Os wyt ti'n mynd i rywle lleol, edrycha yn y wasg leol am hanes unrhyw droseddau hylendid bwyd. Ond os wyt ti wedi rhoi cynnig ar rywle newydd, cofia gadw llygad am y canlynol:
Arwyddion o berygl
mannau cyhoeddus budr (os nad yw'r mannau yr wyt ti'n gallu eu gweld wedi'u rheoli'n dda, meddylia am gyflwr y rhai nad wyt ti'n eu gweld)
byrddau, llestri, cyllyll a ffyrc a gwydrau budr
staff â dwylo neu ewinedd budr, ffedogau budr neu wallt hir sydd heb ei glymu nôl
biniau sbwriel gorlawn neu fagiau sbwriel y tu allan i'r adeilad (gallai'r rhain ddenu plâu a phryfaid)
toiledau a mannau golchi dwylo budr
bwydydd amrwd wedi'u harddangos drws nesaf i fwydydd sy'n barod i'w bwyta neu'r un llwyau'n cael eu defnyddio ar gyfer y ddau
arddangos bwyd sydd heibio ei ddyddiad 'defnyddio erbyn'
gwallt neu bryfaid mewn bwyd
Os wyt ti'n gweld rhai o'r rhain, yna mae'n debygol iawn nad yw'r safonau hylendid mor uchel ag y dylen nhw fod ac efallai y byddai'n syniad da bwyta rhywle arall.
Os wyt ti o'r farn nad yw safonau hylendid yn ddigon uchel, darllena'r pwt 'Dy hawliau'.
Arwyddion da Os wyt ti'n gweld yr arwyddion hyn, mae'n debyg dy fod wedi dod o hyd i fwyty newydd da:
mae'r bwyd yn chwilboeth drwyddo pan yr wyt ti'n ei dderbyn
mae bwyd oer yn gwbl oer pan yr wyt ti'n ei dderbyn
mae sosban newydd o fwyd yn cael ei roi allan pan fydd y sosban cyntaf wedi gorffen (ni ddylid ychwanegu bwyd newydd at fwyd sydd wedi bod allan ers tro)
mae oergelloedd hunanwasanaeth yn gwbl oer
mae tystysgrifau hyfforddiant hylendid y staff i'w gweld ar y waliau neu mae cyfarwyddiadau diogelwch bwyd mewn ardaloedd paratoi bwyd
nad yw wedi'i ddisgrifio neu ei gyflwyno mewn ffordd gamarweiniol
o ansawdd boddhaol
sy'n ddiogel i'w fwyta
Os wyt ti'n poeni bod bwyty'n labelu unrhyw fwyd yn gamarweiniol neu'n ei ddisgrifio mewn ffordd sy'n dy arwain i ddisgwyl rhywbeth cwbl wahanol i'r hyn yr wyt ti'n ei gael, gelli hysbysu dy awdurdod lleol am y mater.
Os wyt ti'n archebu pryd poeth a dy fod o'r farn nad yw wedi'i goginio neu ei ailgynhesu'n iawn - paid â'i fwyta - anfona'r pryd yn ôl. Mae'n debygol nad yw pryd poeth sy'n oer yn y canol wedi'i goginio'n iawn.
Os wyt ti o'r farn nad yw safonau hylendid yn ddigon da:
cofia wneud cwyn i'r perchennog
cer i fwyta i rywle arall
hysbysa wasanaeth iechyd yr amgylchedd lleol am y busnes - mae hyn yn bwysig, gan dy fod yn gallu helpu i atal arferion anhylan rhag gwneud pobl eraill yn ddifrifol wael
Mae pob busnes bwyd yn cael ei arolygu yn rheolaidd gan ei awdurdod lleol i sicrhau safonau hylan.
Mae swyddog iechyd yr amgylchedd yn edrych ar y ffordd mae staff yn gweithio ac yn ystyried a yw'r busnes yn cydymffurfio â'r gyfraith. Yn gyffredinol, nid yw busnesau'n cael eu rhybuddio am yr arolygiad ymlaen llaw.
Os nad yw'r swyddog yn fodlon gyda'r hyn mae'n ei weld, gall gynghori'r busnes, cyflwyno llythyr o rybudd neu hysbysiad ffurfiol i ddatrys y sefyllfa, neu erlyn y busnes. Mewn achosion difrifol, gellir cau'r busnes ar unwaith.
Mae pa mor aml y caiff arolygiadau eu cynnal yn dibynnu ar y math o fusnes a'i hanes diogelwch bwyd blaenorol. Mae cwynion neu bryderon ymhlith y cyhoedd yn dylanwadu ar ba mor aml y cynhelir arolygiadau neu arwain at arolygiad dilynol prydlon gan yr awdurdod lleol. Felly cofia gwyno os oes gen ti unrhw bryderon.
Os wyt ti'n poeni am dy iechyd, ffonia Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647 neu cysyllta â dy feddyg teulu. Mae hyn yn arbennig o bwysig i blant, yr henoed, menywod beichiog a phobl sydd eisoes yn sâl.
Os wyt ti'n credu dy fod yn sâl o ganlyniad i fwyd yr wyt ti wedi'i fwyta mewn bwyty neu fusnes bwyd arall, dylet gysylltu â dy awdurdod lleol.