Text only

Syndrom latecs-bwyd


woman

Achosir alergedd latecs gan adwaith i nifer o alergenau sydd i’w canfod mewn rwber neu latecs naturiol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y bobl ag alergedd i latecs wedi cynyddu, yn arbennig ymysg gweithwyr gofal iechyd a phobl sy’n dioddef spina bifida, am eu bod yn dod i gysylltiad â llawer o gynhyrchion latecs.

Mae latecs yn cynnwys llawer o alergenau sy’n debyg i’r alergenau mewn rhai bwydydd, felly efallai y bydd pobl sydd ag alergedd i latecs yn canfod eu bod hefyd yn adweithio i fwydydd fel afalau, afocado, banana, moron, seleri, ceirios, cnau castan, cnau coco, ffrwyth ciwi, mango, paprica, a mefus. Gelwir hyn yn syndrom latecs-bwyd. Yn yr un modd, efallai y bydd pobl ag alergedd i’r bwydydd hyn yn adweithio i latecs hefyd.

Dylid profi pobl ag alergedd i latecs am alergeddau i fwydydd sy’n gysylltiedig â syndrom latecs-bwyd.

Mae ychydig o ymchwil gychwynnol wedi awgrymu y gallai symiau bach o latecs gael ei drosglwyddo i fwyd o fenig a ddefnyddir gan drinwyr bwyd, neu o rai pecynnau neu labeli. Ond ar hyn o bryd nid oes digon o dystiolaeth i nodi’n bendant a yw latecs yn cael ei drosglwyddo i fwyd fel hyn, neu a allai hyn fod yn broblem i bobl ag alergedd i latecs. Mae’r ASB wedi comisiynu mwy o ymchwil i’r maes hwn.