Wyt ti'n yfed digon?
Mae pob pêl-droediwr proffesiynol, gan gynnwys Gareth Bale, yn gwybod pa mor bwysig yw yfed digon. Ystyr 'hydradiad' yw faint o ddŵr sydd gen ti yn dy gorff. Dŵr yw un o’r maethynnau pwysicaf yn dy ddeiet. Dim ond am ychydig ddyddiau y mae'n bosibl byw heb ddŵr, er dy fod yn gallu mynd am wythnosau heb fwyd!
- dy fod yn rhedeg yn arafach
- nad wyt ti'n rhedeg mor bell
- dy fod yn ymateb i’r bêl yn arafach wrth daclo/ pasio/ rhyng-gipio/ arbed
- nad wyt ti'n gallu neidio mor uchel i benio neu ddal/clirio’r bêl os mai gôl-geidwad wyt ti
Fodd bynnag, mae’n bwysig gwneud iawn am y chwys yr wyt ti'n ei golli neu byddi di'n dadhydradu.
Os wyt ti'n dadhydradu, mae tymheredd dy gorff yn codi, mae dy berfformiad yn dirywio a gelli hyd yn oed ddioddef o straen gwres (heat stress).
Y ffordd hawsaf o ddweud a wyt ti'n yfed digon i wneud iawn am y chwys yr wyt ti wedi'i golli yw edrych ar liw dy wrin a faint ohono ti'n ei basio.
Os yw’n dywyll iawn mae angen i ti yfed mwy o hylifau. Pan fydd dy wrin yn felyn golau bydd cydbwysedd dŵr dy gorff yn iawn eto.
Os yw dy wrin yn dywyll iawn, dylet yfed 500ml o ddŵr ar unwaith, a pharhau i yfed tan i dy wrin droi’n felyn golau eto.
Yn ogystal â monitro wrin a’r pwysau yr wyt ti'n ei golli, dylet hefyd fonitro sut wyt ti'n teimlo. Os wyt ti'n dioddef o flinder cronig, cur pen, neu os wyt ti’n teimlo’n swrth, efallai dy fod yn dioddef o ddadhydradiad cronig, a dylet barhau i yfed tan i ti ddechrau teimlo’n well.
Nid yw syched yn ffordd effeithiol o ddweud a wyt ti'n yfed digon ai peidio, gan fod eisoes â diffyg hylif yn dy gorff erbyn i ti deimlo’n sychedig. Mae gan blant ifanc yn arbennig fecanwaith syched gwael, felly dylet wneud pob ymdrech i yfed cyn ac yn ystod sesiynau hyfforddi, ac wedi hynny.
Fel y soniwyd eisoes, y ffordd fwyaf diogel o fonitro lefelau hydradiad yw drwy edrych ar liw dy wrin a pha mor aml ti'n ei basio.
Mewn diwrnod hyfforddi arferol dylet geisio yfed rhwng 3 a 5 litr o hylif. Bydd yr union faint yn dibynnu ar dymheredd yr aer, maint dy gorff, gweithgareddau dyddiol ac am ba mor hir yr wyt ti'n hyfforddi.
Ceisia osgoi yfed gormod o ddiodydd pop. Gallant wneud i ti deimlo’n llawn ac achosi anhwylderau stumog.
Hefyd, ceisia gadw llygad ar gynnwys siwgr rhai diodydd ysgafn, gan y gall llawer ohonynt gynnwys llawer iawn o galorïau. Mae sudd ffrwythau fel arfer yn cynnwys llawer o galorïau hefyd, felly paid ag yfed llawer ohono, neu beth am ei wanhau gyda dŵr? Cofia yfed cymaint o ddŵr â phosibl, neu dewisa sudd ffrwythau gwan neu sgwosh isel mewn siwgr.
Cyn y gêm, yn ystod y gêm ac ar ôl y gêm, dylet geisio yfed diod 'chwaraeon' i gael egni ac electrolytau, megis sodiwm a photasiwm, sef y pethau ti'n eu colli mewn chwys. Dylet ddod i arfer ag yfed wrth hyfforddi.
Wrth hyfforddi neu chwarae gêm, dylet geisio yfed:
- o leiaf 500ml (tua 1 peint) awr cyn cychwyn
- yna, 200ml (gwydraid arferol) 15 i 20 munud cyn cychwyn. Bydd yr hylif yn dy system yn barod i gymryd lle’r chwys yr wyt ti'n ei golli.
- ceisia yfed tua 200ml o hylif bob 15 i 20 munud wrth hyfforddi. Bydd angen yfed mwy na hyn mewn tywydd poeth, a llai mewn tywydd oer os nad wyt ti'n chwysu neu os nad yw’r sesiwn mor ddwys â hynny.
- ceisia yfed mor aml â phosibl yn ystod gemau. Ond, gan dy fod yn dibynnu ar hanner amser a ballu, cer ati i osod poteli o ddiod o gwmpas y cae fel nad wyt ti'n gorfod mynd i un lle penodol i gael diod.
- ceisia yfed yn ystod hanner amser.
- cofia yfed yn syth ar ôl y gêm er mwyn dechrau gwneud iawn am y chwys a’r egni yr wyt ti wedi’i golli yn ystod y gêm.





