Text only

Alergedd i bysgnau


peanuts Caiff pysgnau hefyd eu galw’n gnau daear a chnau mwnci. Pan fo gan rywun alergedd iddynt, mae’r alergedd hwn fel arfer yn para drwy gydol eu bywyd. Mae ymchwil yn awgrymu, mewn nifer prin o achosion, y gall plant ifanc sy’n sy’n dioddef o alergedd i bysgnau, dyfu allan ohono.

Pysgnau yw un o’r achosion mwyaf cyffredin o alergedd bwyd yn y DU, a gallant achosi adweithiau difrifol iawn, gan gynnwys anaffylacsis. Maent yn cynnwys nifer o alergenau na chânt eu dinistrio gan brosesau goginio neu rostio. Yn wir, mae rhostio cnau daear yn eu gwneud yn fwy alergenaidd (yn fwy tebygol o achosi adwaith alergaidd) na physgnau amrwd.

Gall y mymryn lleiaf o bysgnau achosi adwaith mewn pobl sy’n sensitif iddynt. Er enghraifft, os byddant yn bwyta bwyd wedi’i dorri gan ddefnyddio’r un gyllell â bwyd sy’n cynnwys pysgnau, yna gall olion y pysgnau oddi ar y gyllell achosi adwaith. Gall hyd yn oed bod yn agos at rywun sy’n bwyta pysgnau fod yn ddigon i achosi adwaith mewn rhai pobl.


Pa fwydydd a allai gynnwys pysgnau?

Caiff pysgnau eu cynnwys mewn nifer o wahanol fwydydd, gan gynnwys sawsiau megis saws satay, bisgedi a grawnfwydydd brecwast. Os oes gen ti alergedd i bysgnau, neu os wyt ti’n prynu bwyd i rywun sydd â’r alergedd hwn, dylet ddarllen y label bob tro i weld a yw’n cynnwys pysgnau.

Mae rheolau labelu bwyd yn ei wneud yn ofynnol i fwyd a becynnir ymlaen llaw a werthir yn y DU, ac yng ngweddill yr Undeb Ewropeaidd, ddangos yn glir ar y label a yw’n cynnwys pysgnau (neu a yw un o’r cynhwysion yn eu cynnwys).

Weithiau, caiff pysgnau eu defnyddio yn lle cnau pinwydd mewn cynhyrchion bwyd fel pesto, felly dylai pobl sydd ag alergedd i bysgnau fod yn ofalus iawn am fwyta bwydydd sy’n cael eu gwneud â chnau pinwydd yn draddodiadol.


Olew pysgnau

Mae’r rhan fwyaf o weithwyr iechyd proffesiynol yn cytuno bod olew pysgnau puredig yn annhebygol o achosi problemau i bobl ag alergedd i bysgnau, gan fod bron yr holl broteinau sy’n achosi adweithiau alergaidd yn debygol o gael eu hechdynnu yn ystod y broses weithgynhyrchu. Fodd bynnag, mae olew pysgnau puredig yn dal i fod yn destun rheoliadau labelu bwyd, ac felly bydd yn cael ei restru fel ‘olew pysgnau’ pan gaiff ei ddefnyddio mewn bwyd a becynnir ymlaen llaw.

Gall olew pysgnau a oer-wasgwyd, neu olew pysgnau (crai) heb ei buro/heb ei brosesu gynnwys proteinau pysgnau, sy’n gallu achosi adwaith mewn pobl sy’n sensitif iddynt. Cofiwch y gelwir olew pysgnau, yn aml, yn olew ‘cnau daear’ (groundnut oil).

Efallai y bydd rhai pobl ag alergedd i bysgnau yn adweithio i fathau eraill o godlysiau hefyd, megis soia, ffa gwyrdd, ffa Ffrengig, pys gwyrdd a bysedd y blaidd, gan fod y bwydydd hyn yn cynnwys alergenau tebyg i bysgnau. Er nad yw pysgnau, a bod yn fanwl gywir, yn gnau, o bryd i’w gilydd bydd gan bobl sydd ag alergedd i gnau daear hefyd alergedd i gnau megis cnau almon, cnau Ffrengig, cnau pecan, cnau cyll, cnau Brasil a chnau cashiw hefyd.

Beichiogrwydd a bwydo ar y fron

Nid yw’n glir o edrych ar y dystiolaeth ddiweddaraf a yw bwyta pysgnau (neu osgoi bwyta pysgnau) pan wyt ti’n feichiog yn effeithio ar p’un a yw dy blentyn yn datblygu alergedd iddynt. Felly os wyt ti am fwyta pysgnau neu fwyd sy’n eu cynnwys (megis menyn pysgnau) pan wyt ti’n feichiog neu’n bwydo ar y fron, gelli ddewis gwneud hynny, oni bai fod gen ti alergedd iddynt.

Efallai dy fod wedi clywed bod rhai menywod beichiog neu fenywod sy’n bwydo ar y fron yn dewis peidio â bwyta pysgnau. Y rheswm am hyn yw bod y Llywodraeth yn arfer cynghori menywod i osgoi bwyta pysgnau yn ystod y cyfnodau hyn os oedd gan unrhyw un yn nheulu agos y plentyn alergedd, megis asthma, ecsema, clefyd y gwair, alergedd bwyd neu fathau eraill o alergedd. Rhoddwyd y cyngor hwn i fenywod rhag ofn bod bwyta pysgnau pan yn feichiog neu’n bwydo ar y fron yn cynyddu’r perygl bod y baban yn mynd i ddatblygu alergedd i bysgnau. Ond newidiwyd y cyngor hwn ym mis Awst 2009 gan nad yw’n glir o edrych ar y gwaith ymchwil diweddaraf a yw bwyta pysgnau ar yr adegau hyn yn effeithio ar p’un a yw dy blentyn yn datblygu alergedd i bysgnau.

Babanod a phlant

Os yw dy blentyn eisoes wedi cael diagnosis ei fod ag alergedd, megis alergedd bwyd neu ecsema, neu os oes gan unrhyw un yn ei deulu agos hanes o alergedd (os oes gan ei rieni neu frodyr neu chwiorydd alergedd megis alergedd bwyd, asthma, ecsema, clefyd y gwair, neu fath arall o alergedd) yna maent mewn mwy o berygl o ddatblygu alergedd i bysgnau. Felly, dylet siarad â dy feddyg teulu, dy ymwelydd iechyd neu arbenigwr meddygol ar alergeddau cyn i ti roi pysgnau neu fwyd sy’n eu cynnwys i dy blentyn am y tro cyntaf.

Os nad yw dy blentyn wedi cael diagnosis o’r fath ac nad oes unrhyw hanes o alergedd yn ei deulu agos, gelli ddewis rhoi pysgnau neu fwyd sy’n eu cynnwys iddo ar ôl iddo gyrraedd chwe mis oed. Ond cofia eu malu’n fân – paid byth â rhoi pysgnau neu gnau cyfan i blant o dan bump rhag ofn iddynt dagu arnynt.

Pan fyddi di’n rhoi pysgnau i dy fabi am y tro cyntaf, cofia gadw llygad am unrhyw adwaith alergaidd. Os wyt ti’n meddwl bod dy blentyn yn cael adwaith alergaidd, dylet gael cyngor meddygol ar frys.

Mae hefyd yn syniad da cyflwyno bwyd sydd fwyaf tebygol o achosi alergeddau (megis pysgnau, cnau eraill, hadau, llaeth, wyau, gwenith, pysgod a physgod cregyn) fesul un. Fel hyn, os yw dy blentyn yn cael adwaith alergaidd, mae’n haws dweud beth a’i hachosodd.

Os oes gen ti unrhyw gwestiynau neu bryderon am b’un a ddylai dy blentyn fod yn bwyta pysgnau, cofia eu trafod â dy feddyg teulu, dy ymwelydd iechyd neu weithiwr iechyd proffesiynol arall.