Pwysedd gwaed


salt crystals Mae gan rai pobl bwysedd gwaed isel ac mae gan lawer o bobl bwysedd gwaed normal, ond mae gan filiynau o bobl yn y DU bwysedd gwaed uchel, sy’n cynyddu’r perygl o ddatblygu clefyd y galon a strôc.

Dysga sut i newid dy ddeiet a dy ffordd o fyw er mwyn lleihau dy bwysedd gwaed.


Beth yw pwysedd gwaed?


Pwysedd gwaed yw grym y gwaed wrth iddo wasgu yn erbyn muriau’r rhydwelïau (arteries) wrth i’r galon bwmpio gwaed o amgylch y corff.

Mae’r galon yn curo drwy gyfangu ac ymlacio. Bob tro y bydd y galon yn cyfangu, bydd yn gwthio gwaed o amgylch y corff, sef yr hyn yr ydym ni'n ei adnabod fel curiad y galon. Bydd y galon yn gorffwys am ennyd byr rhwng bob curiad.

Bydd pwysedd y gwaed sy’n llifo drwy dy rydwelïau yn uwch wrth i’ch calon gyfangu na phan fydd yn ymlacio. Felly pan fydd meddyg neu nyrs yn cymryd dy bwysedd gwaed, maent yn edrych ar ddau fesuriad gwahanol.
  • Pwysedd systolig yw’r pwysedd a geir pan fydd y galon yn cyfangu ac yn gwthio gwaed o amgylch y corff.
  • Pwysedd diastolig yw’r pwysedd a geir pan fydd y galon yn gorffwyso. Mae hwn yn is na’r pwysedd systolig.
Caiff pwysedd gwaed ei fesur mewn milimedrau mercwri (mmHg).

Pan fydd rhywun yn rhoi gwybod i ti beth yw dy bwysedd gwaed, byddant yn rhoi un ffigur ar gyfer dy bwysedd systolig ac un arall ar gyfer dy bwysedd diastolig. Er enghraifft, os bydd gen ti bwysedd systolig o 130mmHg a phwysedd diastolig o 70mmHg, byddant fel arfer yn dweud mai '130 dros 70' yw dy bwysedd gwaed.

Pam ddylwn i boeni am bwysedd gwaed uchel?


Os yw dy bwysedd gwaed yn cynyddu, rwyt ti deirgwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefyd y galon neu gael strôc, waeth beth yw dy oedran. Mae lleihau dy bwysedd gwaed yn lleihau'r perygl o ddioddef clefyd y galon neu strôc, hyd yn oed os yw dy bwysedd gwaed eisoes yn cael ei ystyried i fod yn normal.

Mae tystiolaeth yn dangos bod bwyta llai o halen, yn arbennig fel rhan o ddeiet iach sy'n cynnwys digon o ffrwythau a llysiau, yn gallu lleihau pwysedd gwaed.

Pwysedd gwaed a strôc

Mae mwy na 130,000 o bobl bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr yn cael eu strôc gyntaf - ac mae tua 10,000 o'r bobl hyn o dan oed ymddeol.

Mae strôc yn effeithio ar y pibelli gwaed sy'n cyflenwi gwaed i'r ymennydd. Caiff strôc ei achosi pan fo un o'r pibelli hyn yn byrstio neu'n ceulo (clot). Pan fo hyn yn digwydd, nid yw'r rhan o'r ymennydd sy'n cael ei gyflenwi gan y bibell waed yn cael digon o ocsigen ac felly mae'n cael ei niweidio.

Mae strôc yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd, gan ddibynnu ar ba ran o'r ymennydd sy'n cael ei niweidio. Felly, y rhan o'r corff sy'n gysylltiedig â'r rhan o'r ymennydd sydd wedi'i niweidio sy'n cael ei effeithio. Mae strôc yn aml yn achosi parlys, fel arfer ar un ochr o'r corff.

Pwysedd gwaed a chlefyd y galon

Gall pwysedd gwaed uchel gynyddu'r perygl o ddatblygu clefyd y galon mewn nifer o wahanol ffyrdd.

Gall wneud niwed i'r galon gan fod y pwysau ychwanegol yn golygu fod y galon yn gorfod gweithio'n galetach i bwmpio gwaed o amgylch y corff. Gall y difrod hwn arwain at y galon yn methu, ac mae hyn yn cynyddu'r perygl o gael trawiad y galon.

Mae pwysedd gwaed uchel hefyd yn cynyddu'r perygl o ddatblygu atherosclerosis, lle mae dyddodion brasterog (fatty deposits) yn casglu y tu mewn i'r rhydwelïau. Mae hyn yn gwneud y pibelli gwaed yn fwy cul a stiff, sydd hefyd yn gallu cynyddu pwysedd gwaed ymhellach a chynyddu'r perygl o gael trawiad y galon.

Beth sy’n achosi pwysedd gwaed uchel?


Mae nifer o bethau sy’n cynyddu’r risg o ddatblygu pwysedd gwaed uchel, gan gynnwys:
  • bwyta gormod o halen
  • cario gormod o bwysau
  • ddim yn gwneud ymarfer corff
  • yfed gormod o alcohol
Os oes gan un o dy rieni neu’r ddau ohonynt bwysedd gwaed uchel, rwyt ti yn fwy tebygol o’i ddatblygu.

Mae tystiolaeth yn dangos y gall lleihau'r halen yn y deiet leihau pwysedd gwaed, yn arbennig os bydd hyn yn rhan o ddeiet iach sy’n cynnwys digon o ffrwythau a llysiau.

Gall yfed gormod o alcohol gynyddu pwysedd gwaed, felly dylem geisio peidio ag yfed mwy na 2 neu 3 o unedau'r dydd (menywod) a 3 neu 4 o unedau'r dydd i ddynion. Mae uned gyfwerth â hanner peint o gwrw, lager neu seidr o gryfder safonol (rhwng 3 a 5% ABV) neu fesur tafarn o wirod. Mae gwydraid o win yn cynnwys tua 2 uned ac alcopop yn cynnwys tua 1.5 uned.

Drwy leihau dy bwysedd gwaed, rwyt ti'n lleihau’r perygl o ddatblygu clefyd y galon a strôc, hyd yn oed os yw dy bwysedd gwaed eisoes yn normal.

Mae rhai pobl yn dioddef o bwysedd gwaed isel. Ond mae dal angen iddynt fwyta deiet iach sy’n isel mewn braster, siwgr a halen, ac sy’n cynnwys digon o ffrwythau a llysiau.

Sut ydw i’n gwybod os oes gen i bwysedd gwaed uchel?

Nid yw'r rhan fwyaf o bobl sydd â phwysedd gwaed uchel yn dioddef unrhyw symptomau, felly'r unig ffordd o ganfod hyn yw drwy fesur dy bwysedd gwaed.

Mae pwysedd gwaed pawb yn cynyddu ac yn gostwng yn ystod gwahanol adegau o’r dydd. Weithiau, mae'n gallu bod yn uwch pan fyddi di'n poeni am rywbeth neu o dan bwysau. Fel arfer, bydd dy feddyg neu dy nyrs yn cymryd dy bwysedd gwaed sawl gwaith cyn penderfynu a oes gen ti bwysedd gwaed uchel. Yna, efallai y byddant yn rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn i ti er mwyn gostwng dy bwysedd gwaed.

Nid oes trothwy sefydlog rhwng pwysedd gwaed normal a phwysedd gwaed uchel. Ond yn gyffredinol, caiff pwysedd gwaed sy’n is na 140/90mmHg ei ystyried i fod yn normal.

Pam ddylwn i fwyta llai o halen?


Gall bwyta llai o halen helpu i leihau pwysedd gwaed. Gall pob un ohonom gymryd camau i leihau'r halen yn ein deiet drwy siopa’n ddoeth a defnyddio llai o halen yn y cartref.

Mae llawer o fwydydd bob dydd yn cynnwys lefel uchel o halen. Yn wir, mae 75% o’r halen yr ydym ni'n ei fwyta eisoes yn cuddio yn y bwyd yr ydym ni'n ei brynu!

Mae bwydydd fel cig moch, caws a phicl yn hallt o ganlyniad i’r ffordd y maent yn cael eu paratoi. Mae saws soi, rhin burum a chiwbiau stoc yn uchel mewn halen hefyd.

Yn aml, mae bwydydd fel grawnfwyd brecwast, ffa pob, bisgedi, cawl, pizza a phrydau parod yn uchel mewn halen. Mae lefel yr halen sydd ynddynt yn amrywio o un brand neu rysáit i’r llall. Felly cofia gymharu gwahanol gynhyrchion drwy ddarllen y labeli!

Sut i fwyta llai o halen


Halen - Darllen y label

Os wyt ti'n darllen y labeli ar fwyd i gymharu faint o halen sydd ynddynt, cer am yr opsiwn iachaf sydd â'r lleiaf o halen. Bydd hyn, yn ei dro, yn helpu i leihau dy bwysedd gwaed.

Edrycha faint o halen sydd ym mhob 100g.

Uchel yw mwy nag 1.5g o halen ym mhob 100g (neu 0.6g o sodiwm)
Isel yw 0.3g o halen neu lai ym mhob 100g (neu 0.1g o sodiwm)

Os yw lefel yr halen ym mhob 100g rhwng y ffigurau hyn, mae'r bwyd yn cynnwys lefel ganolig o halen.

Cofia fod faint o'r bwyd yr wyt ti'n ei fwyta yn effeithio ar faint o halen y byddi di'n ei gael ohono.

Ceisia osgoi bwyta llawer o fwydydd sy’n uchel mewn halen. Os byddi di’n bwyta llawer o’r bwydydd hyn, mae hi'n hawdd iawn cael mwy na'r uchafswm dyddiol. Dyma pam ei bod hi'n bwysig dewis bwydydd sydd â llai o halen, lle bynnag y bo'n bosibl.

Defnyddio llai o halen yn y cartref

Paid ag ychwanegu halen wrth goginio neu wrth y bwrdd. Yn aml mae pobl yn defnyddio halen am eu bod wedi hen arfer gwneud hynny.

Mae llawer o ffyrdd o ychwanegu blas at fwyd, gan gynnwys defnyddio perlysiau, sudd lemon, garlleg a tsili.

Os wyt ti neu dy deulu wedi arfer bwyta bwydydd sy'n uchel mewn halen, neu wedi hen arfer ychwanegu llawer o halen at eich bwyd, mae'n bosibl y byddi di'n methu ei flas i gychwyn.

Ond mi fydd dy flasbwyntiau (taste buds) yn dod i'r arfer â bwyta llai o halen mewn ychydig wythnosau, felly cer amdani gam wrth gam ac yn fuan iawn mi fyddi di'n mwynhau dy fwyd gyda phrin ddim halen!





URL: http://www.eatwell.gov.uk/healthissues/healthyheart/bloodpressure/lang=cy&?lang=cy