Text only

Diffyg haearn


Cornflakes

Mae haearn yn helpu’r corff gyda llawer o brosesau pwysig. Er enghraifft, mae’n rhan annatod o hemoglobin, y pigment coch yn ein gwaed sy’n ei alluogi i gludo ocsigen o amgylch y corff.




Lefelau isel o haearn

Os bydd lefelau haearn yn isel, bydd yr hemoglobin yng nghelloedd coch y gwaed, yn ogystal â nifer y celloedd coch y gwaed, yn lleihau. Gelwir hyn yn anemia.

Mae’r holl feinweoedd a chelloedd yn y corff yn dibynnu ar ocsigen i allu gweithio'n iawn; os ydynt yn cael llai o ocsigen, ni fyddant yn gweithio cystal.

Ar gyfartaledd, mae angen 8.7mg o haearn y dydd ar oedolion gwrywaidd. 14.8mg yw'r ffigur ar gyfer menywod.

Bwydydd sy’n cynnwys haearn

Cig coch yw’r ffynhonnell fwyaf cyfoethog o haearn. Caiff yr haearn o ffynonellau anifeiliaid ei amsugno’n hawdd gan y corff.

Ceir haearn hefyd mewn codlysiau (fel corbys a ffa), ffrwythau wedi'u sychu, llysiau deiliog gwyrdd, cnau a hadau, ac mewn grawnfwydydd brecwast atgyfnerthedig. Nid yw’r haearn yn y bwydydd hyn yn cael ei amsugno mor hawdd gan y corff.

Bwyd Maint y dogn Haearn
2 dafell drwchus o gig eidion rhost heb lawer o fraster 90g 2.3mg
3 llwy fwrdd o ffa pob 120g 1.7mg
Wy wedi’i ferwi 50g 1mg
Bara gwenith cyflawn (tua 1 tafell) 36g 1mg
Sardinau mewn olew (dogn arferol mewn brechdan) 50g 1.5mg
Powlen arferol o rawnfwyd brecwast cyfnerthedig 45g 3mg
4 ffigys sych 80g 3.4mg
Cig twrci rhost tywyll (dogn arferol) 120g 1.7mg
Llond llwy fwrdd o hadau sesame 12g 1.2mg
Llysiau gwyrdd y gwanwyn wedi’u berwi 90g 1.3mg
Gwydraid arferol o win coch 125g 1.1mg

Mae iau/afu yn ffynhonnell gyfoethog arall o haearn, ond mae’n uchel iawn mewn fitamin A hefyd. Felly os wyt ti'n bwyta bwyta iau/afu neu gynhyrchion iau/afu, efallai ei fod yn syniad i ti beidio â'i fwyta'n amlach, a dylet osgoi cymryd atchwanegiadau sy’n cynnwys fitamin A neu olewau iau/afu pysgod (sy’n uchel mewn fitamin A).

Dylai pobl sydd â risg uchel o ddatblygu osteoporosis, sy’n cynnwys menywod sydd wedi bod trwy’r menopos a dynion hŷn, osgoi cael gormod o fitamin A hefyd.

Os wyt ti'n feichiog, neu’n ystyried cael babi, dylet osgoi bwyta iau/afu a chynhyrchion iau/afu oherwydd lefel y fitamin A sydd ynddynt.

Amsugno haearn

Mae’n well peidio yfed te na choffi gyda phrydau bwyd nac am hanner awr wedi hynny. Y rheswm am hyn yw bod te a choffi yn cynnwys cyfansoddion o’r enw polyffenolau, sy’n gallu lleihau lefel yr haearn yr ydym yn ei amsugno o fwyd.

Efallai y gall fitamin C ein helpu i amsugno haearn. Felly, er enghraifft, trwy gael gwydraid o sudd oren gyda phryd o fwyd, neu fwyta llysiau fel brocoli, ysgewyll, puprynnau gwyrdd neu datws (sydd oll yn ffynonellau da o fitamin C), efallai y gallwn gynyddu'r haearn y mae ein cyrff yn ei amsugno o’n bwyd.

Prydau a byrbrydau

Gall yr awgrymiadau canlynol dy helpu i fwyta mwy o haearn. Mae'r prydau a'r byrbrydau'n cynnwys bwydydd sy'n uchel mewn haearn a bwydydd sy’n gallu helpu’r corff i’w amsugno.

Brecwast
  • grawnfwydydd brecwast cyfnerthedig, fel bisgedi gwenith cyflawn gyda llaeth hanner-sgim

  • wy wedi'i botsio, ffa pob, tomato wedi'i grilio, dwy selsigen braster isel, tost gwenith cyflawn

  • gwydraid o sudd oren neu sudd grawnffrwyth gydag un o’r brecwastau hyn

Cinio
  • salad cyw iâr (berwr y dŵr, cyw iâr heb lawer o fraster na chroen wedi'i grilio, tomatos, moronen heb ei choginio wedi'i gratio)
  • sardinau ar dost gwenith cyflawn

  • salad ffa (ffacbys, ffa Ffrengig coch, ffa menyn, nionod, olew olewydd, garlleg, sudd lemon, ciwcymbr, tomato)

  • bara pitta gyda hwmws, pupryn coch a seleri

  • gwydraid o sudd ffrwythau neu smwddi gydag un o’r prydau hyn

  • Swper
  • cig eidion neu lysiau wedi’u tro-ffrio

  • byrger cig eidion braster isel wedi'i grilio mewn bynsen gyda sglodion ffwrn

  • sbageti bolognese gyda briwgig oen, pys a ffa Ffrengig (fel dewis llysieuol, defnyddiwch friwgig soia a chorbys)

  • gwydraid o sudd ffrwythau gyda’r uchod neu ffrwythau (ffres, wedi’u rhewi, o dun neu wedi'u sychu) i ddilyn
  • Byrbrydau
  • cnau almon

  • bricyll neu resins wedi’u sychu

  • bar bach o siocled tywyll

  • tafell o dorth sinsir

  • fflapjac bach





  •