydynt yn cynnwys llawer o gaws, olew, toes (pastry) neu saws hufennog neu os ydynt yn cael eu ffrïo. Felly nid ydynt o angenrheidrwydd yn opsiwn iach.

Yn wir, gall cig coch fod yn isel mewn braster os yw’n gig heb lawer o fraster (lean) a bod y braster gweladwy wedi’i dorri i ffwrdd. Mae bwydydd eraill sy’n isel mewn braster yn cynnwys cyw iâr heb y croen a physgod, os ydynt wedi'u coginio heb ormod o fraster.

Ond mae hi bob tro’n syniad da cael ychydig o lysiau gyda dy bryd, gan y dylai pob un ohonom fwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau amrywiol bob dydd fel rhan o ddeiet iach a chytbwys.

Mae siwed (suet) llysiau yn llawer gwell i ti na siwed cig eidion

Gau – Mae siwed llysiau yn addas i lysieuwyr ond mae’n cynnwys yr un faint o fraster â siwed cig eidion, a’r un faint o fraster dirlawn. Mae’r un peth yn wir am gaws.

Mae caws llysieuol yn addas i lysieuwyr gan nad oes ceuled sy'n hanu o anifeiliaid ynddo (mae wedi ei wneud o laeth yr un fath) ond nid yw hyn yn effeithio ar faint o fraster sydd ynddo.

Mae marjarîn yn cynnwys llai o fraster na menyn

Gau – Mae menyn a marjarîn yn cynnwys gwahanol fathau o fraster, ond mae’r ddau’n cynnwys tua’r un faint o fraster. Felly, pa un bynnag yr wyt ti'n ei ddewis, cofia beidio â defnyddio llawer.

Mae cig coch bob tro'n uchel mewn braster a dofednod bob amser yn isel mewn braster

Gau - Gall torri braster gweladwy oddi ar gig wneud gwahaniaeth mawr i faint o fraster sydd ynddo. Mewn gwirionedd, mae cig coch yn gymharol isel mewn braster, tua 4-8g fesul 100g.

Pan fo darnau llawn braster a darnau heb lawer o fraster o gig yn cael eu cymysgu i greu briwgig neu gynhyrchion cig, gall hyn wneud y bwyd yn llawer uwch mewn braster. Mae cynhyrchion cig, p'un a'u bod wedi’u gwneud o gig coch neu ddofednod, hefyd yn gallu bod yn llawn braster gan fod y cynhwysion eraill yn cynnwys llawer o fraster, fel y toes (pastry) mewn pastai cig.

Mae dofednod heb groen yn cynnwys tua 1-3g o fraster fesul 100g, ac mae cig gwyn yn cynnwys llai o fraster na chig tywyll. Ond os nad wyt ti'n torri’r croen a’r darnau o fraster i ffwrdd, bydd y bwyd yn cynnwys llawer mwy o fraster.

Felly, ceisia ddewis cig heb lawer o fraster, gan gael gwared ar unrhyw fraster gweladwy, a chofia dynnu’r croen oddi ar ddofednod.

Mae melysion yn ffynhonnell dda o fitaminau

Gau – Mae melysion yn cynnwys llawer iawn o siwgr ac nid ydynt yn ffynhonnell dda o fitaminau a mwynau. Bydd bwyta melysion yn gyson rhwng prydau yn achosi i’r dannedd bydru. I gael byrbrydau sy'n llawn fitaminau a mwynau, rho gynnig ar amrywiaeth o ffrwythau (rhai wedi'u sychu neu rai ffres).

Mae yfed dŵr oer rhewllyd yn defnyddio mwy o galorïau ac yn dy helpu i golli pwysau

Gau - Nid yw yfed dŵr oer rhewllyd yn defnyddio mwy o galorïau nag yfed dŵr sydd ar dymheredd yr ystafell. Os wyt ti am golli pwysau mae’n bwysig peidio â mynd ar ‘ddeiet eithafol’. Mae colli pwysau yn cymryd amser.

Y ffordd fwyaf effeithiol o golli pwysau - a pheidio ag ail-fagu'r pwysau hwnnw - yw newid dy ffordd o fyw. Mae angen i ti fwyta deiet iach a chytbwys, sy’n golygu bwyta digon o ffrwythau a llysiau, seilio dy brydau ar fwyd â starts, a bwyta llai o fwydydd sy’n llawn siwgr neu fraster, a gwneud mwy o ymarfer corff.

Os yw plentyn yn gwrthod bwyta ffrwythau neu lysiau, mae’n well peidio â’u rhoi iddynt eto

Gau - Mae’n well dangos bwyd newydd i blentyn sawl gwaith cyn ei roi iddo i’w flasu. Cynigia fwyd newydd i blentyn mor aml â phosibl. Os yw’r plentyn yn ei wrthod, arhosa ddiwrnod neu ddau cyn rhoi cynnig arni eto. Mae ffrwythau a llysiau (rhai ffres, rhai wedi’u rhewi, rhai mewn tun, rhai wedi'u sychu neu wydriad o sudd) yn rhan bwysig o ddeiet iach a chytbwys i blant ac oedolion.

Os yw plentyn yn amharod i fwyta ffrwythau neu lysiau arbennig, cynigia fathau eraill yn eu lle, neu gelli eu cymysgu â bwyd y maent yn mwynhau ei fwyta fel iogwrt, reis neu datws stwnsh. Gelli hefyd annog dy blentyn i dy helpu i baratoi bwydydd newydd - mae ymchwil yn awgrymu y byddant yn fwy tebygol o roi cynnig ar fwydydd drwy wneud hyn. Mae’n bwysig dy fod yn ceisio osgoi unrhyw wrthdaro ynghylch bwyd gan y gall hyn wneud pethau'n waeth. Yn hytrach, ceisia gynnig amrywiaeth o fwyd i dy blentyn.

Nid yw ffrwythau wedi'u sychu yn cyfrif tuag at dy 5-y-dydd

Gau - Fel rhan o ddeiet iach, dylem fod yn bwyta o leiaf pum dogn o ffrwythau a llysiau amrywiol bob dydd, p'un a ydynt yn rhai wedi'u sychu, rhai ffres, rhai wedi’u rhewi, rhai mewn tun neu fel sudd. Mae ffrwythau wedi'u sychu fel cyrens, syltanas, rhesins, datys a ffigys yn darparu egni ar ffurf siwgr ac maent yn ffynhonnell dda o ffeibr. Mae'r ffrwythau hyn hefyd yn cynnwys fitaminau a mwynau, ond nid fitamin C, sydd i’w gael mewn ffrwythau ffres. Mae dogn o ffrwythau wedi'u sychu tua un llond llwy fwrdd. Mae hyn yn llai na dogn o ffrwythau ffres gan ei fod yn seiliedig ar bwysau’r ffrwythau petaent yn rhai ffres. Felly mae ffrwythau wedi'u sychu yn cyfrif tuag at dy 5-y-dydd, ond cofia, mae'n well i dy ddannedd i'w cael gyda dy bryd yn hytrach na rhwng prydau.

Mae hi'n iawn peidio â bwyta brecwast

Gau - Mae brecwast yn bryd pwysig iawn. Tra ein bod ni'n cysgu, rydym ni hefyd yn 'ymprydio' am gyfartaledd o tua wyth awr, felly mae’n hanfodol ein bod ni'n rhoi'r gorau i’r ympryd hwn. Er bod pobl sy’n peidio â bwyta brecwast yn cael eu hegni mewn bwydydd eraill yn hwyrach y dydd, mae’n annhebygol y byddan nhw’n cael yr holl fitaminau a mwynau y gall brecwast syml eu darparu. Hefyd, os ydym ni'n mynd heb frecwast, rydym ni'n fwy tebygol o fwyta byrbrydau sy’n uchel mewn siwgr neu fraster erbyn canol bore.

Mae rhoi sudd lemon ar fraster cig yn ei doddi

Gau – Ni fydd sudd lemon, er ei fod yn ffynhonnell dda o fitamin C, yn toddi’r braster oddi ar fwydydd brasterog. Y ffordd orau i gael gwared ar y braster gweladwy ar gig yw ei dorri i ffwrdd neu ddewis cig heb lawer o fraster.

Nid yw afocados yn ddewis iach

Gau – Mae afocados yn cynnwys braster mono-annirlawn, sy’n cael effaith bositif ar lefel y colesterol yn y gwaed. Fel rhan o ddeiet iach mae’n bwysig ein bod ni'n bwyta llai o fraster dirlawn, gan geisio bwyta mwy o fraster annirlawn, yn ogystal â bwyta llai o fraster yn gyffredinol. Felly mae afocados yn ddewis iach. Mae hanner afocado yn cyfrif tuag at un o’r pum dogn o ffrwythau a llysiau amrywiol y dylem eu bwyta bob dydd. Fodd bynnag, mae afocados yn cynnwys braster a gall bwyta gormod o unrhyw fwyd sy’n cynnwys braster arwain at fagu pwysau os nad wyt ti'n gwneud ymarfer corff.

Mae'r rhan fwyaf o'r halen yn ein deiet yn cael ei ychwanegu wrth y bwrdd

Gau – Daw 75% o’r halen yn ein deiet o fwydydd wedi’u prosesu. Dim ond 10 i 15% sy'n dod o’r halen yr ydym yn ei ychwanegu wrth goginio neu wrth y bwrdd.

Ar gyfartaledd rydym yn bwyta tua 8.6g o halen y dydd. Ond ni ddylai oedolion fwyta mwy na 6g o halen y dydd.

Mae sudd ffrwythau yn gallu niweidio dy ddannedd

Gwir - Mae’r siwgrau a geir yn naturiol mewn ffrwythau cyfan yn llai tebygol o bydru'r dannedd gan ei fod yn rhan annatod o’r ffrwyth. Ond, pan fo’r ffrwyth wedi’i ddefnyddio i wneud sudd neu wedi’i gymysgu, caiff y siwgr ei ryddhau. Wedi'i iddo gael ei ryddhau, gall y siwgr hwn niweidio dannedd, yn arbennig os caiff sudd ffrwythau ei yfed yn gyson.

Ond mae sudd ffrwythau yn dal i fod yn ddewis iach. Mae un gwydraid (150ml) yn cyfrif fel un o’r pum dogn o ffrwythau a llysiau y dylai pob un ohonom geisio eu bwyta bob dydd.

Er mwyn helpu i gadw dannedd iach, mae’n well cael sudd ffrwythau gyda phrydau, yn arbennig i blant. Mae llaeth neu ddŵr yn ddewisiadau da i blant rhwng prydau.