Text only

Alergedd ac anoddefiad llaeth


milk poured

Alergedd i laeth gwartheg yw’r math mwyaf cyffredin o alergedd bwyd yn ystod plentyndod, ac mae’n effeithio ar rhwng 2 a 7% o fabanod o dan flwydd oed. Mae’n fwy cyffredin mewn babanod a chanddynt dermatitis atopig (brech ar y croen a achosir gan adwaith alergaidd).

Pan fydd gan faban alergedd i laeth gwartheg, gall adweithio i symiau bach o brotein llaeth, a drosglwyddir i’r baban naill ai trwy laeth o fron y fam o gynhyrchion llaeth a fwytawyd ganddi, neu o laeth gwartheg, neu o fformiwla a wnaed o laeth gwartheg ac a roddwyd i’r baban.

Nid yw fformiwla babanod a fformiwla ddilynol a wnaed o brotein llaeth geifr yn ddewisiadau amgen addas i fabanod sydd ag anoddefiad neu alergedd i fformiwlâu llaeth gwartheg.

Y rheswm am hyn yw bod rhai o’r proteinau mewn llaeth geifr yn debyg i’r rhai sydd i’w cael mewn llaeth gwartheg, a bydd y rhan fwyaf o’r babanod sy’n adweithio i brotein llaeth gwartheg yn debygol o adweithio i brotein llaeth geifr hefyd. Am fod y lefelau lactos yn debyg yn y ddau fath o laeth, mae fformiwlâu sy’n deillio o laeth geifr yn anaddas i fabanod sydd ag anoddefiad lactos hefyd.

Nid yw fformiwlâu babanod a wnaed o laeth geifr a fformiwlâu dilynol a wnaed o brotein llaeth geifr wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio yn Ewrop. Os ydych chi’n defnyddio fformiwla llaeth geifr i fwydo’ch baban ar hyn o bryd, mae’n bwysig i chi geisio cyngor eich gweithiwr iechyd proffesiynol ynglŷn â’r math mwyaf priodol o fformiwla ar gyfer anghenion eich baban cyn newid at fformiwla wahanol.

Cofiwch nad yw llaeth gwartheg cyffredin (a llaeth o ddefaid a geifr) yn addas i’w hyfed gan fabanod o dan flwydd oed. Y rheswm am hyn yw nad yw’n cynnwys y cydbwysedd cywir o ran maetholynnau i fodloni anghenion babanod, er enghraifft, nid yw’n cynnwys digon o haearn.

Fel arfer, bydd alergedd i laeth yn diflannu mewn plant erbyn iddynt fod yn dair blwydd oed, ond bydd tua un o bob pum plentyn sydd ag alergedd i laeth gwartheg yn alergaidd iddo o hyd fel oedolion. Yn aml, bydd symptomau alergedd i laeth yn ysgafn, a gallant effeithio ar unrhyw ran o’r corff. Gall y rhain cynnwys brechau, dolur rhydd, chwydu, crampiau yn y stumog ac anhawster anadlu. Mewn rhai achosion prin, gall alergedd i laeth achosi anaffylacsis.

Achosir alergedd i laeth gwartheg gan adwaith i nifer o broteinau mewn llaeth gwartheg, a gall pobl adweithio i laeth cyflawn, neu gasein neu faidd. Casein yw’r ceuled sy’n ffurfio pan fydd llaeth yn suro, a maidd yw’r rhan ddyfrllyd sydd ar ôl ar ôl tynnu’r ceuled oddi yno.

Gall pobl ddioddef alergedd i naill ai maidd neu gasein, neu’r ddau, a gallant adweithio i symiau bach o’r rhain. Bydd triniaeth gwres, fel pasteureiddio, yn newid maidd, felly efallai na fydd pobl sy’n sensitif i faidd yn adweithio i laeth pasteureiddiedig. Ond nid yw triniaeth gwres yn effeithio ar gasein, felly bydd rhywun sydd ag alergedd i gasein, mwy na thebyg, yn adweithio i bob math o laeth a chynhyrchion llaeth.

Ers mis Tachwedd 2005, mae rheolau labelu bwyd yn ei wneud yn ofynnol i fwyd a becynnir ymlaen llaw a werthir yn y DU, ac yng ngweddill yr Undeb Ewropeaidd, ddangos yn eglur ar y label os yw’n cynnwys llaeth neu unrhyw gynhwysion llaeth. Mae hyn yn gymwys i laeth defaid, geifr a byfflo, yn ogystal â gwartheg. Cofiwch y gallai bwydydd fod ar y silffoedd o hyd a gynhyrchwyd cyn y dyddiad hwn.

Yn y gorffennol, defnyddiwyd llaeth anifeiliaid eraill (fel geifr a defaid) fel amnewidyn ar gyfer babanod sydd mewn perygl o ddatblygu alergedd i laeth gwartheg. Ond mae’r alergenau sy’n bresennol mewn llaeth geifr a defaid yn debyg iawn i’r rhai a geir mewn llaeth gwartheg. Mae hyn yn golygu y gall rhywun sydd ag alergedd i laeth gwartheg adweithio i’r mathau eraill hyn o laeth hefyd. Mae llai o bobl yn dioddef alergedd i laeth geifr a defaid nag i laeth gwartheg, ond y rheswm am hyn, mwy na thebyg, yw am fod llawer llai o bobl yn yfed y mathau hyn o laeth.

Mae rhai mathau hynod hydroleiddiedig o fformiwlâu llaeth yn addas i fabanod sydd ag alergedd i laeth gwartheg, ond nid yw mathau eraill o fformiwla, fel llaeth rhannol hydroleiddiedig a fformiwlâu soia, yn cael eu hargymell fel prif ddewisiadau, oherwydd efallai y bydd llawer o fabanod ag alergedd i laeth gwartheg yn adweithio iddynt hefyd.

Os bydd gan eich baban alergedd i laeth gwartheg, siaradwch â’ch meddyg teulu neu ymwelydd iechyd cyn dewis fformiwla, neu cyn newid i fath gwahanol. Mae llawer o’r bwydydd babanod y gallwch eu prynu yn cynnwys protein o laeth, felly os bydd eich baban yn adweithio i laeth gwartheg, gwiriwch y label yn ofalus.

Mae anoddefiad llaeth, a elwir hefyd yn anoddefiad protein llaeth gwartheg, yn gyffredin mewn babanod a phlant. Mae’n wahanol i alergedd i laeth ac anoddefiad lactos. Gall plant sydd ag anoddefiad llaeth ddioddef symptomau y tro cyntaf y byddant yn cael llaeth gwartheg. Gall symptomau anoddefiad llaeth gynnwys ecsema, chwydu, dolur rhydd a chrampiau stumog, ond nid llosg danadl na phroblemau anadlu (symptomau alergedd i laeth). Yn aml, bydd plant sydd ag anoddefiad llaeth yn gwella erbyn y daw’n amser iddynt ddechrau mynychu’r ysgol.

Peidiwch â thorri llaeth a chynhyrchion llaeth o’ch deiet, nac o ddeiet eich plentyn, heb siarad â’ch meddyg teulu neu ddeietegydd. Fel arall, efallai na fyddwch chi neu’ch plentyn yn cael digon o faetholynnau pwysig fel calsiwm.