Colesterol
Gall bwyta deiet iach a bod yn gorfforol actif helpu i leihau lefelau colesterol yn y gwaed. Gall ffordd iach o fyw atal ein lefelau colesterol rhag codi yn y man cyntaf hefyd.
Mae hyn yn bwysig oherwydd mae lefel uchel o golesterol yn cynyddu’r tebygolrwydd o ddatblygu clefyd y galon. Os ydych chi’n bryderus am eich colesterol, ewch at eich meddyg teulu.


Bwydydd sy’n cynnwys colesterol
Mae rhai bwydydd yn cynnwys colesterol. Gelwir y math hwn o golesterol yn golesterol deietegol. Mae afu/iau, arennau, wyau a chorgimychiaid yn cynnwys lefelau uwch o golesterol deietegol na bwydydd eraill.Ond bydd y colesterol a gawn o’n bwyd yn effeithio llawer llai ar lefel y colesterol yn ein gwaed na faint o fraster dirlawn a fwyteir gennym.
Fodd bynnag, mae afu/iau hefyd yn ffynhonnell dda ar gyfer fitamin A, sy’n gallu bod yn niweidiol mewn symiau mawr.
Felly dylai menywod sy’n feichiog osgoi bwyta afu/iau, a dylai pobl hŷn sydd mewn perygl o ddioddef torasgwrn osgoi bwyta afu/iau neu gynhyrchion afu/iau mwy nag unwaith yr wythnos. Efallai y bydd pobl sy’n bwyta afu/iau bob wythnos yn dymuno peidio â’i fwyta’n amlach am fod y corff yn cadw fitamin A, a gall lefelau gynyddu dros nifer o flynyddoedd.
Os ydych chi’n bwyta deiet cytbwys, ni fydd yn rhaid i chi leihau faint o arennau, wyau a chorgimychiaid a fwyteir gennych, oni bai y bydd eich meddyg teulu neu ddeietegydd yn eich cynghori i wneud hyn.
Os bydd eich meddyg teulu wedi’ch cynghori i newid eich deiet i leihau’r colesterol yn eich gwaed, y peth pwysicaf i’w wneud yw lleihau faint o fraster dirlawn a fwyteir gennych. Mae’n syniad da hefyd cynyddu faint o ffrwythau, llysiau a ffibr a fwyteir gennych.
Brasterau a cholesterol
Mae dau brif fath o fraster - braster dirlawn a braster annirlawn. Gall bwyta bwydydd sy’n uchel mewn braster dirlawn gynyddu lefelau colesterol yn y gwaed. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn y DU yn bwyta gormod o fraster dirlawn.Mae bwydydd sy’n cynnwys lefel uchel o fraster dirlawn yn cynnwys:
- pasteiod gig
- selsig a darnau brasterog o gig
- menyn
- ghee
- bloneg
- hufen
- caws caled
- teisennau a bisgedi
- bwydydd sy’n cynnwys cnau cocos neu olew palmwydden
- pysgod olewog
- afocados
- cnau a hadau
- olewau blodau’r haul, olewydd, ŷd, cnau Ffrengig ac olewau a thaenau had rêp
- olewau llysiau
Felly, fel rhan o ddeiet iach, dylem geisio lleihau faint o fwydydd sy’n cynnwys brasterau hydrogenedig neu ddirlawn a fwyteir gennym a’u hamnewid am frasterau annirlawn.
A pheidiwch ag anghofio y dylem leihau faint o fraster a fwyteir gennym hefyd. Felly rhowch gynnig ar goginio bwyd mewn microdon, ei stemio, potsio, berwi neu grilio yn hytrach na rhostio neu ffrio; dewiswch doriadau isel eu braster a dewiswch fathau o gynhyrchion llaeth a thaenau isel eu braster (neu bwytewch ychydig o’r mathau braster llawn yn unig).
Ffibr a cholesterol
Dylai bwyta deiet sy’n cynnwys digon o ffibr hydawdd helpu i leihau’r colesterol yn y gwaed hefyd. Mae ffynonellau da o ffibr hydawdd yn cynnwys ceirch, ffa, pys, corbys, ffacbys, ffrwythau a llysiau.Felly ceisiwch gynnwys mwy o’r bwydydd hyn yn eich deiet. Peidiwch anghofio y dylem oll geisio bwyta o leiaf pum cyfran o ffrwythau a llysiau bob dydd.
Cynhyrchion y bwriedir i leihau colesterol
Mae tystiolaeth y gall bwydydd sy’n cynnwys cynhwysion penodol a ychwanegir, fel sterolau a stanolau planhigion, leihau lefelau colesterol yn y gwaed.Gellir dod o hyd i sterolau a stanolau mewn cynhyrchion a ddatblygwyd yn arbennig, fel rhai mathau o daenau ac iogwrt. Anelir y bwydydd hyn at bobl y mae angen iddynt leihau eu lefelau colesterol. Ni ddylai pobl nad oes ganddynt golesterol uchel fwyta’r cynhyrchion hyn yn rheolaidd, yn arbennig plant a menywod beichiog neu sy’n bwydo ar y fron.
Os bydd eich meddyg wedi rhoi gwybod i chi bod gennych golesterol uchel, gallwch helpu i’w leihau trwy newid eich deiet, heb fwyta cynhyrchion arbennig.
Os byddwch yn bwyta bwydydd sydd wedi’u bwriadu i leihau colesterol, darllenwch y label yn ofalus ac osgowch fwyta gormod.





