Alergedd i reis
Mae alergedd i reis yn gyffredin mewn gwledydd yn nwyrain Asia, fel Japan, lle mae reis yn fwyd cyffredin, ond nid yw’n gyffredin yn y DU. Gall pobl sydd ag alergedd i reis adweithio pan fyddant yn ei fwyta neu’n anadlu ei baill. Gall reis achosi symptomau clefyd y gwair mewn ardaloedd lle caiff ei dyfu.
O bryd i’w gilydd, gall pobl ag alergedd i reis adweithio i nifer o fwydydd eraill o’r un teulu botangeol, fel barlys, corn, gwenith, ceirch a rhyg, yn ogystal â bwydydd eraill fel eirin gwlanog ac afalau.





