Alergedd i gnau pinwydd
Hadau, nid cnau, yw cnau pinwydd (neu gnewyll pinwydd) mewn gwirionedd. Ond mae gan rai pobl alergedd i gnau pinwydd, yn arbennig pobl sydd ag alergedd i fwy nag un math o gnau. O bryd i’w gilydd, defnyddir cnau daear yn lle cnau pinwydd mewn cynhyrchion bwyd fel pesto, felly dylai pobl sydd ag alergedd i gnau daear fod yn ofalus iawn ynghylch bwyta bwydydd a wneir, yn draddodiadol, â chnau pinwydd.
Os oes gennych alergedd i gnau, mae’n syniad da osgoi cnau pinwydd a mathau eraill o hadau, er mwyn bod yn hollol ddiogel, oni bai eich bod yn gwybod eisoes nad oes gennych alergedd iddynt.
Efallai y bydd pobl sydd ag alergedd i gnau pinwydd yn adweithio i gnau daear a chnau fel cnau almon hefyd.





