Pêl-droed y Sêr 2006
Roedd y sêr a fu’n chwarae pêl-droed i godi arian ar gyfer elusennau ym mis Mai yn cynnwys Nikki Sanderson o Coronation Street a Michelle o The Apprentice.
Cynhaliwyd digwyddiad Pêl-droed y Sêr yn St Andrew’s, cartref tîm pêl-droed Birmingham City, ddydd Sul 14 Mai ac yn Upton Park, cartref tîm pêl-droed West Ham United, ar 21 Mai.


Y tîm buddugol yn Upton Park yng nghystadleuaeth y merched oedd tîm Liberty X, a oedd yn cynnwys Liz McLarnon, gynt o Atomic Kitten, Nikki Sanderson o Coronation Street, Lady Sovereign, Kate Lawler o Big Brother, y model Vivianna a Charlie Murray o’r rhaglen deledu Shipwrecked.
Yn y ffeinal, roedd tîm Liberty X yn fuddugol dros dîm Clea, a oedd yn cynnwys aelodau’r grŵp Clea, sêr o’r rhaglen deledu Beauty and the Geek a’r modelau Jakki Degg a Leilani.
Yng nghystadleuaeth y dynion, ychydig iawn oedd i’w ddewis rhwng y timau ond, yn y pen draw, cipiwyd y tlws gan dîm Hollyoaks, a gurodd dîm Beauty and the Geek ar giciau o’r smotyn ar ôl gêm gyfartal 2-2.
Dyma rai o’r sêr a fu’n cymryd rhan:
| Hollyoaks - Nick Pickard, Ashley Taylor Dawson, Chris Fountain, Gary Burnett |
Shipwrecked - Sam Bush, Crawford Anderson, Chris Braine |
| Mikey Green (Phixx) | Andy Scott Lee |
| Oliver & James Phelps (Weasley Twins) | Mike McClean |
| Mark Smith (Gladiator) | Mike Parfitt |
| Tamar Hassan | Danny John Jules |
| Danny Dyer | Jeff Brazier |
| Alex Lawler | Princess Tamara |
| Rhino (Gladiator) | Lady Sovereign |
| Big Brother - Kate Lawler, Saskia, Maxwell, Dan, Michelle Bass | Goldie Lookin Chain - Maggot, Mike Balls, Eggsy ac ati |
| Liberty X | Clea |
| Son of Dork | Dirty Sanchez |
| Various DJs | Holby City stars |
| The Bill | Beauty and the Geek (cystadleuwyr) |
| Syed (The Apprentice) | Chris Greener |
| James Bourne (Busted) | Starsailor |
| Lucy Pinder | Jakki Degg |
| Vivianna |
- Bwytwch frecwast
- Bwytwch fwy o ffrwythau
- Yfwch ddŵr
O flaen torf fywiog a brwdfrydig o tua 5,000 yn stadiwm St Andrew’s yn Birmingham, bu timau o sêr yn cymryd rhan mewn Cwpan Byd Pêl-droed y Sêr, gyda phob tîm yn cynrychioli gwlad ac yn gwisgo lliwiau’r wlad honno.
Roedd twrnamaint Birmingham, a ddarlledwyd yn fyw ar deledu lloeren, yn codi arian ar gyfer y Samariaid ac yn hyrwyddo negeseuon eatwell.
Y newyddion drwg yw nad Cymru enillodd, ond llwyddodd timau Lloegr i gyrraedd y ffeinal yng nghystadlaethau’r dynion a’r merched.
Roedd tîm Lloegr yn cynnwys Nikki Sanderson, Rebecca Loos, Michelle Dewberry (enillydd The Apprentice) a Michelle Heaton o Liberty X yn y gôl. Caprice oedd rheolwraig y tîm.
Yr Eidal, dan arweiniad eu rheolwr Aldo Zilli, enillodd ffeinal y dynion, gan guro Lloegr 1-0 gyda gôl yn y funud olaf. Roedd tîm yr Eidal yn cynnwys Kasabian a Guy Burnett o Hollyoaks. Roedd tîm Lloegr yn cynnwys Lee Sharpe, Justin Hawkins, Jeff Brazier, Tony Christie, Derek Acorah, Chris Fountain a Nick Pickard o Hollyoaks.
Dyma rai o’r sêr eraill a fu’n cymryd rhan yn nhwrnamaint Birmingham::
| Syed (The Apprentice) |
Paul Tulip (The Apprentice) |
| Jimmy Carr | Chris Greener |
| James Bourne (Busted) | Shane Lynch (Boyzone) |
| Bez (Happy Mondays) | Starsailor |
| Makosi and Kinga o Big Brother | Jakki Degg |
'Mae llawer o bwysau ar ferched i "fod yn denau" ond mae teimlo’n dda a bod yn iach yn llawer mwy pwysig.
'Nid oes rhaid i fwyta’n iach fod yn gymhleth. Bydd newidiadau bach, fel bwyta brecwast a bwyta banana yn lle bar o siocled bob dydd, yn gwneud gwahaniaeth mawr.
'Mae bod yn egnïol yn bwysig hefyd, a gobeithio y bydd Pêl-droed y Sêr yn ysbrydoli llawer o ferched i gadw’n heini trwy chwarae pêl-droed yr haf hwn!'
'Rwy’n gweld llawer o ferched yn dilyn deiet caeth sy’n gwneud iddyn nhw deimlo’n drist ac yn flinedig. Mae cymryd rhan yn nhwrnamaint Pêl-droed y Sêr yn ffordd wych o ddangos i bobl ifanc yn eu harddegau bod bwyta’n iach yn hanfodol i’w hiechyd. Yn sicr, mae angen tipyn o egni arnoch chi i redeg o gwmpas cae pêl-droed!'
- sut i gael y gorau o’ch sesiynau ymarfer
- sut i wneud yn siŵr bod eich lefelau ffitrwydd yn addas ar gyfer yr her o chwarae pêl-droed
- cyngor ar deithio gyda’ch tîm lleol neu ysgol
Gallwch ddysgu sut i edrych a theimlo ar eich gorau, gan gynnwys cynllun prydau wythnos, trwy fwrw golwg ar yr adran i bobl ifanc yn eu harddegau.





