Text only

Brecwast


Teen girl eating cereal

Mae llawer o bobl yn dweud nad ydyn nhw’n bwyta brecwast am nad oes amser ganddyn nhw neu am nad oes arnynt awydd brecwast. Ond mae bendant yn werth gwneud amser i gael brecwast. Mae’n siŵr dy fod wedi clywed mai ‘brecwast yw pryd pwysicaf y dydd'. Ac er bod pob un o'n prydau yn bwysig, mae nifer o resymau pam fod brecwast yn hanfodol.



Pam fod brecwast yn bwysig?

egg boiled Pan wyt ti'n deffro, mae dy gorff wedi bod heb fwyd am oriau maith. Mae brecwast yn rhoi egni i ni i wynebu’r dydd, yn ogystal â rhai fitaminau a mwynau hanfodol. Gallai bwyta brecwast dy helpu di i reoli dy bwysau hefyd.

Mae yna rywfaint o dystiolaeth sy’n awgrymu bod oedolion a phlant sy’n bwyta brecwast yn rheolaidd yn llai tebygol o fod dros eu pwysau na phobl sy’n mynd heb frecwast.

Brecwast gartref

wheat biscuit cereal Os am ddechrau blasus ac iach i’r diwrnod, dylet ti fwyta bwydydd â starts fel bara neu rawnfwyd brecwast. Dyma rai syniadau ac awgrymiadau:

  • Wrth ddewis grawnfwyd brecwast, ceisia ddewis un sy’n cynnwys grawn cyflawn a llai o halen a siwgr. Defnyddia laeth sgim neu hanner sgim, neu iogwrt braster isel (ond cofia nad yw llaeth sgim yn addas ar gyfer plant llai na 5 oed).

  • Ceisia fwyta ychydig o ffrwythau – mae ffrwythau ffres, wedi’u rhewi, mewn tun neu ffrwythau wedi'u sychu yn cyfrif tuag at dy bum dogn o ffrwythau a llysiau y dydd. Rho ychydig o fanana ar dy dost, neu ychwanega ddarnau o afal, aeron neu ffrwythau sych at dy rawnfwyd.

  • Cofia yfed rywfaint o sudd ffrwythau gyda dy frecwast – bydd hyn yn cyfrif fel un o dy ddognau o ffrwythau a llysiau, cyn belled â’i fod yn 100% sudd. Mae un gwydraid (150ml) o sudd ffrwythau y dydd yn cyfrif fel uchafswm o un dogn.

  • Defnyddia fara gwenith cyflawn neu fara brown garw i wneud dy dost, gyda dim ond ychydig o sbred braster isel a jam neu farmalêd. Dewisa sbred sy’n uchel mewn braster aml-annirlawn neu fono-annirlawn (mathau o fraster annirlawn) yn lle sbred braster dirlawn, fel menyn. Gall cael braster annirlawn yn lle braster dirlawn helpu i leihau dy lefelau colesterol.

  • Beth am roi cynnig ar smwddi? Os oes gen ti amser, gelli ei baratoi y noson gynt a’i storio yn yr oergell neu baratoi’r holl ffrwythau yn barod ar gyfer y bore. Defnyddia ffrwythau ffres fel banana a mefus a rhywfaint o laeth neu iogwrt braster isel. Gelli ychwanegu rhywfaint o rawnfwyd grawn cyflawn i gael rhagor o ffeibr, neu fricyll o dun gyda rhywfaint o sudd oren.

  • Mae ceirch uwd yn rhad ac yn cynnwys llawer o fitaminau, mwynau a ffeibr. Defnyddia llaeth sgim, llaeth hanner sgim neu ddŵr yn dy uwd. Os wyt ti’n ychwanegu halen at dy uwd, ceisia newid yr arfer. Ychwanega rywfaint o fricyll sych neu fanana i gael mwy o flas.

  • Yn hytrach na thost arferol, beth am dostio myffin grawn cyflawn neu dorth ffrwythau?

  • Os oes gen ti fwy o amser, beth am gael wy wedi’i botsio a madarch ar dost? Mae'n bosibl ffrio'r madarch mewn padell gydag ychydig bach o olew llysiau.

  • Os oes gen ti blant, ceisia fwyta brecwast gyda’ch gilydd. Bydd hyn yn helpu i’w hannog i fwyta brecwast.
  • Pan fydd gen ti ddigon o amser, mae plant yn mwynhau gwneud eu brecwast eu hunain – gallet ti gadw gwahanol fathau o rawnfwyd yn y cwpwrdd iddyn nhw eu cymysgu. Ceisia gadw amrywiaeth o fwyd i’w rhoi ar ben y grawnfwyd, fel rhesins, cnau neu fanana sych.
  • Gall brecwast wedi’i ffrio fod yn rhan o ddeiet cytbwys iach o bryd i’w gilydd – ond paid â’i fwyta’n rhy aml.


Brecwast ar frys

fruit salad Os yw amser yn brin iawn yn y bore, does dim rhaid i ti fethu brecwast yn llwyr. Dyma rai awgrymiadau a fydd yn sicrhau dy fod yn dal i gael brecwast iach:

  • Ceisia baratoi brecwast y noson gynt a’i roi yn yr oergell. Gallet ti wneud brechdan gaws gyda rholyn gwenith cyflawn, sbred braster isel a darn bach o gaws.
  • Cadwa gyflenwad o fwydydd sy’n hawdd cario gyda thi ar dy ffordd allan yn y bore - afalau, gellyg, satswmas a bananas, pecynnau bach o gnau a ffrwythau sych, cartonau o sudd ffrwythau a thorth ffrwythau.
  • Os wyt ti’n gweithio mewn swyddfa, cadwa focs o rawnfwyd cyflawn, bowlen a llwy yn y gwaith. Yna, dim ond prynu llaeth ar y ffordd sydd angen i ti ei wneud i fwynhau brecwast wrth dy ddesg.
  • Ceisia wneud salad ffrwythau mawr i bwdin ar ôl dy bryd nos, yna gelli roi'r hyn sydd ar ôl mewn bocs plastig a mynd ag ef gyda thi yn y bore.
  • Gall craceri a bisgedi mwsli fod yn gyfleus os wyt ti ar frys, ond cofia fod rhai’n cynnwys llawer o fraster, halen a/neu siwgr, felly cofia edrych ar y label cyn eu prynu.