Dawns y Danteithion
Dere i gyfarfod cymeriadau sioe yr ASB, y Danteithion sy'n Dawnsio! Mae ganddyn nhw’r symudiadau a’r wybodaeth hanfodol i dy helpu i fwyta’n iach. Cafodd y sioe ei pherfformio yn ystod Good Food Show y BBC yn yr NEC, Brimingham.
Twm Tomato

Mae Twm Tomato sy’n aeddfed a llawn sudd, yn gwybod y dylai pob un ohonom
fwyta llawer o ffrwythau a llysiau - o leiaf pum dogn y dydd, gan gynnwys amrywiaeth o wahanol fathau.
Tina Tiwna

Gall Tina Tiwna ffres fod yn dipyn o gwsmer llithrig. Ond mae hi wastad ag amser i ddweud wrthot ti am
fwyta mwy o bysgod – gan gynnwys dogn o bysgod olewog bob wythnos.
Bedwyr y Byrgyr

Nid yw Bedwyr y Byrgyr yn gosod esiampl dda gyda’i ddeiet ei hun. Pe bai ond yn gwybod y dylem ni gyd geisio bwyta llai o frasterau dirlawn a siwgr.
Helen Halen

Yn aml iawn, bydd Helen Halen smart a ffasiynol yn darllen y labeli ar ei hoff fwydydd. Mae hyn oherwydd y dylem i gyd
geisio bwyta llai o halen – dim mwy na 6g o halen bob dydd ar gyfer oedolion a llai i blant.
Ffred Ffa

Mae Ffred Ffa’n denau, yn wyrdd ac yn iach iawn. Mae’n amlwg ei fod yn gwybod pa mor bwysig yw
ymarfer corff a chynnal pwysau iach.
Aqua Vera

Mae Aqua Vera’n adnabyddus am ei symudiadau llyfn ar y llawr, ac mae’n arbenigwraig ar fath arall o hylif. Dyna pam ei bod bob amser yn barod i ddweud wrth bawb am
yfed digon o ddŵr.
Steffan Starts

Steffan Starts yw brenin y ddawns, ac mae bob amser yn barod i weini bara, pasta, reis neu datws. Mae’n gwybod y dylet ti
seilio dy brydau bwyd ar fwydydd â starts fel y rhain.
Carwyn Ceirch

Ble bynnag yr aiff Carwyn Ceirch yr un yw ei neges o hyd:
cofia fwyta brecwast.