Blas ar bêl-droed...
Fel mae tîm Cymru’n gwybod, mae egni yn rhan bwysig iawn o hyfforddi gan nad wyt ti'n gallu hyfforddi’n ddwys os nad oes gen ti ddigon o egni yn dy gorff. Os nad wyt ti'n bwyta'n iawn, ni fydd dy ffitrwydd yn gwella o gwbl.
Mae bwydydd sy’n cynnwys llawer o garbohydrad yn cynnwys bara, tatws, pasta, reis a grawnfwydydd. Mae carbohydrad yn cael ei storio fel glycogen yn eich cyhyrau a’ch iau, ac fel glwcos yn eich gwaed.
Fodd bynnag, cyflenwad cyfyngedig yn unig o garbohydrad sydd gan eich corff, felly mae’n hanfodol eich bod yn cael carbohydradau ar ôl pob sesiwn hyfforddi a gêm.
Yn ystod y cyfnod hwn, dylech geisio yfed 1 litr o hylif a bwyta o leiaf un o’r bwydydd carbohydrad canlynol:
- dwy dafell o dost, cramwythen, bagel neu fyffin gyda jam
- powlen o rawnfwyd gyda llaeth hanner sgim
- 2 fanana
- bar grawnfwyd
Dyma ddau gynllun bwydlen y dylech roi cynnig arnynt yn ystod diwrnod hyfforddi neu gêm arferol.
Canllaw yn unig yw’r amseroedd a roddir, bydd angen i chi addasu’r rhain ar gyfer eich amserlen eich hun, ond cofiwch fwyta’ch byrbryd carbohydrad a pheint o hylif o fewn awr i orffen hyfforddi. Cofiwch hefyd fwyta pryd 3 awr cyn gêm.
| Diwrnod Hyfforddi Arferol | |
|---|---|
| 9.30/10am | Powlen o rawnfwyd brecwast Orennau mandarin Gwydraid o sudd oren ffres 1 tafell o dost |
| 11.30am | Banana neu fyffin wedi’i dostio gyda jam Pint of diluted fruit juice or fruit squash |
| 1pm | Taten bôb gyda chorgimychiaid a chaws (e.e. caws colfran) Peint o ddiod ffrwythau neu sudd ffrwythau gwan |
| 3pm | 2 fanana Llond llaw o rawnwin Peint o ddiod ffrwythau neu sudd ffrwythau gwan |
| 5pm | Pasta gyda chyw iâr, brocoli a saws tomato Iogwrt braster isel Peint o ddiod ffrwythau neu sudd ffrwythau gwan |
| 7pm | Powlen o rawnfwyd brecwast neu fanana a phaced o resinau Gwydraid o ddŵr |
| 8.30-10pm | Hyfforddi |
| 10.30/11pm | 2 dafell o dost a jam Grawnfwyd a ffrwyth Peint o ddiod ffrwythau neu sudd ffrwythau gwan |
| Diwrnod Gêm Arferol (dechrau am 2pm) | |
|---|---|
| 9.30/10am | Peint o ddŵr Grawnfwyd a ffrwyth |
| 11am | 2 dafell o dost ac wyau wedi’u sgramblo, tomatos Sudd oren ffres |
| 1pm | Diod chwaraeon Banana |
| Hyd at y gêm | Diod chwaraeon |
| Hanner amser | Diod chwaraeon |
| Ar ôl y gêm | Diod chwaraeon Banana neu far grawnfwyd |
| 5/6pm | Cawl a bara Cyw iâr, pasta, llysiau mewn saws barbiciw Bananas a chwstard Peint o ddiod ffrwythau neu sudd ffrwythau gwan |
| 8pm | 2 dafell o dost a jam Peint o ddiod ffrwythau neu sudd ffrwythau gwan |





