Beth i’w wneud
Rydym yn cael gwenwyn bwyd o fwyta bwyd sy’n cynnwys bacteria niweidiol, firysau neu sylweddau gwenwynig sy’n cael eu hadnabod fel tocsinau.


Beth yw’r symptomau?
Gall symptomau gwenwyn bwyd amrywio, yn ddibynnol ar beth sydd wedi’i achosi.Mae symptomau cyffredin yn cynnwys cyfog, chwydu, crampiau abdomenol a dolur rhydd, a thwymyn weithiau.
Yn achlysurol, gall gwenwyn bwyd fod yn ddifrifol iawn a hyd yn oed achosi marwolaeth. Felly, mae’n bwysig atal gwenwyn bwyd drwy hylendid bwyd da.
Beth ddylwn i wneud?
Mae tri phrif beth i’w hystyried pan fydd gennych wenwyn bwyd:- ail-hydradu - yfwch ddigon o hylif ac efallai ddefnyddio powdrau ail-hydradu sydd ar gael o fferyllfeydd
- cymorth meddygol – os ydych yn poeni am eich iechyd neu am iechyd rhywun arall, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru (0845 4647) neu eich meddyg teulu am gyngor (yn enwedig yn achos menywod beichiog, pobl hŷn, plant a phobl sydd eisoes yn sâl)
- adrodd – os ydych o’r farn bod eich salwch wedi cael ei achosi gan fwyd a baratowyd y tu allan i’r cartref, rhowch wybod i’ch gwasanaeth iechyd yr amgylchedd lleol





