Text only

Listeria - gofal piau hi


look out for listeria - FSW 2009 image

Os ydych chi dros 60, yn feichiog, yn teimlo'n sâl neu'n dioddef o gyflwr meddygol hirdymor, rydych chi mewn mwy o berygl os ydych chi'n cael listeria. Felly sicrhewch eich bod yn osgoi listeria drwy fwrw golwg fanylach dros eich cegin.




Sut i osgoi listeria


ham with 'use by date' label - FSW 2009 image Yn syml, mae angen i chi dalu mwy o sylw i dri pheth:

1. Y dyddiad ‘defnyddio erbyn’

Mae dyddiadau ‘defnyddio erbyn’ i’w gweld ar fwyd sy’n mynd yn ddrwg yn gyflym. Os yw’n cael cyfle, bydd bacteria listeria yn tyfu’n gyflym iawn yn eich bwyd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ei storio yn yr oergell ac yn bwyta, coginio neu rewi eich bwyd cyn y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ ar y label.

Hyd yn oed os yw’r bwyd yn edrych ac yn arogli’n iawn, gall ei ddefnyddio ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’ beryglu eich iechyd. Peidiwch â mentro, taflwch y bwyd!

Cofiwch, mae’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’ yn wahanol i’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’, sydd hefyd i’w weld ar rai labeli. Mae’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ yn cyfeirio at ansawdd bwyd yn hytrach na diogelwch bwyd. Nid yw’n golygu y bydd bwyd sydd wedi mynd heibio’r dyddiad ‘ar ei orau cyn’ yn eich gwneud yn sâl, ond efallai y bydd yn colli ychydig o’i flas a’i ansawdd.

2. Tymheredd eich oergell

fridge thermometer - FSW 2009 images Gwnewch yn siŵr fod eich oergell yn ddigon oer er mwyn helpu i atal bacteria gwenwyn bwyd fel listeria rhag tyfu yn eich bwyd. Dylai eich oergell fod rhwng 0ºC a 5ºC (32ºF a 41ºF).

Os nad ydych chi’n siŵr sut mae teclyn tymheredd eich oergell yn gweithio, gallwch ddefnyddio thermomedr oergell i sicrhau ei fod ar y tymheredd cywir.

3. Y cyfarwyddiadau storio ar gyfer eich bwyd

Mae bwyd sy’n mynd yn ddrwg yn gyflym fel arfer yn cynnwys cyfarwyddiadau storio ar y label sy’n dweud wrthych am ba mor hir y gallwch ei gadw a ph’un a oes angen ei roi yn yr oergell.

Mae’r math hwn o fwyd fel arfer yn cael ei becynnu mewn deunydd arbennig i’w gadw’n ffres yn hirach. Ond ar ôl i chi ei agor, bydd yn mynd yn ddrwg yn gyflym.

Dyma pam mae’r cyfarwyddiadau storio hefyd yn dweud wrthych am ba mor hir y bydd y bwyd yn cadw ar ôl i chi ei agor. Er enghraifft, efallai y bydd yn dweud ‘i’w fwyta o fewn 2 ddiwrnod o’i agor’ ar y label.

Gallwch gadw rhai bwydydd yn hirach drwy eu rhewi, cyn belled â’ch bod yn gwneud hynny cyn y dyddiad ‘defnyddio erbyn’.

Cofiwch ddarllen a dilyn unrhyw gyfarwyddiadau storio ar y label yn ofalus.

Beth yw listeria?


pate on toast - FSW 2009 image Mae listeria yn fath o facteria gwenwyn bwyd sy’n gallu byw a thyfu mewn bwyd, yn arbennig bwyd wedi’i oeri. Felly mae angen bod yn arbennig o ofalus gyda bwydydd megis pâté, cig wedi’i goginio a’i sleisio, caws meddal a physgod mwg.

Efallai eich bod chi eisoes yn gwybod bod gofyn i fenywod beichiog osgoi rhai bwydydd penodol gan eu bod yn gallu cynnwys listeria. Ond mewn gwirionedd, mae listeria hefyd yn fwy peryglus i unrhyw un dros 60 oed. Mae’r un peth yn wir am unrhyw un sy’n sâl neu sydd â chyflwr meddygol hirdymor.

Mae nifer yr achosion o listeria ymysg unigolion dros 60 wedi dyblu dros y naw mlynedd diwethaf. Mae un o bob tri o’r rhai sy’n cael gwenwyn bwyd o achos listeria yn marw o’i herwydd.

Listeria – cofiwch…


Mae listeria yn gallu lladd. Felly cofiwch gymryd cip fanylach cyn mynd ati i baratoi eich bwyd, a byddwch yn ddiogel.

  • Peidiwch â defnyddio bwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’.
  • Gofalwch fod eich oergell rhwng 0ºC a 5ºC (32ºF a 41ºF).
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau storio ar labeli bwyd.