Alergedd i gnau
O bryd i’w gilydd, bydd pobl ag alergedd i un math o gnau yn adweithio i fathau eraill o gnau hefyd. Os bydd gennych alergedd i gnau, bydd yn rhaid i chi ofalu eich bod yn osgoi cnau ac olew cnau heb ei goethi (crai). Siaradwch â’ch meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall i gael cyngor.
Ers mis Tachwedd 2005, mae rheolau labelu bwyd yn ei wneud yn ofynnol i fwyd a becynnir ymlaen llaw a werthir yn y DU, ac yng ngweddill yr Undeb Ewropeaidd, ddangos yn eglur ar y label os yw’n cynnwys cnau (neu os bydd un o’r cynhwysion eu cynnwys). Cofiwch y gallai bwydydd fod ar y silffoedd o hyd a gynhyrchwyd cyn y dyddiad hwn.
A bod yn fanwl gywir, codlysiau yw cnau daear, nid cnau, ac maent yn tyfu o dan y ddaear, lle bo cnau yn tyfu ar goed. Gweler yr adran ynghylch alergedd i gnau daear.





