Alergedd i gregynbysgod
Mae alergedd i gregynbysgod yn eithaf cyffredin, a gall pobl sy’n sensitif adweithio i nifer o fathau gwahanol o gregynbysgod, fel berdys, corgimychiaid, cimychiaid, crancod, cimychiaid cochion, wystrys, gylfgregyn, cregyn gleision a chregyn bylchog.
Yn aml, bydd pobl ag alergedd i un fath o gragenbysgodyn yn adweithio i fathau eraill. Yn aml, gall alergedd i gregynbysgod achosi adweithiau difrifol, a gall rhai pobl adweithio i anwedd cregynbysgod wrth iddynt goginio.
Ers mis Tachwedd 2005, rhaid i fwyd a becynnir ymlaen llaw a werthir yn y DU, ac yng ngweddill yr Undeb Ewropeaidd, ddangos yn eglur ar y label os yw’n cynnwys cramenogion (Mae’r rhain yn cynnwys cimychiaid, crancod, corgimychiaid a langwstinau) neu molysgiaid (gan gynnwys cregyn gleision, gylfgregyn, wystrys, moldroediaid (malwod), gwichiaid moch ac ystifflogod).





