Safonau hylendid - beth i chwilio amdano
Dyma rai pethau y dylet gadw llygad arnynt wrth ddewis rhywle i fwyta neu brynu tecawê er mwyn sicrhau fod y safonau hylendid o'r radd flaenaf.


Cofia gadw llygad am yr arwyddion hyn...
Arwyddion o berygl
- mannau cyhoeddus budr (os nad yw'r mannau yr wyt ti'n gallu eu gweld wedi'u rheoli'n dda, meddylia am gyflwr y rhai nad wyt ti'n eu gweld)
- byrddau, llestri, cyllyll a ffyrc a gwydrau budr
- staff â dwylo neu ewinedd budr, ffedogau budr neu wallt hir sydd heb ei glymu nôl
- biniau sbwriel gorlawn neu fagiau sbwriel y tu allan i'r adeilad (gallai'r rhain ddenu plâu a phryfaid)
- toiledau a mannau golchi dwylo budr
- bwydydd amrwd wedi'u harddangos drws nesaf i fwydydd sy'n barod i'w bwyta neu'r un llwyau'n cael eu defnyddio ar gyfer y ddau
- arddangos bwyd sydd heibio ei ddyddiad 'defnyddio erbyn'
- gwallt neu bryfaid mewn bwyd
Os wyt ti o'r farn nad yw safonau hylendid yn ddigon uchel, darllena'r pwt 'Dy hawliau'.
Arwyddion da
Os wyt ti'n gweld yr arwyddion hyn, mae'n debyg dy fod wedi dod o hyd i fwyty newydd da:
- mae'r bwyd yn chwilboeth drwyddo pan yr wyt ti'n ei dderbyn
- mae bwyd oer yn gwbl oer pan yr wyt ti'n ei dderbyn
- mae sosban newydd o fwyd yn cael ei roi allan pan fydd y sosban cyntaf wedi gorffen (ni ddylid ychwanegu bwyd newydd at fwyd sydd wedi bod allan ers tro)
- mae oergelloedd hunanwasanaeth yn gwbl oer
- mae tystysgrifau hyfforddiant hylendid y staff i'w gweld ar y waliau neu mae cyfarwyddiadau diogelwch bwyd mewn ardaloedd paratoi bwyd
Dy hawliau
Mae gen ti hawl i dderbyn bwyd:- yr wyt ti wedi'i archebu
- nad yw wedi'i ddisgrifio neu ei gyflwyno mewn ffordd gamarweiniol
- o ansawdd boddhaol
- sy'n ddiogel i'w fwyta
Os wyt ti'n archebu pryd poeth a dy fod o'r farn nad yw wedi'i goginio neu ei ailgynhesu'n iawn - paid â'i fwyta - anfona'r pryd yn ôl. Mae'n debygol nad yw pryd poeth sy'n oer yn y canol wedi'i goginio'n iawn.
Os wyt ti o'r farn nad yw safonau hylendid yn ddigon da:
- cofia wneud cwyn i'r perchennog
- cer i fwyta i rywle arall
- hysbysa wasanaeth iechyd yr amgylchedd lleol am y busnes - mae hyn yn bwysig, gan dy fod yn gallu helpu i atal arferion anhylan rhag gwneud pobl eraill yn ddifrifol wael
Arolygiadau o fusnesau bwyd
Mae pob busnes bwyd yn cael ei arolygu yn rheolaidd gan ei awdurdod lleol i sicrhau safonau hylan.Mae swyddog iechyd yr amgylchedd yn edrych ar y ffordd mae staff yn gweithio ac yn ystyried a yw'r busnes yn cydymffurfio â'r gyfraith. Yn gyffredinol, nid yw busnesau'n cael eu rhybuddio am yr arolygiad ymlaen llaw.
Os nad yw'r swyddog yn fodlon gyda'r hyn mae'n ei weld, gall gynghori'r busnes, cyflwyno llythyr o rybudd neu hysbysiad ffurfiol i ddatrys y sefyllfa, neu erlyn y busnes. Mewn achosion difrifol, gellir cau'r busnes ar unwaith.
Mae pa mor aml y caiff arolygiadau eu cynnal yn dibynnu ar y math o fusnes a'i hanes diogelwch bwyd blaenorol. Mae cwynion neu bryderon ymhlith y cyhoedd yn dylanwadu ar ba mor aml y cynhelir arolygiadau neu arwain at arolygiad dilynol prydlon gan yr awdurdod lleol. Felly cofia gwyno os oes gen ti unrhw bryderon.
Gwenwyn bwyd
Os wyt ti'n poeni am dy iechyd, ffonia Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647 neu cysyllta â dy feddyg teulu. Mae hyn yn arbennig o bwysig i blant, yr henoed, menywod beichiog a phobl sydd eisoes yn sâl.Os wyt ti'n credu dy fod yn sâl o ganlyniad i fwyd yr wyt ti wedi'i fwyta mewn bwyty neu fusnes bwyd arall, dylet gysylltu â dy awdurdod lleol.





