Alergedd i ffrwyth ciwi
Cyflwynwyd ffrwyth ciwi i’r DU gyntaf yn ystod y 1970au. Ers hynny, mae wedi dod yn ffrwyth poblogaidd yn neiet y DU.
Mae nifer o bobl wedi adrodd adweithiau alergaidd i ffrwyth ciwi. Bu rhai o’r adweithiau hyn yn ddifrifol, yn arbennig mewn plant, ac ymddengys bod nifer y bobl sy’n adweithio i ffrwyth ciwi ar gynnydd. Efallai bod hyn yn gysylltiedig â chynnydd cyffredinol mewn clefydau alergaidd, yn ogystal â’r ffaith bod ffrwyth ciwi yn dod yn fwy poblogaidd.
Mewn oedolion, bydd alergedd i ffrwyth ciwi yn ymddangos, fel arfer, mewn pobl ag alergedd i latecs neu baill bedw, am fod y rhain yn cynnwys alergenau tebyg i ffrwyth ciwi. Gweler yr adran ynghylch syndrom latecs-bwyd.
Mewn oedolion, fel arfer bydd symptomau alergedd i ffrwyth ciwi yn gymharol ysgafn, ond gall fod yn fwy difrifol mewn plant ac o bryd i’w gilydd gall achos anaffylacsis. Nid yw arbenigwyr yn deall yn llawn pam ei fod yn ymddangos bod oedolion a phlant yn adweithio’n wahanol i ciwi. Gallai fod yn gysylltiedig â’r oedran y byddant yn dechrau bwyta ffrwyth ciwi, neu mae’n bosibl y bydd oedolion a phlant yn adweithio i alergenau gwahanol yn y ffrwyth.
Dylai pobl ag alergedd i ffrwyth ciwi osgoi’r ffrwyth (ar ffurf ffrwyth heb ei goginio, piwrî neu sudd). Mae’n annhebygol y bydd y rhan fwyaf o bobl sydd wedi bod yn bwyta ciwi yn rheolaidd yn adweithio.





