Text only

Bygiau bwyd


bugs

Mae rhai mathau o facteria yn gallu rhoi gwenwyn bwyd i ni. Dysga fwy am sut y mae hyn yn digwydd a pha fygiau sy'n gallu achosi pa symptomau.




Beth sy’n digwydd yn y corff?


Pan fyddi di'n bwyta bwyd sy'n cynnwys mathau penodol o facteria, mae'r bacteria hyn - neu'r cemegion y maent yn eu cynhyrchu - yn gallu rhoi gwenwyn bwyd i ti.

Ar ôl i ti lyncu'r bacteria, byddi di'n dechrau gweld symptomau ar ôl cyfnod o oedi a elwir yn gyfnod lle mae'r clefyd yn magu. Y rheswm am yr oedi hyn yw'r ffaith bod angen amser ar y bacteria sy'n achosi gwenwyn bwyd i luosogi yn y coluddyn.

Mae hyd y cyfnod lle mae'r clefyd yn magu yn dibynnu ar faint o facteria a gafodd eu llyncu. Gallai ddigwydd ymhen oriau neu gallai gymryd diwrnodau.

Gan fod y bacteria yn dod i mewn i'r corff drwy'r system dreulio, mae'r symptomau fel arfer yn dangos yn y rhan hon o'r corff. Mae'r symptomau yn cynnwys teimlo'n gyfoglyd, chwydu/cyfog, crampiau yn yr abdomen a dolur rhydd. Mewn rhai achosion, gall gwenwyn bwyd achosi salwch difrifol iawn neu hyd yn oed farwolaeth.

Pan fo'r bacteria yn dy gorff, maent yn glynu wrth leinin y coluddyn ac yn dinistrio’r celloedd hynny, naill ai oherwydd nifer y bacteria neu oherwydd y tocsinau (gwenwynau) a gynhyrchir ganddynt. O bryd i’w gilydd, caiff y tocsinau hyn eu hamsugno a byddant yn achosi difrod mewn rhannau eraill o'r corff.

Mae rhai bacteria yn cynhyrchu tocsinau pan fyddant yn tyfu mewn bwyd. Gan fod y tocsinau hyn yn niweidiol ar eu pen eu hunain, nid oes yn rhaid i’r bacteria luosogi yn y coluddyn i wneud rhywun yn sâl, felly bydd y symptomau’n ymddangos yn gyflym iawn.

Sut mae bacteria yn tyfu?


Mae angen gwres a lleithder ar facteria i dyfu - a dyma pam mae angen i ni gadw rhai bwydydd penodol yn oer yn yr oergell. Maent yn atgenhedlu drwy ymrannu, felly daw un bacteriwm yn ddau ac yna daw dau yn bedwar, ac ati.

O dan yr amgylchiadau cywir, gallai un bacteriwm ymrannu’n sawl miliwn mewn wyth awr, ac yn filoedd o filiynau mewn deuddeg awr.

Mae hyn yn golygu os yw bwyd yn cael ei halogi â swm bach iawn o facteria a'i fod yn cael ei adael y tu allan i’r oergell dros nos, gall fod wedi’i halogi'n ddifrifol erbyn y diwrnod nesaf. O ganlyniad, gallai'r tamaid lleiaf achosi i ti fod yn sâl. Os wyt ti'n rhoi’r bwyd yn yr oergell, bydd yn atal y bacteria rhag lluosogi.

Gan nad oes modd gweld, blasu nac arogli bacteria, yr unig ffordd y gelli di fod yn siŵr bod bwyd yn ddiogel yw trwy ddilyn arferion hylendid da drwy’r amser.

Mwy am y bygiau - campylobacter, clostridium, salmonela, listeria ac E. coli


Campylobacter

Campylobacter yw’r achos mwyaf cyffredin o wenwyn bwyd. Mae'n bresennol yn bennaf mewn dofednod, cig coch, llaeth heb ei basteureiddio a dŵr heb ei drin.

Er nad yw’n tyfu mewn bwyd, mae’n lledaenu’n hawdd, felly os nad wyt ti'n ofalus, gallai ychydig o facteria’n unig mewn darn o gyw iâr ledaenu i fwyd sy'n barod i'w fwyta gan achosi salwch.

Felly gwna'n siŵr dy fod yn cadw cig amrwd ar wahân i fwyd sy'n barod i'w fwyta a choginio bwyd yn drylwyr bob tro er mwyn lladd unrhyw facteria a allai fod ynddo.

Beth yw'r symptomau?
  • dolur rhydd, sy'n gallu bod yn ddifrifol ac yn waedlyd, gyda chrampiau yn yr abdomen
  • anaml iawn y bydd rhywun yn chwydu

Clostridiwm perffringens

Mae lefelau isel o Glostridiwm perffringens yn bresennol mewn llawer o fwydydd, yn arbennig cig a dofednod a chynhyrchion cig a dofednod. Mae hefyd i'w gael yn y pridd, coluddion pobl ac anifeiliaid, mewn carthffosiaeth a gwrteithiau anifeiliaid.

Yn wahanol i lawer o fathau eraill o facteria sy’n achosi clefyd mewn bwyd, nid yw Clostridiwm perffringens yn cael ei ddinistrio’n gyfan gwbl gan ddulliau coginio arferol. Y rheswm am hyn yw ei fod yn cynhyrchu sborau sy’n gallu gwrthsefyll gwres.

Caiff y bacteria eu lladd drwy goginio, ond gall y sborau maent yn eu cynhyrchu sy'n gallu gwrthsefyll gwres oroesi, a gallai'r gwres eu helpu i dyfu. Os na chaiff y bwyd ei fwyta ar unwaith, a'i fod yn cael ei adael i oeri’n araf, bydd y bacteria a gynhyrchir pan fydd y sborau’n egino yn lluosi’n gyflym.

Oni bai y caiff y bwyd ei ailgynhesu tan ei fod yn chwilboeth (60°C o leiaf, a 75°C yn ddelfrydol), bydd y bacteria’n goroesi.

Ar ôl i'r bacteria gael eu bwyta, os bydd digon ohonynt yn bresennol, bydd y bacteria yn cynhyrchu tocsinau a bydd y tocsinau yn achosi symptomau.

Y bwydydd sy’n fwyaf tebygol o gael eu cysylltu â gwenwyn bwyd Clostridiwm perffringens yw’r rhai a gaiff eu coginio’n araf mewn symiau mawr, ac yna'u gadael i oeri am gyfnod hir ar dymheredd ystafell.

Felly gofala dy fod yn oeri bwyd cyn gynted â phosibl (yn ddelfrydol o fewn awr neu ddwy) a'i storio yn yr oergell. Mae'n helpu i oeri bwyd yn gyflymach drwy ei rannu'n ddognau llai.

Beth yw'r symptomau?
  • dolur rhydd a phoen difrifol yn yr abdomen
  • weithiau'n achosi i rywun deimlo'n gyfoglyd
  • anaml iawn y bydd yn achosi i rywun chwydu neu i fod â gwres uchel

Salmonela

Ar wahân i campylobacter, salmonela yw'r achos mwyaf cyffredin o wenwyn bwyd . Mae wedi'i ganfod mewn llaeth ac wyau heb eu pasteureiddio a chynhyrchion sy’n cynnwys wyau amrwd, cig a dofednod. Mae'n gallu goroesi os nad yw bwyd yn cael ei goginio’n ddigonol.

Gall salmonela dyfu mewn bwyd - oni bai bod y bwyd yn cael ei oeri. Dim ond swm bach o facteria sydd ei angen mewn bwyd er mwyn iddynt luosogi.

Dylai pobl sydd wedi’u heintio â salmonela fod yn arbennig o ofalus â hylendid personol, oherwydd gallant heintio rhywun arall a ddaw i gysylltiad â nhw. Er enghraifft, os na fydd rhywun sy’n cario salmonela yn golchi ei ddwylo’n iawn ar ôl bod i’r tŷ bach, mae'n bosibl fod ganddo facteria ar ei ddwylo.

Beth yw'r symptomau?
  • dolur rhydd
  • chwydu
  • gwres uchel / twymyn
  • poen yn yr abdomen

Listeria

Gall Listeria neu Listeria monocytogenes achosi salwch mewn rhai grwpiau penodol, megis menywod beichiog, babanod yn y groth, ac unrhyw un sydd ag imiwnedd isel, yn arbennig pobl dros 60 oed.

Mae pobl sydd ag imiwnedd isel yn cynnwys unigolion sydd wedi cael trawsblaniad, pobl sy’n cymryd cyffuriau sy’n gwanhau’r system imiwnedd neu sydd â chanser sy’n effeithio ar y system imiwnedd, megis lewcemia neu lymffoma. Os bydd pobl yn y grwpiau hyn yn cael listeria, gall y salwch fod yn ddifrifol iawn, a gall hyd yn oed beryglu bywydau.

Mae Listeria wedi ei ganfod mewn rhai bwydydd wedi’u hoeri sy’n barod i’w bwyta, megis brechdanau wedi’u pecynnu ymlaen llaw, menyn, cigoedd wedi’u coginio a’u sleisio, eog mwg, cawsiau meddal a phâtés.

Dylai pobl sy'n agored i niwed osgoi bwyta caws meddal megis Camembert, Brie neu chevre (sef math o gaws gafr), neu unrhyw gaws arall sydd â chroen tebyg, (p'un a ydynt wedi'u pastureiddio ai peidio) caws glas meddal a phâté o bob math, gan gynnwys pâté llysiau.

Dylid cymryd gofal arbennig hefyd wrth ddilyn y cyfarwyddiadau storio sydd i’w gweld ar labeli’r bwydydd hyn. Dylet ti gadw dy oergell ar dymheredd rhwng 0°C a 5°C - a dylid cadw bwydydd wedi’u hoeri allan o’r oergell am gyn lleied o amser â phosibl. Paid â defnyddio bwyd ar ôl y dyddiad ‘defnyddio erbyn’.

Beth yw'r symptomau?
  • symptomau tebyg i ffliw (gwres uchel, poen yn y cyhyrau, teimlo'n gyfoglyd a dolur rhydd)
  • gall achosion difrifol arwain at wenwyn gwaed a meningitis. Mae symptomau'r rhain yn cynnwys cur pen difrifol, gwddf poenus neu stiff, dryswch, ffitiau, colli cydbwysedd neu letchwithdra corfforol
  • gall achosi i fenywod beichiog golli babi neu i gael babi wedi'i eni'n farw

E. coli

Mae’r rhan fwyaf o fathau o E. coli yn ddiniwed, ond mae'r math o'r enw E. coli O157 yn gallu achosi salwch difrifol. Y rheswm am hyn yw ei fod yn gallu cynhyrchu tocsinau (o'r enw ferosytotocsin). Mewn gwledydd eraill mae gwahanol fathau o E. coli sy'n cynhyrchu'r tocsinau hyn yn fwy cyffredin, megis E. coli O111 ac E. coli O26.

Mae E. coli O157 (a mathau eraill o E. coli sy'n cynhyrchu tocsinau) yn cael eu trosglwyddo drwy fwyta, yfed neu gyffwrdd â briwgig eidion sydd heb ei goginio’n ddigonol a llaeth heb ei basteureiddio, heb ei basteureiddio’n ddigonol neu wedi’u halogi ar ôl ei basteureiddio.

Mae’n bosibl hefyd cael eich heintio trwy ddod i gysylltiad uniongyrchol ag anifeiliaid neu bobl sydd wedi'u heintio, a thrwy ddod i gysylltiad â thir wedi’i heintio â charthion anifeiliaid.

Beth yw'r symptomau?
  • Dolur rhydd gwaedlyd a chrampiau yn yr abdomen
  • Gallu achosi cymhlethdodau difrifol iawn, gan gynnwys methiant yr arennau, anemia difrifol a phroblemau niwrolegol
  • Gallu arwain at farwolaeth weithiau hefyd