Alergedd i fwstard
Bydd pobl sydd ag alergedd i fwstard yn adweithio i unrhyw fwyd a ddaw o’r planhigyn mwstard, gan gynnwys jariau o fwstard, powdr mwstard, dail, hadau a blodau mwstard, hadau mwstard sydd wedi egino, olew mwstard, a bwydydd sy’n cynnwys y rhain.Ers mis Tachwedd 2005, mae rheolau labelu bwyd yn ei wneud yn ofynnol i fwyd a becynnir ymlaen llaw a werthir yn y DU neu yng ngweddill yr Undeb Ewropeaidd (UE) ddangos yn eglur ar y label os yw’n cynnwys mwstard (neu os yw un o’i gynhwysion yn ei gynnwys). Cofiwch y gallai bwydydd fod ar y silffoedd o hyd a gynhyrchwyd cyn y dyddiad hwn.
Mae mwstard a berwr traddodiadol yn cynnwys eginblanhigion a dyfwyd o hadau mwstard ac, am na chaiff ei becynnu ymlaen llaw yn gyffredinol, ni fyddai’n rhaid labelu ei fod yn cynnwys mwstard. Ond daw llawer o’r hyn a werthir fel ‘berwr’ yn y DU o blanhigion eraill, ac nid yw’n cynnwys unrhyw fwstard.





