Text only

Alergedd i sbeis


coriander Mae adweithiau alergaidd i sbeis yn anghyffredin ac, fel arfer, byddant yn ysgafn, ond o bryd i’w gilydd gall pobl sy’n sensitif i sbeis penodol ddioddef adwaith difrifol.

Bydd rhai pobl yn adweithio i fwstard, coriander, carwe, ffenigl, paprica neu saffrwm ac, yn llai cyffredin, i winwns, garlleg neu gennin syfi. Gall adweithiau i fwstard achosi anaffylacsis. Mae alergedd i fwstard yn fwy cyffredin mewn gwledydd ar dir mawr Ewrop, lle defnyddir mwstard i raddau mwy nag yn y DU. Gweler yr adran ynghylch alergedd i fwstard.

Mae’r alergenau mewn sbeis yn debyg i’r rhai mewn paill a llysiau, ac am y rheswm hwn mae pobl sydd ag alergedd i groeslys a phaill bedw yn fwy tebygol o fod yn sensitif i sbeis.