Bwyta'n iach ar arian bach
Pan fo arian yn brin a phethau'n dynn, mae hi'n gallu teimlo'n anoddach gwario arian ar fwydydd iachach yn hytrach na’r pethau eraill y mae ar rywun eu hangen o ddydd i ddydd. Mae’n haws torri costau’n aml drwy brynu pryd rhad yn y siop tecawê. Neu ydi hi?Dyma rai awgrymiadau syml ar sut i fwyta deiet iachach a mwy cytbwys heb wario gormod.


Cynllunio ymlaen llaw
Ac os bydd gen ti ambell i beth sylfaenol yn y tŷ, fel reis, ffa mewn tun neu basta, bydd sylfeini pryd da, iachach o fwyd yno bob amser. Gall hyn dy helpu di hefyd i gynllunio prydau bwyd ymlaen llaw, gan fod bwydydd sych ac mewn tuniau yn aml yn cadw am amser maith.
- Beth fyddet ti’n hoffi ei gael i fwyta’r wythnos nesaf? Ysgrifenna restr siopa y gelli di gadw ati, a bydd hyn yn helpu i dy rwystro rhag estyn am fwydydd llai iach a allai dy demtio, a gallai arbed amser ac arian i ti.
- Paid â siopa ar stumog wag, os oes modd. Mae bwydydd gymaint yn fwy deniadol pan mae rhywun yn teimlo’n llwglyd. Os nad wyt ti wedi cael amser i gael pryd o fwyd, beth am gael tamaid bach o rywbeth iach i’w fwyta ar y ffordd? Gall hynny hyd yn oed helpu i leihau’r awydd bwyd, a’r awydd i brynu pethau ar fympwy.
- Chwilia am fargeinion. A oes rhywle rhatach na’r archfarchnad? Mae’n bosibl y bydd prisiau gwell i’w cael mewn marchnadoedd lleol.
- Faint o’r gloch yw hi? Mae’n bosibl y gelli di gael ambell i fargen ar ddiwedd y dydd os byddi di’n siopa’n hwyr a’r siop ar fin cau. Ond gofala nad yw dyddiad defnyddio’r bwyd wedi mynd heibio pan fyddi di’n ei fwyta.
Siopa’n Ddoeth
- Mae cynigion i brynu un eitem a chael un arall am ddim yn ddeniadol iawn. Gallan nhw fod yn gymorth mawr i arbed arian bob wythnos – ond gofala ddewis yn ddoeth. Os nad oeddet ti’n bwriadu prynu’r bwydydd penodol hynny, neu os na fyddet ti’n eu bwyta fel arfer, yna gallai fod yn wastraff arian, yn hytrach na bargen. A phaid â mynd am y rhai sy’n cynnwys llawer o fraster neu siwgr, er gwaethaf y pris deniadol.
- Gwylia faint y dognau – hyd yn oed os bydd i’w weld yn rhoi gwell gwerth am arian.
- Manteisia ar eitemau rhatach y gelli eu rhewi. Mae bara’n wych. Cofia rewi bwyd ar y diwrnod rwyt ti’n ei brynu, ei ddadmer yn llwyr, ac os oes angen ei goginio gofala ei fod yn chwilboeth trwyddo.
- Dewis ddarnau rhatach o gig fel cyw iâr cyfan, cig eidion i stiwio, twrci, neu gyw iâr ar yr asgwrn yn hytrach na darnau heb asgwrn. Gall briwgig twrci fod yn ddewis rhatach â llai o fraster na briwgig eidion. Mae’n well bwyta cyw iâr heb y croen er mwyn osgoi braster dirlawn – ond mae cig heb y croen yn aml yn ddrutach felly beth am brynu cyw iâr â’r croen a chael gwared ar y croen ar ôl cyrraedd gartref?
- Cofia dorri’r braster amlwg neu’r croen i ffwrdd cyn ei goginio os byddi di’n prynu darnau rhatach o gig. Gelli hefyd gael gwared ar unrhyw fraster dros ben wrth goginio neu ar ôl gorffen.
Defnyddio bwyd yn ddoeth
Coginio llwyth ar y tro
Beth am roi ffa o dun, corbys, pys wedi’u rhewi neu lysiau dros ben mewn prydau cig fel stiw, caserol, cawl, lasagne a tsili/chilli? Bydd yn gwneud iddo fynd ymhellach ac yn ychwanegu ffeibr gwerthfawr.
Defnyddio’r sbarion
Os wyt ti wedi coginio mwy o fwyd na’r bwriad, defnyddia’r sbarion drannoeth, yn lle’i wastraffu. Os mai pryd gyda reis oedd gen ti, ychwanega dun o ffa Ffrengig a pherlysiau sych. Os oes gen ti gyri dros ben, ond dim reis, beth am roi cynnig ar roi’r cyri mewn bara pitta cyflawn gyda salad, fel pryd Indiaidd mymryn yn wahanol? Neu gallet ti droi cyw iâr a llysiau dros ben yn gaserol iachus trwy ychwanegu ffa o dun.Cofia oeri unrhyw fwyd sydd dros ben cyn gynted â phosibl (o fewn awr neu ddwy yn ddelfrydol) ac yna’i storio yn yr oergell. Mae angen i ti fwyta unrhyw fwyd sydd dros ben o fewn deuddydd, heblaw am reis wedi'i goginio. Dylet fwyta reis wedi'i goginio o fewn diwrnod.
Blasu, dim gwastraffu
Os yw dy ffrwythau wedi gweld dyddiau gwell, paid â thaflu’r ffrwythau meddal i’r bin sbwriel heb feddwl. Beth am roi bananas meddal efo ffrwythau eraill neu laeth braster 1% mewn cymysgydd bwyd i wneud smwddi cartref? Neu gallet ti ddefnyddio kiwis ac afalau mewn fondue ffrwythau, neu botsio afalau meddal, gellyg, eirin gwlanog neu eirin mewn sudd ffrwythau.Efallai nad yw puprynnau wedi crebachu’n edrych yn wych mewn salad, ond gelli eu rhoi mewn prydau wedi’u coginio i ychwanegu lliw a blas.
Gallai bwydydd fod yn rhatach yn eu tymor. Mae llysiau’r gaeaf, fel bresych a moron, yn wych am wneud prydau sy’n eich llenwi, ac mae aeron yr haf yn hyfryd ar ben grawnfwyd brecwast.
Bwyd cyflym heb wario’n wirion
Ac yn yr amser y mae’n ei gymryd i dy fwyd Tsieineaidd gyrraedd, gallet ti fod wedi gwneud pryd blasus wedi’i dro-ffrïo, heb fawr o fraster.
Os wyt ti wir yn teimlo fel tecawê, beth am brynu dim ond y prif brydau a choginio popeth arall gartref? Gallet ti ferwi nwdls wrth ddisgwyl am dy brif bryd. Neu rho gynnig ar ein rysáit reis sawrus os wyt ti’n teimlo fel reis llysieuol â mymryn o gic blas cyri. Gelli di dostio darn o fara pitta yn syth o’r rhewgell yn lle prynu bara naan. Bydd yn well i dy boced, ac i dy iechyd hefyd gan na fyddi di’n cael cymaint o fraster o’r bwydydd ychwanegol.
Dyma ddewis o ryseitiau ar gyfer gwneud dy ‘tecawê’ dy hun.
Arbed arian amser cinio
Os oes gen ti’r amser y noson cynt, gallet ti wneud cawl i fynd i’r gwaith mewn fflasg, neu agor tun ffa a berwi pasta i wneud salad pasta a thiwna cyflym.
Efallai ei bod hi’n teimlo’n anoddach o lawer cyfri’r ceiniogau wrth fynd i ffreutur y gwaith neu gaffi. Ond ‘does dim rhaid i hynny fod yn wir. Dyma ambell i awgrym:
- Yn lle dy ddewis arferol, meddwl am eiliad y tro nesaf pa ddewis fyddai’n llawn maeth ac yn rhoi gwerth am arian. Ceisia amrywio dy brydau bwyd fe nad wyt ti’n bwyta’r un mathau o fwyd bob dydd.
- Mae talp o fara grawn cyflawn a phowlen o gawl poeth yn bryd rhad, ac yn dy lenwi hefyd.
- Paid â hwylio heibio i’r llysiau – gofyn am o leiaf un dogn o lysiau. Mae llysiau’n gallu helpu i dy lenwi di, felly mae’n bosibl na fydd angen i ti wario cymaint ar fwydydd eraill.
Oes gen ti hawl i fwyd am ddim?
Os wyt ti’n derbyn cymhorthdal incwm neu lwfansau eraill seiliedig ar incwm, mae’n bosibl bod gan dy blant di hawl i brydau bwyd am ddim yn yr ysgol. Mae talebau llaeth a ffrwythau a llysiau am ddim ar gael hefyd i rai plant a menywod beichiog.
Os wyt ti’n 60 oed neu hŷn mae’n bosibl y bydd gen ti hawl i fudd-daliadau gan ddibynnu ar dy incwm ar hyn o bryd.





