Gordewdra
Pan fo rhywun yn ordew, mae’n golygu eu bod wedi magu cymaint o bwysau, fe allai achosi niwed difrifol i’w hiechyd. Mae hyn yn cael ei achosi gan gyfuniad o fwyta gormod o galorïau a pheidio â gwneud digon o ymarfer corff.


Pwy sydd mewn perygl?
Ar hyn o bryd, mae tua hanner y menywod, a thua dwy ran o dair o ddynion naill ai dros eu pwysau neu’n ordew.
Mae bod dros dy bwysau neu'n ordew yn cynyddu’r perygl o ddatblygu clefyd y galon, diabetes Math 2, pwysedd gwaed uchel ac osteoarthritis.
Mae gordewdra’n gyfrifol am tua 18 miliwn o ddyddiau absenoldeb salwch o’r gwaith a 30,000 o farwolaethau y flwyddyn, a hynny yn Lloegr yn unig (ffynhonnell: Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol).
Sut ydw i’n gwybod os ydw i’n cario gormod o bwysau?
Mae'r gyfrifiannell yn cyfrifo dy BMI gan ddefnyddio’r hafaliad canlynol:
Dy bwysau mewn cilogramau (kg) wedi’i rannu â dy uchder mewn metrau (m) wedi’i sgwario
Felly, bydd gan ddyn sy’n pwyso 85kg ac sy’n 1.75m o daldra BMI o 28. Mae BMI sydd dros 25 yn cael ei ddiffinio fel 'cario gormod o bwysau', a BMI sy'n fwy na 30 yn cael ei gyfrif i fod yn ordew.
Pa gyngor deietegol sydd ar gael?
Mae ymarfer corff yn dda nid yn unig o ran rheoli pwysau’r corff yn y tymor hir, ond hefyd o ran rheoli pa mor aml ti eisiau bwyd. Mae'n dda iawn i'r galon a’r gwaed ac yn helpu i atal clefyd cardiofasgwlaidd.
Os wyt ti am golli pwysau, mae’n bwysig peidio â mynd ar ‘ddeiet eithafol’ neu 'crash diet' ond, yn hytrach, newid y ffordd yr wyt ti'n bwyta a threfnu deiet newydd y mae'n bosibl cadw ato drwy’r amser (ac nid pan fyddi di'n ceisio colli pwysau yn unig).
Pan fyddi di'n mynd yn ôl i fwyta mwy o galorïau na sydd eu hangen arnat, byddi di'n magu pwysau eto.
Rho gynnig ar:
- torri’r braster oddi ar gig
- dewis cynhyrchion llaeth a chynhyrchion eraill braster isel
- bwyta mwy o fwyd â starts yn hytrach na bwyd llawn braster
- bwyta llai o fwydydd llawn siwgr
- bwyta amrywiaeth ehangach o ffrwythau a llysiau (cofia fwyta o leiaf pum dogn bob dydd)
Cofia, i gael rhagor o gyngor am golli pwysau, siarada â dy feddyg teulu neu ddeietegydd.
Mae mwy o wybodaeth am sut i gysylltu â deietegwyr sy’n gweithio mewn meddygfeydd preifat ar gael ar wefan Dietitians Unlimited.
Efallai y byddai adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, sef Tackling Obesity in England hefyd o ddiddordeb i ti. I gael copi o’r cyhoeddiad hwn neu unrhyw gyhoeddiad arall gan y Llywodraeth, cysyllta â’r Llyfrfa.
Beth yw dy BMI? Rho gynnig ar ein Cyfrifiannell BMI i gael gweld!
Newid am Oes
Mae Newid am Oes neu 'Change4Life' yn gynllun cenedlaethol sydd â'r nod o helpu pawb, ond yn arbennig ein plant, i fwyta'n well, i symud mwy ac i fyw'n hirach. Felly os nad yw dy deulu wedi cofrestru â 'Newid am Oes' eto, beth am wneud hynny heddiw? Mae'r cynllun yn cynnig cyngor ac awgrymiadau i dy helpu i wneud yn siŵr fod dy blant yn bwyta’n iach ac yn gwneud digon o ymarfer corff.





